Asesu canlyniadau seilwaith cymdeithasol: Rhoi offeryn asesu ar waith ac ysgogi effaith
Pontio ymchwil ac ymarfer: Grymuso bwrdeistrefi yn Llundain drwy gyflwyno offeryn ar gyfer gwerthuso a gwella seilwaith cymdeithasol i sicrhau cydlyniant cymdeithasol cryfach
Amdanon ni
Nod y prosiect hwn yw ysgogi effaith ymchwil flaenorol drwy ehangu gwaith ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, Awdurdod Llundain Fwyaf a dwy fwrdeistref yn Llundain. Y nod yw eu helpu i integreiddio offeryn asesu, a ddatblygwyd yn flaenorol gan y tîm academaidd, yn rhan o arferion bwrdeistrefi yn Llundain.
Mae'r offeryn hwn yn pwyso a mesur pa mor effeithiol yw seilwaith cymdeithasol ac yn asesu pa mor dda y mae'n sicrhau’r canlyniadau a fwriedir ac yn cefnogi cydlyniant cymdeithasol. Mae'r fenter hon yn mynd i'r afael ag anghysondebau o ran deall, asesu, cynllunio a sicrhau seilwaith cymdeithasol mewn bwrdeistrefi yn Llundain, a thrwy hynny’n cefnogi agenda integreiddio cymdeithasol y maer ac agenda ffyniant bro’r DU.
Gwybodaeth allweddol
- Dyddiad dechrau: 01/10/24
- Dyddiad gorffen: 31/03/2025
- Swm y cyllid a’r cyllidwr: £14,953.36, wedi'i ariannu gan Bartneriaethau Cyfnewid Gwybodaeth Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)
Nodau
- Asesu cydlyniant cymdeithasol yn well: Datblygu ymhellach a safoni SOCIAL-US yn offeryn i werthuso effaith dylunio, rheoli a defnyddio seilwaith cymdeithasol ar gydlyniant cymdeithasol mewn pedwar maes allweddol (perthyn, cynhwysiant, cyfranogiad, cydnabyddiaeth)
- Gwella penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan randdeiliaid: Rhoi fframwaith asesu cynhwysfawr i lunwyr polisïau, cynllunwyr a rhanddeiliaid ar gyfer dylunio, rheoli a defnyddio seilwaith cymdeithasol
- Safoni dulliau o werthuso seilwaith cymdeithasol mewn bwrdeistrefi yn Llundain: Dyfnhau’r cydweithio ag Awdurdod Llundain Fwyaf i nodi dull unedig o asesu cymdeithasol seilwaith cymdeithasol mewn bwrdeistrefi yn Llundain
- Datblygu offeryn digidol hawdd ei ddefnyddio: Gwneud SOCIAL-US yn rhaglen ar y we ar wefan Awdurdod Llundain Fwyaf, gan ei gwneud yn hygyrch i’w defnyddio ledled y DU
- Hysbysu polisi trefol y dyfodol: Cynhyrchu gwybodaeth ar sail tystiolaeth i lywio polisïau ar ddylunio, rheoli a defnyddio seilwaith cymdeithasol
Tîm y prosiect
Dr Patricia Lopes Simoes Aelbrecht
Uwch Ddarlithydd mewn Dylunio Trefol, Cynllunio ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol
Mae’r tîm allanol a phartneriaid yn cynnwys Awdurdod Llundain Fwyaf a bwrdeistrefi Camden a Hackney yn Llundain.