Cwestiynau Cymdeithasol-ecolegol a Dewisiadau Bio-economaidd Amgen: Safbwyntiau Newydd ar Ddatblygu yn yr Amason a Ffiniau Cyfiawnder Amgylcheddol
Partneriaeth rhwng y DU a Brasil i nodi dewisiadau bio-economaidd amgen ar gyfer cyfiawnder amgylcheddol yn yr Amason a ledled y byd
Amdanon ni
Bydd y fenter ddwyochrog yn ystyried dulliau methodolegol newydd o fynd i’r afael â heriau datblygu prif ffrwd a newid cymdeithasol-ecolegol yn yr Amason a thu hwnt.
Ers 2016 yn enwedig, wrth i gloddio, masnachu cyffuriau a datgoedwigo ddwysáu, mae’r pwysau ar gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd wedi cynyddu, gan waethygu’r effaith ar dir, dŵr a bioamrywiaeth ac achosi anghydraddoldebau i’r preswylwyr mwyaf agored i niwed. Mae problemau amlwg gyda ffyrdd, isadeiledd, amaethyddiaeth sy’n canolbwyntio ar allforio a gwaith echdynnu adnoddau, sy’n gwaethygu anghyfiawnderau hinsoddol ac amgylcheddol.
O ystyried y penblethau hynny a blaenoriaethau’r fenter Amazon +10, bydd ymdrech ar y cyd i ystyried y tueddiadau a’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â datblygu hyd yma a dewisiadau bio-economaidd amgen. Bydd gwaith maes yn digwydd yng nghanol yr Amason mewn rhanbarth lle mae gwaith echdynnu ac allforio cynhyrchion amaethyddol wrth y ffin rhwng Mato Grosso a Pará wedi effeithio’n ddifrifol arni.
Wrth ymchwilio’n feirniadol i brofiadau bywyd o gynhyrchiad a chadwraeth, bydd ffocws ar wybodaeth leol, arferion brodorol a chymhlethdodau ffiniau economaidd-gymdeithasol. Bydd y gwaith yn cael ei lywio gan wahanol safbwyntiau, gwerthoedd a gofynion am wasanaethau ecosystemau sy’n gallu gwella lles pobl sy’n agored i niwed, wrth ymchwilio i strategaethau sy’n hybu arloesi a thrawsnewid wrth ddatblygu’n lleol ac yn rhanbarthol.
Ffeithiau allweddol
- Dyddiad dechrau: 01 Ionawr 2025
- Dyddiad gorffen: 31 Awst 2025
- Swm y cyllid a’r cyllidwr: £53,200 – British Council a'r Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol
Nodau
- Trin a thrafod yr heriau mawr i reoli cynaliadwy, megis mynd i’r afael â datgoedwigo cynyddol, disbyddu adnoddau ac allgáu cymdeithasol, gan mai pobl mewn ardaloedd trefol a gwledig sy’n teimlo effaith goblygiadau newid cyflym mewn ecosystemau fwyaf
- Ystyried y mecanweithiau sy’n bodoli eisoes ar gyfer rheoli ecosystemau a mynd i’r afael â’r tlodi ymhlith pobl y mae risgiau amgylcheddol cynyddol a chystadlu am adnoddau’n effeithio arnyn nhw
- Ystyried atebion polisi amgen i fynd i'r afael â bregusrwydd cymdeithasol-ecolegol, gwneud argymhellion ar gyfer deall y gwerth y mae gwahanol bobl yn ei roi ar yr amgylchedd, a chynnig strategaethau ar gyfer hybu arloesi bio-economaidd a datblygu integredig a theg
Tîm y prosiect
- Yr Athro Vitale Joanone Neto (Prif Ymchwilydd Brasil), Prifysgol Ffederal Mato Grosso
- Yr Athro Julio César dos Santos (Is-ganghellor Sefydliad Ffederal Mato Grosso)
- Dr Denise Machado Cardoso, Prifysgol Ffederal Pará
- Dr Thais Tartalha, Prifysgol Ffederal ABC (São Paulo)
- Yr Athro Klaus Glenk, Coleg Amaethyddol yr Alban
- Dr Elena Lengthorn, Prifysgol Caerwrangon