Ewch i’r prif gynnwys

BuildZero: trawsnewid adeiladau'r DU er mwyn peidio echdynnu deunydd, heb gynhyrchu carbon a heb gynhyrchu gwastraff

Creu stoc adeiladu nad yw bellach yn dibynnu ar echdynnu adnoddau newydd yw gweledigaeth BuildZero, gan ddefnyddio'r economi gylchol i ddiwallu’r anghenion am ddeunyddiau, a dileu gwastraff ac allyriadau carbon yn sgil echdynnu a chynhyrchu deunyddiau.

Amdanon ni

Bydd BuildZero yn ymchwilio i wasanaethau ar sail yr economi gylchol ar sawl graddfa, wedi'u nodi, eu creu a'u cyflwyno ar y cyd gyda chonsortiwm diwydiannol bywiog. Ein nod yw asesu i ba raddau y gellir cyflawni gweledigaeth BuildZero yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac mewn perthynas ag adeiladau unigol.

Y bwriad hefyd yw adnabod ym mha amodau y mae gweledigaeth BuildZero yn arwain at ddeilliannau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ffafriol. Bydd y sylfaen wybodaeth newydd yn rhoi llwyfan i wireddu’r gwasanaethau hyn a’u rhoi ar waith ar raddfa ehangach, gan ysgogi polisïau rhanbarthol a chenedlaethol i greu newid go iawn.

Gwybodaeth allweddol

  • Dyddiad dechrau: 1 Gorffennaf 2024
  • Dyddiad gorffen: 30 Mehefin 2029
  • Swm ariannu a’r ariannwr: Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol y DU
    • Cyfanswm y grant yw £6.4 miliwn

Tîm y prosiect

Picture of Kersty Hobson

Yr Athro Kersty Hobson

Athro mewn Daearyddiaeth Ddynol, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu

Telephone
+44 29206 88682
Email
HobsonK@caerdydd.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am ein tîm, ewch i wefan prosiect BuildZero.