Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-osod Trefol y DU

Uwchraddio addasiadau i leoedd yn yr amgylchedd adeiledig drwy systemau cynllunio a datblygu.

Amdanon ni

Cydnabyddir yn gyffredinol bod datblygiadau lle na chaiff tai eu clystyru yn anghynaladwy ac yn cynhyrchu llawer o nwyon tŷ gwydr. Serch hynny, mae’r rhan fwyaf o ddatblygiadau yn y DU yn cael eu hadeiladu ar dir glas lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn wael a gwasanaethau’n brin. Os yw’r DU o ddifrif ynglŷn â ‘sero net’, mae angen ffyrdd newydd o gynllunio a datblygu ar fyrder.

Diffinnir ‘ôl-osod trefol’ fel atgyweirio lleoedd sy’n bodoli eisoes drwy addasu ffurf drefol i leihau’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon, diogelu’r amgylchedd a chynnal ffyrdd cynaliadwy o fyw. Mae newidiadau i gynllun cymdogaethau yn dechrau cael eu cyflwyno, gan gynnwys drwy raglenni seilwaith fel lonydd beiciau ar wahân, polisïau cynllunio sy'n annog clystyrau o dai, a phrosiectau cymunedol fel gwyrddio trefol.

Y broblem yw bod camau gweithredu yn araf, yn dameidiog ac yn gynyddol ddadleuol. Mae buddsoddiad yn aml yn llifo i leoedd cefnog yn hytrach na chymunedau sydd â'r angen mwyaf am gymorth, ac mae'r gweithredwyr perthnasol yn systemau cynllunio a datblygu'r DU yn wynebu heriau cyflawni amrywiol. Mae inertia sefydliadol ac arian sydd â therfyn amser yn achosi anawsterau i awdurdodau cynllunio, gan olygu bod cynlluniau ôl-osod wedi'i gydlynu'n wael.

Mae datblygwyr eiddo yn cadw at fodelau busnes profedig i leihau risg. Mae hyn yn arwain at ffafrio datblygiadau un-defnydd ar dir glas heb eu clystyru, yn hytrach na phrosiectau defnydd cymysg ar dir llwyd. Mae cymunedau'n wynebu heriau o ran capasiti ac mae camau addasu lleoedd yn aml yn cael eu herio. Os yw’r DU am gyrraedd ei thargedau sero net a thrawsnewid mewn modd cyfiawn, rhaid i ôl-osod trefol gael ei flaenoriaethu, ei gyfarwyddo’n deg a’i roi ar waith yn fwy effeithiol.

Bydd ÔL-OSOD TREFOL Y DU yn cael ei arwain gan Ganolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai. Caiff ei gydgynhyrchu â phartneriaid cynllunio rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, partneriaid eiddo a chymuned, gan gynnwys mewn pum dinas graidd yn y DU - Belfast, Bryste, Caerdydd, Glasgow a Sheffield. Ei nod yw edrych ar y rhwystrau i ôl-osod trefol, herio’r rhesymeg sydd ar waith yn gyffredinol o ran twf cynllunio a datblygu, a chydgynhyrchu fframwaith cysyniadol sy'n amlinellu'r pwyntiau ymyrryd hanfodol sydd eu hangen i gynyddu ôl-osod drwy systemau cynllunio a datblygu.

Ffeithiau allweddol

  • Dyddiad dechrau: Hydref 2024
  • Dyddiad gorffen: Hydref 2027
  • Y swm a’r ariannwr: £1.77 miliwn, ESRC

Nodau

Amcanion y prosiect hwn yw:

  • Cynnal adolygiad o dystiolaeth fyd-eang ar ôl-osod trefol wedi'i lywio gan bartneriaid rhyngwladol a thaith astudio.
  • Nodi ac ymchwilio i gyfres o achosion ôl-osod trefol mewn cydweithrediad â phartneriaid awdurdodau lleol i ddeall beth sy'n gweithio a nodi lle gellid cau bylchau o ran rhoi cynlluniau ar waith.
  • Gweithio gyda phartneriaid i ddeall lle mae'r anghydraddoldebau gofodol o ran arferion ôl-osod trefol ar hyn o bryd a sut gellid mynd i'r afael â'r rhwystrau i gynyddu arferion effeithiol a theg.
  • Sefydlu rhwydwaith o GANOLFANNAU ÔL-FFITIO TREFOL rhyngwladol rhwng dinasoedd y DU a’r Gogledd Byd-eang sy’n wynebu heriau tebyg o ran addasu lleoedd a dechrau partneriaethau dysgu dwy ffordd newydd gyda dinasoedd y De Byd-eang lle mae’r cyd-destun ar gyfer ôl-osod trefol yn wahanol ond bod cyfleoedd ar gael i edrych ar y gwersi a ddysgwyd.
  • I fanteisio’n llawn ar gyfnewid gwybodaeth ar draws sectorau a rhwng lleoedd, bydd canfyddiadau ÔL-OSOD TREFOL Y DU yn cael eu rhannu drwy gydol cyfnod y prosiect mewn digwyddiadau a ddarperir ar y cyd â phartneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol drwy rwydwaith CANOLFANNAU ÔL-OSOD TREFOL.
  • Bydd safbwyntiau damcaniaethol newydd ar systemau cynllunio a datblygu’r DU a thystiolaeth empirig wedi’i chydgynhyrchu ar ôl-osod trefol yn cael eu rhannu drwy symposiwm rhyngwladol ac adolygiad o dystiolaeth, adroddiad, ffilm ac erthyglau cylchgronau, ac allbynnau academaidd gan gynnwys erthyglau a llyfr wedi’i olygu.

Tîm y prosiect

Picture of Ruth Potts

Ruth Potts

Uwch Ddarlithydd Cynllunio Gofodol, Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedigion

Telephone
+44 29208 74970
Email
PottsR1@caerdydd.ac.uk
  • Yr Athro James White (Prifysgol Glasgow)
  • Dr Philip O'Brien (Prifysgol Glasgow)
  • Dr Sarah Payne (Sheffield)
  • Dr Gareth James (Prifysgol Glasgow)
  • Dr Jeff Biggar (Prifysgol Dalhousie)
  • Hannah Hickman (Prifysgol Gorllewin Lloegr)
  • Dr Andy Inch (Prifysgol Sheffield)