Ewch i’r prif gynnwys

Cymdogaethau yn unig? Tangynrychiolaeth ym maes cynllunio a arweinir gan y gymuned yn y DU

Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i gynllunio a arweinir gan y gymuned ym mhedair gwlad y DU, gan ganolbwyntio ar ardaloedd lleol lle mae'r nifer sy'n manteisio ar y mentrau hyn yn llai na’r arfer.

Amdanon ni

Mae cynllunio a arweinir gan y gymuned yn cyfeirio at weithgareddau defnyddio tir neu gynllunio gofodol sy’n cael eu harwain (neu sydd o leiaf yn cael eu llywio) gan aelodau o'r gymuned yn hytrach na gweithwyr cynllunio proffesiynol. Eu diben yw ysgogi cymunedau lleol i helpu i lywio dyfodol eu cymdogaeth.

Er gwaethaf yr angen brys am fwy o gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, mae’r cysylltiad rhwng gwneud y broses gynllunio yn fwy democrataidd yn y modd hwn a chyflawni canlyniadau cyfiawn yn aneglur. Mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch cynrychiolaeth, cynhwysiant ac atebolrwydd, yn enwedig mewn mannau lle mae cynllunio a arweinir gan y gymuned wedi bod yn llai llwyddiannus yn gyffredinol.

Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i gynllunio a arweinir gan y gymuned ym mhedair gwlad y DU, gan ganolbwyntio ar ardaloedd lleol lle mae'r nifer sy'n manteisio ar y mentrau hyn yn llai na’r arfer.

Dyddiadau a chyllid

  • Dyddiad dechrau: Medi 2023
  • Dyddiad gorffen: Chwefror 2026
  • Swm y cyllid a’r cyllidwr: £269,614. Sefydliad Nuffield

Nodau

  1. Ymchwilio i’r ddealltwriaeth o gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol ymhlith cymunedau dethol ledled y DU
  2. Ymchwilio i natur cynrychiolaeth a chynwysoldeb mewn mannau cynllunio a arweinir gan y gymuned a'i pherthynas â chanlyniadau
  3. Deall sut mae cynllunio a arweinir gan y gymuned o ran ei ddiben, y broses a’r arfer yn llywio ffurfiau a chanlyniadau’r gweithgareddau
  4. Asesu gwerth ychwanegol arddangosfeydd cynllunio dan arweiniad y gymuned mewn perthynas â chanlyniadau cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol
  5. Rhannu canllawiau arfer gorau â chymunedau, y llywodraeth, ac eraill sy'n ymwneud â llywio ac ymarfer cynllunio a arweinir gan y gymuned.

Tîm y prosiect

Picture of Matthew Wargent

Dr Matthew Wargent

Darlithydd mewn Cynllunio a Datblygu Trefol

Telephone
+44 29208 75281
Email
WargentM@caerdydd.ac.uk
  • Yr Athro Gavin Parker, Prifysgol Reading
  • Yr Athro John Sturzaker, Prifysgol Swydd Hertford
  • Dr Tessa Lynn, Prifysgol Reading