Ewch i’r prif gynnwys

Rydyn ni’n gofalu am ein tylwyth ein hunain: Ymchwiliad ethnograffig-diwinyddol i’r profiad o ofal yng nghyd-destun dementia ar draws dau ddiwylliant

Ymchwilia’r prosiect hwn i sut y gall safbwyntiau’r gymuned frodorol a’r gymuned alltud ar ofal dementia ddyfnhau’r ddealltwriaeth ddiwinyddol o ofal dementia a’r arferion diwinyddol sydd ynghlwm wrtho.

Manylion

Dyma’r hyn y mae’r prosiect hwn yn ei ofyn: sut y gall safbwyntiau’r gymuned frodorol a’r gymuned alltud ar y prif materion ynghylch gofal dementia – cariad a charennydd – ddyfnhau’r ddealltwriaeth ddiwinyddol o ofal dementia a’r arferion diwinyddol sydd ynghlwm wrtho?

Gan ymateb i’r diffyg ymchwil ar ddementia o fewn cymunedau y tu hwnt i’r rheiny yn y Gogledd Byd-eang ym maes diwinyddiaeth ymarferol, mae'r prosiect hwn yn ymgysylltu â’r rhai sy’n rhoi gofal, yn ogystal â’r rheiny sy'n dioddef o ddementia ymhlith pobl Gunadule yn Panama a phobl Affricanaidd Caribïaidd ym Mhrydain.

Ochr yn ochr â chyhoeddiadau academaidd, nod y prosiect hwn yw cael effaith ehangach ar y cyhoedd drwy gyhoeddi adroddiad hygyrch ar sail yr astudiaeth. Ein gobaith hefyd bydd cysylltu â’r sefydliadau gofal henoed canlynol, sef HammondCare Awstralia a HammondCare UK, er mwyn rhoi’r canfyddiadau hyn ar waith.

Mae Dr Robert Heimburger yn cydweithio ar y prosiect gyda'r Athro John Swinton (Prifysgol Aberdeen) a Mag. Jocabed Reina Solano Miselis (Panama; NAIITS, cymuned ddysgu frodorol).

Ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC)

Prif Ymchwilydd

Picture of Robert Heimburger

Dr Robert Heimburger

Darlithydd mewn Moeseg a Diwinyddiaeth Gristnogol

Email
Heimburger@caerdydd.ac.uk