Ewch i’r prif gynnwys

Datgladdu a Symud Ymaith Gweddillion Esgyrnegol ar ôl Marwolaeth: Dull iso-histolegol arloesol i ymchwilio i arferion angladdol Maiaidd yn ystod y cyfnod cyn-hispanaidd

Nod prosiect PHEMOR yw ail-greu symud ymaith gweddillion dynol ar ôl marwolaeth o safleoedd Maiaidd yn ystod y cyfnod cyn-hispanaidd (250 BCE i 1525 CE) drwy ddefnyddio dull iso-histolegol arloesol.

Manylion

Bydd y canlyniadau'n trawsnewid ein dealltwriaeth o arferion angladdol ac yn gwella ein gallu i ail-greu’r broses fudo mewn cymunedau Maiaidd yn ystod y cyfnod cyn-hispanaidd. Hwn yw’r prosiect cyntaf i gyfuno dulliau isotopig a histolegol at y diben hwn. Bydd PHEMOR yn gwneud datblygiadau methodolegol a fydd yn dod â manteision parhaus i archeolegwyr ledled y byd.

Bydd naratif o rôl symudiad ar ôl marwolaeth yng nghyd-destun ymddygiad angladdol Maiaidd yn cael ei ddatblygu trwy ddefnyddio'r dull newydd yma i drin a thrafod dros 100 o unigolion o'r ddau ryw o gyd-destunau angladdol a chyd-destunau nad ydynt yn angladdol mewn 11 safle Maiaidd o’r cyfnod cyn-hispanaidd yn Belize, Guatemala, a Mecsico. Mae gwahaniaethu rhwng unigolion nad oeddent yn lleol a symudodd yn ystod eu hoes oddi a’r rhai a gafodd eu symud ymaith ar ôl marwolaeth hefyd yn angenrheidiol ar gyfer ail-greu’r broses fudo yn y gorffennol yn gywir, gan fod y ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol sy'n dylanwadu ar bob un yn wahanol.

Felly, bydd y canlyniadau'n cyfrannu at themâu ymchwil parhaus a themâu sy’n dod i’r amlwg mewn archaeoleg Maiaidd. Ymhlith y rhain mae arwyddocâd hynafiaid sydd wedi marw wrth ffurfio hunaniaethau a chymunedau a goblygiadau unigolion nad oeddent yn lleol ar dyddodion nad ydynt yn angladdol. Bydd y rhain yn llywio astudiaethau yn y dyfodol o arferion angladdol a’r broses fudo Maiaidd.

Technegau

Er bod technegau isotopig a histolegol wedi’u hen sefydlu mewn gwyddoniaeth archeolegol, dyma'r prosiect cyntaf i gyfuno'r dulliau hyn i fynd i'r afael â symud ymaith gweddillion dynol ar ôl marwolaeth mewn archaeoleg ar lefel fyd-eang. Mae'r ymchwil hwn yn canolbwyntio ymhellach ar data archeolegol nad ydym wedi manteisio arnynt - samplau sydd wedi eu newid ar ôl eu claddu gan ddiagenesis.

Felly, mae gan y prosiect hwn fanteision mawr yn yr hirdymor. Mae’n cynnig fframwaith ar gyfer rhyddhau potensial setiau data nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ddigonol ac ar gyfer defnyddio'r dull iso-histolegol arloesol i nodi symudiad gweddillion dynol ar ôl marwolaeth mewn cyd-destunau archeolegol a fforensig eraill.

Ariannwyd y prosiect hwn gan Gymrawd Ôl-ddoethurol Marie Skłodowska Curie Actions a warantwyd gan Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig.

Prif ymchwilwyr

Picture of Richard Madgwick

Dr Richard Madgwick

Darllenydd mewn Gwyddoniaeth Archaeolegol

Telephone
+44 29208 74239
Email
MadgwickRD3@caerdydd.ac.uk
Picture of Asta Rand

Dr Asta Rand

Marie Curie Cymrawd Ôl-ddoethurol

Email
RandA@caerdydd.ac.uk