Ewch i’r prif gynnwys

Paganiaeth Faltig, osteoleg, ac ymchwiliadau newydd i’r dystiolaeth sŵarchaeolegol

Mae prosiect BONEZ yn cymhwyso’r technegau gwyddoniaeth archeolegol mwyaf arloesol er mwyn ymchwilio i’r dimensiwn economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol ac ysbrydol o’r defodau cyhoeddus a ymarferwyd ymhlith y rhwydweithiau o baganiaid olaf i fodoli yng nghylchfa dymherus Ewrop.

Manylion

Rhwng y 1af a'r 14eg ganrif OC, cafodd cymunedau yn Nwyrain y Baltig eu gweddnewid o fod yn llwythau paganaidd heb fawr o gyswllt rhyngddynt i fod yn wladwriaethau Cristnogol cyfunol. Drwy gydol y cyfnod, un o'r arferion diwylliannol mwyaf rhodresgar ac adnabyddus oedd y ddefod o aberthu ceffylau’n gyhoeddus mewn mynwentydd. Mae archeolegwyr wedi astudio olion cyrff y ceffylau hyn yn ddyfal ond ychydig iawn o sylw sy’n cael ei roi i’r defnydd o rywogaethau eraill mewn defodau o’r fath. Gan ddefnyddio technegau gwyddonol biomolecwlaidd, microsgopig a macrosgopig lluosog, bydd ein prosiect yn gofyn y cwestiynau canlynol:

  1. Ai anifeiliaid lleol neu rai a fewnforiwyd o bell i ffwrdd oedd y rheiny a gafodd eu haberthu?
  2. Pam gafodd anifeiliaid neilltuol eu dewis ar gyfer aberthu?
  3. Beth mae'r canlyniadau yn eu datgelu i ni o ran y ffordd y cafodd adnoddau economaidd a chymdeithasol eu dyrannu ar gyfer defodau cyhoeddus?
  4. Gan dalu sylw arbennig at y newid dros amser, ym mha ffyrdd y gwnaeth y pwysau allanol i drosi i Gristnogaeth effeithio ar yr ymarfer o ddefodau yn ystod cyfnodau olaf paganiaeth dan nawdd yr uchelwyr yng nghylchfa dymherus Ewrop?

Allbynnau

Ein prif gyflawniadau yw:

  • Drwy ddadansoddi isotopau, nodi’r ceffylau cyntaf a fewnforiwyd o bell i ffwrdd a gafodd eu haberthu yn Nwyrain y Baltig rhwng yr 11eg ganrif a’r 13eg ganrif OC, ac a gafodd eu mewnforio, siŵr o fod, ar longau a deithiodd ar hyd llwybrau masnachol y Llychlynwyr.
  • I ddangos, drwy ddadansoddi genetig, mai cesyg oedd tua thraean o'r ceffylau a aberthwyd, er bod 150 mlynedd o ymchwil flaenorol yn dadlau mai meirch yn unig a gafodd eu haberthu mewn mynwentydd yn y Baltig.
  • I ddarganfod mai mewn bedd dynol y claddwyd y math cynharaf o gath ddof i gael ei gyflwyno i’r ardal (a gadarnhawyd hynny yn enetig) yn ystod y Cyfnod Rhufeinig.
  • I gynhyrchu’r map strontiwm bio-argaeledd cyntaf ar gyfer gogledd-ddwyrain Gwlad Pwyl, sy'n elfen hanfodol i’r astudiaethau archeolegol modern ar symudedd yn y gorffennol.

Ymdrech ryngwladol yw Bonez sy’n cynnwys cydweithwyr o 14 sefydliad mewn chwe gwlad a fuodd yn llwyddiannus yn ennill cyllid gan y Rhaglen Ymchwil ac Arloesedd Horizon 2020 o dan gytundeb grant Rhif 893072.

Darlun gan Mirosław Kuzma.

Prif ymchwilwyr

Picture of Richard Madgwick

Dr Richard Madgwick

Darllenydd mewn Gwyddoniaeth Archaeolegol

Telephone
+44 29208 74239
Email
MadgwickRD3@caerdydd.ac.uk
Dr Katherine French

Dr Katherine French

Marie-Sklowdowska Curie Research Fellow

Email
frenchk@caerdydd.ac.uk