Ewch i’r prif gynnwys

Gwneud lle i fyd natur

Manylion

Partneriaeth academaidd a menter yw Gwneud lle i fyd natur sy'n canolbwyntio ar y nod o weithio gyda chymunedau lleol i gyd-gynhyrchu cynlluniau i wneud lle i fyd natur.

Noddwyd y prosiect hwn gan y rhaglen Accelerate, rhaglen arloesi gofal iechyd wedi'i halinio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru (Cymru) 20151 a Chynllun Cymru Iachach ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2

Nod craidd ein prosiect oedd gweithio gyda'r gymuned o gwmpas Pentre Awel i gyd-gynhyrchu cynlluniau er mwyn gwella ansawdd mannau naturiol yn yr ardal hon a’r mynediad iddyn nhw.

Trosolwg o’r prosiect

In the first phase of the project, researchers from Cardiff University asked primary school children at Ysgol Pen Rhos and their parents to explore Seaside Park whilst wearing small recorders to record their conversations. These conversations provided naturalistic, open-ended evidence about how children and adults experience nature in their local community.

In the second phase, researchers worked with project partners including children and teachers at Ysgol Pen Rhos to elicit design thinking around how children and adults connect with nature and with each other.

In the third phase, academic and enterprise partners worked with community members and other stakeholders to develop an action plan for nature in the community, centred around the children’s voices. The action plan drew on ideas and priorities children and adults communicated in Phases 1 and 2.

Nodau ac amcanion

Mae Pentre Awel yn ddatblygiad newydd ar hyd arfordir Llanelli fydd yn cynnwys cyfleusterau tai, busnes, addysg, ymchwil, a hamdden.

Mae ein prosiect yn ymgysylltu â phlant, rhieni ac athrawon Ysgol Pen Rhos mewn sgyrsiau penagored am eu cymunedau a'u hamgylcheddau ffisegol, mae’n cynnig tasgau creu creadigol i’w cael i feddwl fel dylunwyr ynghylch sut mae cymunedau yn cysylltu â natur ac â'i gilydd, ac yn cynhyrchu cynllun gweithredu ar gyfer gwneud lle i fyd natur mewn cymunedau.

Mae ein prosiect yn creu cyfle i blant ac oedolion ddefnyddio eu “lleisiau allanol” a mecanwaith i'w lleisiau gael eu clywed.

Mae gan y prosiect dri nod:

  1. Ymgysylltu â'r gymuned mewn sgyrsiau penagored am ei hamgylchedd uniongyrchol, gan gynnwys amgylcheddau naturiol ac adeiledig.
  2. Ymgysylltu â'r gymuned wrth feddwl a dylunio ynghylch sut mae cymunedau'n cysylltu â byd natur ac â'i gilydd.
  3. Cyd-gynhyrchu argymhellion ynghylch gwneud lle i fyd natur yn y gymuned bresennol ac wrth ddatblygu'r dyfodol ym Mhentre Awel.

Mae'r tri nod cyflenwol hyn gyda’i gilydd yn cefnogi’r amcanion tymor byr, sef cynnwys y gymuned mewn prosesau cynllunio ar gyfer Pentre Awel a rhoi tystiolaeth am werth mannau gwyrdd yn yr ardal yn ogystal â'r amcan tymor hwy, sef canlyniadau iechyd a llesiant gwell i bobl Cymru.

Cyd-destun y polisi

Nod Cynllun Amgylchedd 25 mlynedd Llywodraeth y DU 3 yw “gwella harddwch, treftadaeth ac ymgysylltu â'r amgylchedd naturiol” trwy sicrhau bod mannau naturiol, hygyrch, o ansawdd uchel yn agos at y mannau lle mae pobl yn byw ac yn gweithio, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, ac annog rhagor o bobl i dreulio amser ynddynt er budd eu hiechyd a'u llesiant.

Mae cysylltiad cadarnhaol rhwng treulio amser ym myd natur ac iechyd a llesiant pobl yn ogystal ag ymddygiad amgylcheddol ar bob cyfnod bywyd. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (2019)4 yn mesur amddifadedd yn seiliedig ar wyth ffactor, gyda mynediad i fannau gwyrdd yn un ohonynt.

Mae cymunedau difreintiedig yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau rhag ymgysylltu â byd natur, gan gynnwys diffyg mynediad, diffyg hyder, a phryderon am ddiogelwch (Bates et al., 2018).

Yr hyn y mae'r ymchwil yn ei ddangos

Mae ein hymchwil yn dangos bod Cymuned Glan-y-môr yn un sy'n gwerthfawrogi byd natur yn fawr, gyda phlant ac oedolion yn mynegi gwerthfawrogiad dwfn o’u hamgylchedd naturiol. Mynegodd plant yn y gymuned awydd i gael rhagor o fioamrywiaeth, a mannau mwy cynhwysol i chwarae ynddynt ac i gysylltu â byd natur ac â'r gymuned yn gyffredinol. Nododd staff yr ysgol fod angen rhagor o gyfleoedd i blant ymgysylltu â byd natur yn fwy rheolaidd, ar safle’r ysgol ac yn y gymuned ehangach, gan gynnwys yr arfordir cyfagos.

Ond nodwyd bod pryderon am ddiogelwch yn rhwystr sylweddol rhag treulio amser ym myd natur i blant ac i oedolion yn y gymuned. Nodwyd bod traffig a rheoli gwastraff yn bryderon allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau profiadau diogel a phleserus mewn lleoliadau naturiol.

Ar hyn o bryd nid yw polisïau'n mynd i'r afael â'r pryderon hyn mewn ffordd gyfannol. Mae angen polisïau a strwythurau mwy cysylltiedig sy’n gallu hwyluso'r gwaith yn well o greu mannau awyr agored sy'n blaenoriaethu natur ac yn darparu cyfleoedd diogel, hygyrch i ymgysylltu â byd natur.
Un ateb posib a nodwyd gan ein hymchwil yw cyd-gynhyrchu cynlluniau cymdogaeth.

Drwy gynnwys aelodau o'r gymuned wrth gynllunio a dylunio mannau awyr agored, gallwn bontio'r bwlch rhwng profiadau cyfredol yn y gymuned a'u gweledigaeth ar gyfer dyfodol sy’n troi mwy at fyd natur.

Drwy'r broses hon, gallwn gydweithio i greu mannau awyr agored mwy cynhwysol a chynaliadwy sy'n blaenoriaethu iechyd a diogelwch aelodau'r gymuned ac yn cadw'r amgylchedd naturiol.

Argymhellion

Fe wnaeth y broses gyd-gynhyrchu ganfod sawl argymhelliad allweddol ar gyfer gwneud lle i fyd natur yn ward Glan-y-môr ac ym Mhentre Awel. Un argymhelliad pwysig yw parhau i ymgysylltu ac ymgynghori â phlant a phobl ifanc o grwpiau oedran a chefndiroedd gwahanol. Drwy gynnwys y grwpiau hyn wrth gynllunio a dylunio mannau awyr agored, gallwn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod eu hanghenion yn cael sylw. Gall hyn arwain at greu mannau awyr agored mwy cynhwysol a hygyrch sy'n blaenoriaethu iechyd a lles aelodau'r gymuned ac yn cadw'r amgylchedd naturiol.

Argymhelliad allweddol arall yw cynhyrchu rhai o'r syniadau a awgrymwyd gan blant ac athrawon ar y cyd â nhw. Gall hyn helpu i adeiladu ymdeimlad o berchnogaeth a buddsoddiad yn y mannau awyr agored, wrth i aelodau'r gymuned weld eu syniadau a'u hawgrymiadau’n dod yn fyw. Drwy gydweithio fel hyn, gallwn greu mannau awyr agored mwy bywiog a deniadol sy'n meithrin ymdeimlad o gymuned ac o gysylltiad â byd natur.

Yn olaf, amlygodd y broses gyd-gynhyrchu fod angen rhagor o ymchwil ynghylch pryd a sut mae mannau lleol fel parciau, safleoedd ysgolion, strydoedd a choetiroedd yn cynyddu'r cysylltiad â'r gymuned. Drwy ddeall sut mae gwahanol fannau awyr agored yn effeithio ar aelodau'r gymuned mewn gwahanol ffyrdd, gallwn ddylunio a rheoli'r mannau hyn yn well er mwyn bodloni anghenion y gymuned. Gall hyn arwain at greu mannau awyr agored mwy effeithiol a chynaliadwy sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer cysylltu â byd natur, meithrin cymuned a llesiant gwell i holl aelodau Cymuned Glan-y-môr.

Partneriaid y prosiect a rhanddeiliaid allweddol

Ysgolion Seicoleg a Daearyddiaeth a Chynllunio Trefol Prifysgol Caerdydd, Urban Habitats Consulting Limited, Learning through Landscapes Limited, Ysgol Pen Rhos, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Anturiaethau Organig Cwm Cynon, Cyngor Sir Caerfyrddin.

Ariennir Accelerate gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) Llywodraeth Cymru ac fe’i cyflwynir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Cyllid

Cyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy'r Cyflymydd Arloesedd Clinigol £39,099

Cyllid cyfatebol gan bartneriaid cydweithredol Prifysgol Caerdydd, Anturiaethau Organig Cwm Cynon, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dysgu drwy Dirweddau, Ysgol Pen Rhos, a Chyngor Sir Gaerfyrddin £90,145

1 Llywodraeth Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gwefan Llywodraeth Cymru (cyrchwyd 10/3/2023)

2 Llywodraeth Cymru, Cynllun Cymru iachach ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gwefan Llywodraeth Cymru (cyrchwyd 10/2/2023)

3 Llywodraeth y DU, 25 Year Environment Action Plan, Gwefan Llywodraeth y DU (cyrchwyd10/3/2023)

4 Llywodraeth Cymru, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Llywodraeth Cymru (cyrchwyd 10/3/2023)


Tîm y prosiect

Prif ymchwilydd

Tîm