Ewch i’r prif gynnwys

ENTRANCES Trawsnewidiadau Ynni o Lo a Charbon: Effeithiau ar Gymdeithasau

Mae ENTRANCES yn ystyried effeithiau cymdeithasol ac economaidd gwahaniaethol targedu allyriadau carbon sero-net trwy drosglwyddo ynni glân ar lo a rhanbarthau sy'n ddibynnol ar garbon ledled yr UE.

Mae ENTRANCES yn brosiect tair blynedd a ariennir gan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd. Nod y prosiect yw datblygu dealltwriaeth lawnach o faterion trawsbynciol sy'n gysylltiedig â symud at ynni glân mewn ardaloedd cloddio glo Ewropeaidd a rhanbarthau carbon-ddwys. Mae'r prosiect yn bwriadu mynd i'r afael â heriau a wynebir gan y rhanbarthau hyn gan ystyried safbwyntiau aml-ddimensiwn sy'n cynnwys gwahanol chwaraewyr allweddol ar lefelau tiriogaethol, rhanbarthol, cenedlaethol, Ewropeaidd a byd-eang. Yng Nghymru, mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ranbarth cynhyrchu dur Port Talbot.

Mae'r prosiect ENTRANCES wedi cael arian gan raglen ymchwil ac arloesedd Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gynllun grant rhif 883947.

Nodau

  • Datblygu gwell dealltwriaeth o'r heriau a wynebir gan y rhanbarthau cloddio glo Ewropeaidd dethol a charbon-ddwys
  • Cyd-greu set o argymhellion o ganfyddiadau'r prosiect gan ddefnyddio safbwyntiau aml-lefel
  • Datblygu gwybodaeth a mewnwelediadau cynhwysfawr ar agweddau Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau ar bontio i ynni glân
  • Cyfrannu tuag at weledigaeth gyffredin drwy ystyried goblygiadau cymdeithasol a chyfleoedd “Pontio Ynni Glân”

Partneriaid allanol

  • University of A Coruna (UDC)
  • Agenzia nazionale per le nuove tecnologie, l'energia e lo sviluppo economico (ENEA)
  • Knowledge and Innovation – Rome (K&I)
  • Halle Institute for Economic Research (IWH)
  • Leibniz Institute of Ecological Urban and Regional Development (IOER)
  • Centre for Social Innovation (ZSI)
  • Norwegian University of Science and Technology (NTNU)
  • European Association of Development Agencies (EURADA)
  • Sociedade Portuguesa de Inovação (SPI)
  • Women Engage for a Common Future
  • Center of Social and Psychological Sciences
  • Instytut Gospodarki Surowcami Mineralnymi i Energią PAN  (IGSMiE PAN)
  • University ‘Alexandru Ioan Cuza University’ of Iasi

Tîm y prosiect

Prif Ymchwilydd

Dr Adrian Healy

Principal Research Fellow

Tîm