Ewch i’r prif gynnwys

Transparency solutions for transforming the food system (TITAN)

Nod cyffredinol TITAN yw bod yn fwy tryloyw wrth drafod bwyd er mwyn trawsnewid y system fwyd yn economi sy'n cael ei gyrru gan alw sy'n darparu bwyd iach a chynaliadwy i ddefnyddwyr.

Mae TITAN yn brosiect 4 blynedd, a gydlynir gan Sefydliad Rhyngwladol Gwyddorau Bywyd Ewrop (ILSI). Yn gonsortiwm o 28 o bartneriaid o bob rhan o’r UE a’r DU, mae’n dod â phrifysgolion, canolfannau ymchwil, darparwyr technoleg ac actorion a busnesau bwyd-amaeth ynghyd. Mae’n mynd i’r afael â llawer o gwestiynau a godwyd gan yr ymgyrch am fwy o dryloywder yn y system fwyd. Er enghraifft:

  • beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio tryloywder i alluogi'r defnyddiwr i wneud dewisiadau mwy gwybodus ynglŷn â bwyd?
  • sut y gellir goresgyn heriau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar dryloywder ymhlith gweithredwyr systemau bwyd?
  • sut y gellir defnyddio'r datblygiadau technolegol diweddaraf (ee Blockchain, Rhyngrwyd Pethau, Deallusrwydd Artiffisial) i wneud pethau yn fwy tryloyw?
  • sut y gellir sicrhau bod technoleg o'r fath ar gael ac yn fforddiadwy i fusnesau bach?
  • sut y gellir datblygu polisi i wella tryloywder cadwyni cyflenwi bwyd?

Mae’n meithrin ac yn arddangos yr arfer gorau mewn arloesiadau a thechnolegau cadwyn cyflenwi bwyd, ac yn llywio polisi o fewn amgylchedd busnes sy’n cael ei yrru gan alw. Ei nod yw cynnig atebion tryloywder ym meysydd diogelwch a dilysrwydd bwyd, ffyrdd o olrhain, iechyd a chynaliadwyedd, a gwella gwybodaeth i ddefnyddwyr.

Mae Prifysgol Caerdydd yn arwain pecyn gwaith ar 'Galluogi atebion polisi ar gyfer cadwyni cyflenwi bwyd tryloyw.' Mae hwn yn archwilio sut y gellir galluogi cadwyni cyflenwi bwyd tryloyw trwy bolisïau, yn ogystal ag ystyried sut y gallai dyfodiad technolegau newydd olygu bod angen ffurfiau newydd o lunio polisïau.

Bydd dull systemau yn cael ei fabwysiadu, gyda'r nod o ddeall sut y gall effaith polisïau a'r atebion tryloywder y byddant yn eu rhoi ar waith yn effeithio'n wahanol ar wahanol adegau yn y system cyflenwi bwyd. Yn y bôn, mae'n archwilio sut y gall gweithredwyr ar draws y system fwyd, a pholisi cysylltiedig, ddiffinio a rhagweld tryloywder yn wahanol.

Nodau

Nod prosiect TITAN yw:

  • datblygu a dangos datrysiadau o ran tryloywder yn y diwydiant bwyd wedi’u cyd-greu sy’n gwella diogelwch a dilysrwydd ein bwyd
  • cynnig ystod o fentrau ac atebion tryloyw wedi’u cyd-greu a fydd yn helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwell o ran bwyd
  • cynnig atebion addas o’r radd flaenaf i randdeiliaid yn y diwydiant bwyd ar gyfer cynyddu a monitro tryloywder yn y system fwyd
  • sicrhau bod yr holl atebion yn cael eu cyd-greu, yn cael eu gyrru gan alw, ac yn berthnasol i fusnesau bach a mawr
  • llywio datblygiad polisi newydd sy'n annog ac yn galluogi gweithrediad datrysiadau ynglŷn â thryloywder ar draws cadwyni cyflenwi bwyd
  • datblygu rhwydwaith ffrwythlon a bywiog o fusnesau technoleg tryloywder a fydd yn sail i ddechrau rhwydwaith Ewropeaidd y to nesaf o ddarparwyr datrysiadau tryloywder yn y diwydiant bwyd ar gyfer gwireddu Strategaeth O’r Fferm i’r Fforc yr UE o fewn y Fargen Werdd Ewropeaidd
  • ymgysylltu, cyfathrebu a lledaenu’r atebion arloesol i hysbysu rhanddeiliaid, uwchraddio i’r eithaf yn ogystal â gwneud y mwyaf o’r gallu i drosglwyddo, ecsbloetio a cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y newid

Tîm y prosiect

Prif Ymchwilydd

Dr Christopher Bear

Reader in Human Geography, Deputy Head of School

Tîm


Cefnogaeth

Roedd modd cynnal yr ymchwil hon o ganlyniad i gefnogaeth y sefydliadau canlynol: