Ewch i’r prif gynnwys

Rhwydwaith ar ddatganoli, ymreolaeth leol, a llywodraethu aml-haenog ym Mhrydain a Chanada

Rydym yn byw mewn oes o ddatganoli. Yn ymarferol, mae sefydliadau rhyngwladol ac eiriolwyr cenedlaethol fel ei gilydd wedi hyrwyddo’r broses o ddatganoli awdurdod ac arian cyhoeddus.

Mae ysgolheigion sy’n gweithio mewn ystod o ddisgyblaethau gwahanol wedi gwneud nifer o honiadau ynghylch ymreolaeth leol a datganoli, gan gyfeirio at sefyllfaoedd cenedlaethol a lleol penodol.

Bydd y rhwydwaith hwn yn ymchwilio i'r themâu hyn, ac yn hwyluso'r gwaith o feithrin gwybodaeth rhwng ysgolheigion sydd ar ddechrau eu gyrfa ym Mhrydain a Chanada, a hynny er mwyn datblygu dealltwriaeth o'r radd flaenaf ynghylch datganoli yn yr unfed ganrif ar hugain.

Manylion

Mae eiriolwyr dros ymreolaeth yn gweld cylch gwarchodedig o lywodraethu lleol yn amddiffynfa angenrheidiol yn erbyn camau mympwyol a rheibus ar adegau gan lywodraethau cenedlaethol. Mae rhai eraill yn dadlau bod datganoli yn arwain at greu polisïau mwy cynhwysol, mwy creadigol a mwy ymatebol. Mae tystiolaeth hefyd bod datganoli yn cyd-fynd â chynnydd mewn twf economaidd ac arloesi ar gyfartaledd.

Mae’r sawl sy’n beirniadu datganoli yn cyfeirio ato fel pe bai’n achosi anghydraddoldeb ac anghyfiawnder oherwydd ei fod yn achosi cystadlu swm-sero rhwng lleoedd, gan hyrwyddo gwahanu lleoedd cyfoethog a difreintiedig oddi wrth ei gilydd. Mae rhai eraill yn tynnu sylw at y ffordd mae llywodraethau cenedlaethol yn 'ailraddio' awdurdod mewn ffyrdd sy'n ymddangos fel pe bai’n grymuso ar yr wyneb ond sydd hwyrach yn gyfystyr â throsglwyddo cyfrifoldebau ynghylch polisïau heb sicrhau’r adnoddau ariannol cyfatebol.

Mae corff arall o waith ar lywodraethu aml-haenog yn pwysleisio cronni gwybodaeth, adnoddau ariannol, a gallu gweinyddol sy’n benodol i dasgau. Mae’r gwaith hwn yn amlygu sut y gall fframweithiau cyfreithiol ac ariannol alluogi a chyfyngu, a sut y gall gwahanol raddfeydd o ddatganoli cyfreithiol ac ariannol amrywio fesul maes polisi.

Bydd y prosiect hwn yn lansio rhwydwaith rhyngddisgyblaethol i hwyluso cyfnewid a meithrin gwybodaeth rhwng ysgolheigion sydd ar ddechrau eu gyrfa, gan hwyluso’r gwaith o ddamcaniaethu ac ymchwilio i’r themâu cysylltiedig hyn, a hynny er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r radd flaenaf o ddatganoli cyfoes ym Mhrydain a Chanada.

Nodau

Ein hamcan fydd datblygu dealltwriaeth synthetig newydd o ddatganoli ac ymreolaeth leol yng nghyd-destun llywodraethu aml-haenog drwy ganolbwyntio’n empirig ar Brydain a Chanada, sef cymhariaeth nad yw’n cael ei gwneud yn aml.

Yng nghyd-destun Prydain unedol, mae datganoli yn gysylltiedig ag agendâu polisïau cenedlaethol: cyni, lleoliaeth, 'ffyniant bro', a dinas-ranbarthiaeth, a hynny'n aml trwy 'fargeinion' anghymesur. Yng Nghanada ffederal, mae patrymau gwahanol o gysylltiadau rhynglywodraethol yn digwydd ym mhob un o'r 10 talaith, gyda'r duedd gyffredinol tuag at ehangu’r awdurdodaeth leol.

Mae cymharu Canada a Phrydain yn ddefnyddiol oherwydd bod system Canada yn ymdebygu i rai o’r diwygiadau y rhagwelir y byddant yn digwydd ym Mhrydain, gan gynnwys meiri etholedig a threfniadau arbennig ar gyfer dinasoedd mawr ac ardaloedd metropolitan. Mae Canada a Phrydain hefyd yn wledydd lle mae rhaniadau cynyddol rhwng ardaloedd metropolitan a’r cyffiniau’n digwydd, ac mae hyn yn creu sawl graddfa ymyrraeth o ran polisïau: yn drefol, yn ddinas-ranbarthol ac yn rhanbarthol.


Tîm y prosiect

Prif Ymchwilydd

Dr Matthew Wargent

Lecturer in Urban Planning and Development

Tîm

  • Zachary Taylor

    Associate Professor, Department of Political Science, Western University, Canada


Cefnogaeth

Roedd modd cynnal yr ymchwil hon o ganlyniad i gefnogaeth y sefydliadau canlynol: