Dysgu o’r Gorffennol: y turath a thrawsnewid
Nod y prosiect tair blynedd hwn yw archwilio ysgolheictod Islamaidd yn ystod cyfnod hanesyddol pan fu ymdrech deallusol a gwyddonol eithriadol. Cyfeirir at y cyfnod yn gyffredinol fel yr 'Oes Aur' Islamaidd.
Byddwn yn canolbwyntio ar fywgraffiad a chymhelliant yr ysgolheigion sydd â’r cysylltiad agosaf â'r cyfnod hanesyddol hwn. Fe wnaeth yr ysgolheigion hyn adlewyrchu a llunio agwedd addysgol ac athronyddol y gellir ei ddisgrifio fel dull oedd yn edrych tuag allan, cosmopolitaidd, rhyngddisgyblaethol, cyfannol, ymroddedig i lewyrch dynol ac yn ceisio gwybodaeth fel ffurf ar 'addoliad'.
O ganlyniad i’r agwedd epistemig hon oedd yn agor i bob math o wybodaeth, crëwyd traddodiad a oedd yn ddeallusol chwilfrydig, yn parchu traddodiadau eraill, ac yn cael ei yrru gan werthoedd gwareiddiad a goddefgarwch. Yn seiliedig ar ein hymchwil am gymhellion a chyd-destun yr ysgolheigion hyn, byddwn yn ceisio dadansoddi ac amlygu egwyddorion o ran sut mae Islam yn galluogi ffyniant dynol ac ysgolheigaidd.
Y nod yw dod â rhai o egwyddorion ac ystyron diffiniol addysg Islamaidd i’r amlwg, gan ail-lunio dulliau o ymdrin ag addysg fodern o bosibl.
Tîm y prosiect
Yr Athro Sophie Gilliat-Ray
Professor in Religious and Theological Studies, Head of Islam UK Centre
- gilliat-rays@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0121
Cydymaith Ymchwil – i'w benodi