Ewch i’r prif gynnwys

Ffyrdd o ddysgu ac addysgu yng Ngwlad Bangla yn sgîl profiad o argyfyngau: fframweithiau newydd ar gyfer cyfuniad o ddulliau dysgu yn yr awyr agored mewn cymunedau gwledig tlawd

Mae’r ymchwil hon yn ymwneud â ffyrdd o ddysgu ac addysgu yng Ngwlad Bangla yn sgîl profiad o argyfyngau, yn enwedig pandemig firws corona (COVID-19).

Llywio polisïau trwy lunio fframwaith cyfuno dysgu digidol â dysgu yn yr awyr agored ar gyfer addysg gynradd yng Ngwlad Bangla, i leddfu effaith y pandemig er deilliannau addysgol a llesiant plant dros y tymor hwy.

Manylion

Mae trefnau addysg mewn gwledydd tlawd wedi ymateb yn gyflym i bandemig firws corona (COVID-19) er bod adnoddau’n brin, gan arwain at ffyrdd addasol ac unigryw o ddysgu ac addysgu megis defnyddio ffonau poced a theledu cenedlaethol, ond mae llawer o blant yn colli rhannau hanfodol o’u haddysg.

Er bod 99% o blant Gwlad Bangla wedi’u cofrestru yn yr ysgolion cynradd, mae’r rhan fwyaf yn dysgu mewn ystafelloedd dosbarth o dan eu sang heb gyrraedd eu llawn dwf yn ôl y disgwyl. Er bod digon o ffonau craff, dim ond i ychydig o blant mae cyfrifiaduron a chysylltiadau cyson â’r Rhyngrwyd ar gael. Yn yr un modd, does dim llawer o fannau glas a buddion cysylltiedig ar gael i blant sy’n byw mewn trefi gorlawn.

Gan fanteisio ar gysylltiadau cyfredol â Phrifysgol Peirianneg a Thechnoleg Gwlad Bangla (BUET) a #NextGenEdu, ac yn sgîl ymchwil flaenorol y Dr Khan yn ysgolion cynradd y wlad honno, diben y prosiect hwn yw ceisio datrys yr anawsterau sydd wedi’u crybwyll a nodi ffyrdd o ddysgu ac addysgu yn ymateb i’r argyfwng gan astudio amryw enghreifftiau o arddio a chynhyrchu bwyd yn y cartref a’r ysgol o ganlyniad i’r pandemig.

Nodau’r Cenhedloedd Unedig dros Ddatblygu Cynaladwy

Mae'r prosiect hwn yn cyfrannu at nifer o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ynghylch gwella addysg, ymateb i anawsterau pandemig firws corona (COVID-19) a mynd ati i’w datrys.

Yn bennaf, Nod 4 - 'Addysg o Ansawdd Da' - trwy ystyried anawsterau cyfuno dulliau dysgu mewn gwlad dlawd a’r ffyrdd newydd o’u datrys.

At hynny, trwy ganolbwyntio ar gyfuno dysgu digidol ac awyr agored, bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at Nod 3, ‘Iechyd a Llesiant Da’, a Nod 11, ‘Dinasoedd a Chymunedau Cynaladwy’.

Nod y prosiect

Nod y prosiect hwn oedd deall yr anawsterau a wynebodd athrawon a phlant ysgolion cynradd Gwlad Bangla yn ystod pandemig firws corona (COVID-19). Yn ogystal â hynny, anelodd at ddeall hanfod ‘fframwaith dysgu cyfunol’ fel y byddai modd defnyddio’r egwyddorion mewn gwledydd tlawd eraill i wella safon eu haddysg trwy gyfuno dulliau awyr agored a digidol yn y pen draw.

Roedd tri cham i’r prosiect:

  1. Holi athrawon dros y ffôn am eu ffyrdd o ddysgu ac addysgu o hirbell.
  2. Astudio diwylliannau ac arferion plant a rhieni i nodi eu profiad o ddysgu gartref ac effaith hynny ar y plant.
  3. Gweithdai gyda phlant ac athrawon yn yr ysgolion i baratoi ar y cyd gynllun gweithredu ar gyfer dysgu cyfunol. At hynny, bu dau weithdy gyda budd-ddalwyr - yr un cyntaf i fapio anghenion polisïau ac arferion a'r ail i ledaenu canfyddiadau rhagarweiniol yr ymchwil.

Dyma’r adroddiad o’r gweithdy cyntaf.

Partneriaid y prosiect


Tîm y prosiect

alt

Dr Matluba Khan

Lecturer in Urban Design

Tîm


Cefnogaeth

Roedd modd cynnal yr ymchwil hon oherwydd cefnogaeth y sefydliadau canlynol: