Ewch i’r prif gynnwys

Gwefan Ann Griffiths

Yn 2003 lansiwyd gwefan ddwyieithog gan Brifysgol Caerdydd ar gyfer astudio bywyd a gwaith Ann Griffiths (1776-1805), un o feirdd mwyaf Cymru ac un o feirdd crefyddol mawr Ewrop.

Ffrwyth prosiect digido arloesol gan Lyfrgell y Brifysgol, a ariannwyd gan RSLP (Research Support Libraries Programme), yw’r wefan hon.

Fe’i crewyd o dan olygyddiaeth Dr E. Wyn James o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sy’n awdurdod cydnabyddedig ar Ann Griffiths a’i gwaith.

Archwiliwch wefan Ann Griffiths.

Manylion

Mae’r wefan yn cynnwys cyflwyniad i fywyd a gwaith Ann Griffiths gan Dr James, ynghyd â thestun ei hemynau a’i llythyrau mewn orgraff ddiweddar a chyfieithiadau Saesneg ohonynt gan y diweddar Athro H. A. Hodges. Yn ogystal, mae’n cynnwys ar ffurf ddigidol tua 2,500 o dudalennau o lyfrau, erthyglau a llawysgrifau yn ymwneud â’r emynyddes, yn ymestyn o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd heddiw. Yn eu plith ceir y testunau cynharaf o’i gwaith, deunydd bywgraffyddol crai, a chroestoriad o drafodaethau beirniadol.

Am fod y wefan yn cynnwys rhychwant mor eang o destunau llawysgrif a phrintiedig, a’r rheini’n ymwneud ag un o eiconau diwylliant Cymru, bydd o ddefnydd amlochrog i’r sawl sy’n ymddiddori yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, gan gynnwys ieithyddion, ymchwilwyr i hanes golygu, cyhoeddi a chyfieithu, a myfyrwyr crefydd, ysbrydoledd a diwylliant poblogaidd. Y mae wedi cael croeso brwd, a’i galw’n ‘batrwm i wefannau tebyg ar gyfer awduron Cymraeg eraill’ ac yn ‘gyhoeddiad o’r radd flaenaf’.

Yn briodol iawn, lansiwyd argraffiad cyntaf y wefan yn nechrau Awst 2003 ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod, nid nepell o gartref Ann Griffiths.


Tîm y prosiect

Principal investigator

E. Wyn James

Yr Athro E. James

Athro Emeritws