Gareth Jones
Yn 2018, cafodd ail euogfarn ei wyrdroi yn y Llys Apêl oherwydd ein gwaith.
Cafwyd Gareth Jones yn euog o ymosodiad rhywiol difrifol yn 22 oed ym mis Gorffennaf 2008.
Roedd Gareth, sydd ag anawsterau dysgu, wedi treulio dair blynedd a hanner yn y carchar, ond ar ôl iddo gael ei ryddhau roedd yn benderfynol o glirio'i enw.
Tynnwyd sylw Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd at achos Gareth gan ei gefnogwr a gofalwr hirdymor, Paula Morgan, ac fe'i hadolygu am chwe blynedd.
Penderfynu bod yr euogfarn yn anniogel
Yn seiliedig ar ymchwiliadau'r prosiect, penderfynodd y Llys Apêl fod euogfarn Gareth wedi bod yn anniogel.
Yn ei ddyfarniad yn R v Jones, ysgrifennodd yr Arglwydd Ustus Simon: "Rydym hefyd yn cydnabod cyfraniad sylweddol Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd sydd, drwy fewnbwn pro bono ei gefnogwyr, wedi mynd ymlaen â'r apêl hon ar ran yr apelydd."
Wrth siarad ar y pryd, dywedodd Paula Morgan, "Fe gymerodd fisoedd o chwilio cyn i mi ddod ar eu traws (Prosiect Dieuogrwydd Caerdydd ) ... roedd yn anhygoel oherwydd roeddwn i wedi gofyn i sawl bargyfreithiwr a sefydliad, ond oni bai bod gennych chi arian does dim cyfiawnder .
Mae'n braf bod yna bobl allan yna sy'n poeni am gyfiawnder; maen nhw'n mynd i fynd i'w bywydau proffesiynol gyda'r wybodaeth honno, mewn lle gwell i helpu pobl fel Gareth nad ydyn nhw'n gallu fforddio cynrychiolaeth gyfreithiol."
Triniaeth ar draws sianeli newyddion cenedlaethol
Cafodd achos Gareth sylw ar draws sianeli newyddion cenedlaethol gan gynnwys The Telegraph, BBC ac ITV.