Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn gweithio gyda chyfreithwyr ac amrywiaeth o sefydliadau i roi dechrau da i'n myfyrwyr yn eu gyrfa gyfreithiol.

Rydym yn rhoi'r cyfle iddynt weithio ar achosion go iawn, gan ddarparu gwasanaeth pwysig i'n cymuned leol tra'n datblygu sgiliau ym maes gofal cleientiaid, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a siarad cyhoeddus.

Beth rydym wedi'i gyflawni

Ers ein lansio yn 2006, mae ein portffolio o waith wedi datblygu'n aruthrol. Mae hyn yn rhannol oherwydd brwdfrydedd ein staff a'n myfyrwyr ond hefyd o ganlyniad i'r angen cynyddol am gymorth cyfreithiol am ddim mewn cyfnod o doriadau.

Er gwaethaf yr heriau sylweddol a wynebwn, rydym wedi helpu llawer o bobl dros y blynyddoedd.

Hyd yma, mae ein myfyrwyr wedi:

  • helpu i wrthdroi dwy euogfarn yn y Llys Apêl drwy eu gwaith fel rhan o Brosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd
  • adennill miloedd o bunnoedd ar gyfer unigolion a/neu deuluoedd sydd wedi talu ffioedd cartrefi nyrsio preifat yn anghywir
  • cynorthwyo oedolion agored i niwed mewn gorsafoedd heddlu
  • datblygu pecynnau cymorth ar gyfer aelodau'r teulu, gweithwyr cymorth ac eiriolwyr y rhai sy'n byw gydag anableddau dysgu yng Nghymru.

Pwy sy'n cymryd rhan

Gwneir yr holl waith hwn yn bosibl drwy'r gwaith caled a'r amser a roddir gan:

  • Staff Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
  • myfyrwyr
  • gwirfoddolwyr o gwmnïau cyfreithiol
  • gwirfoddolwyr o elusennau cenedlaethol.

Mae gwneud gwaith Pro Bono yn adeiladu ar bethau y mae'n bosibl eich bod wedi'u dysgu mewn darlithfa ac mae’n eu rhoi ar waith.

Madeleine Semple Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth LLB, Gwirfoddolwr ar Brosiect Apeliadau Cyd-fenter

Cysylltu ein gwaith â rhaglenni ac ymchwil

Yn aml, ystyrir bod cynlluniau pro bono yn weithgareddau allgyrsiol, ar wahân i fodiwlau myfyrwyr a asesir a gweithgareddau ymchwil academyddion.

Rydym yn ceisio chwalu'r rhaniadau hyn a chysylltu ein gwaith pro bono â'r elfennau o'n rhaglenni Cyfraith a addysgir ac a asesir ac â'r ymchwil a wneir yn yr Ysgol.

Yn 2018, trowyd nifer o'n cynlluniau pro bono yn fodiwlau a asesir. Mae myfyrwyr bellach yn cael cyfle i astudio modiwlau addysg gyfreithiol glinigol sy'n cynnwys 'Cyfraith yn y Gymuned' a 'Chamweinyddiadau Cyfiawnder: 'Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd' a profwch bartneriaeth yn gweithio gyda chynllun Cymorth Trwy'r Llys, Cymorth i Ddioddefwyr, ac Undeb Rygbi Cymru.