Cynlluniau pro bono
Mae'r term Lladin pro bono yn golygu gwaith proffesiynol a wneir yn wirfoddol a heb dâl.
Caiff ein cynlluniau pro bono eu harwain gan academyddion sy'n dod â'u profiad a'u harbenigedd cyfreithiol eu hunain i'r prosiectau y maent yn eu goruchwylio, gan drosglwyddo eu gwybodaeth i'n myfyrwyr sy'n gwirfoddoli.
Mae ein cynlluniau yn helpu ystod o bobl gydag amrywiaeth o faterion cyfreithiol ac ar yr un pryd yn rhoi profiad trosglwyddadwy o waith achos bywyd go iawn i'n myfyrwyr.
Gall ein myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig wirfoddoli ar ein cynlluniau a chael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau mewn gofal cleientiaid, ymchwil cyfreithiol, ysgrifennu a siarad cyhoeddus.
Age Cymru
Dan arweiniad Julie Price
Gan weithio gydag Age Cymru a’r bartneriaeth HOPE (Helping Others Participate and Engage) mae’r cynllun hwn yn cynnig cymorth eiriolaeth lefel isel i bobl hŷn a’u gofalwyr.
Fel rhan o’r rôl wirfoddol hon, bydd myfyrwyr yn cefnogi pobl hŷn neu eu gofalwyr i ddeall eu hawliau a gwneud penderfyniadau gwybodus, yn rhoi llais iddyn nhw ac, yn y pen draw, yn eu grymuso i eirioli drostyn nhw eu hunain. Mae Eiriolwyr Gwirfoddol Annibynnol yr elusen yn cefnogi pobl hŷn gydag ystod o faterion eiriolaeth lefel isel - o’u helpu i wneud cwynion ffurfiol, i’w cefnogi i ddod o hyd i lety sy’n addas iddyn nhw - does dim dau achos yr un fath. Mae myfyrwyr yn cael eu hyfforddi yn y rôl eiriolaeth a'r sgiliau sydd eu hangen a chânt gefnogaeth gan oruchwyliwr trwy gydol eu gwaith achos. Mae myfyrwyr yn meithrin perthynas gyda’r cleientiaid, yn adeiladu cynlluniau gweithredu ar y cyd, yn cofnodi nodiadau achos ac yn cysylltu â sefydliadau trydydd parti.
Canolfannau Cyswllt Plant Pen-y-Bont
Dan arweiniad Julie Price
Mae Canolfannau Cyswllt Plant yn rhoi’r cyfle i blant dreulio amser gyda rhiant nad ydynt yn byw gyda nhw ar ôl i deulu chwalu.
Drwy hyfforddi a gwirfoddoli gyda Chanolfan Gyswllt Plant Pen-y-bont ar Ogwr, mae ein myfyrwyr yn darparu clust i wrando a chymorth i deuluoedd yn ystod ymweliadau cyswllt.
Drwy'r cynllun hwn, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau fel empathi a phwysigrwydd bod yn anfeirniadol, tra ydynt yn cynorthwyo teuluoedd sy'n mynd drwy gyfnod anodd.
Rhaglen negodi CEDR
Dan arweiniad Julie Price
Mae negodi’n rhan o’n bywydau bob dydd, ac mae modd dysgu sgiliau allweddol, sy’n ddefnyddiol mewn unrhyw yrfa yn y dyfodol.
Mae’r rhaglen hon yn gysylltiedig â’r Gystadleuaeth Negodi (ryng-)genedlaethol, a gaiff ei noddi yn y DU gan y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau (CEDR) yn Llundain. Rydyn ni’n defnyddio ein rhaglen hyfforddi i ddewis dau dîm o fyfyrwyr sy’n cynrychioli Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn rowndiau rhanbarthol cystadleuaeth Cymru a Lloegr, gan fynd ymlaen o bosibl at y rownd derfynol yn Llundain.
Canolfannau Cyswllt Plant
Dan arweiniad Julie Price
Mae Canolfannau Cyswllt Plant yn helpu plant a rhieni drwy gynnig amgylchedd diogel, cyfforddus a naturiol i ffwrdd o sefyllfaoedd o wrthdaro, fel y gall plant weld y rhiant nad yw’n byw gyda nhw, neu aelodau agos eraill o’r teulu, fel nain a thaid.
Mae Canolfannau Cyswllt Plant yn rhoi’r cyfle i’n myfyrwyr wirfoddoli mewn canolfannau lle gallant ddatblygu dealltwriaeth a gwybodaeth am Gyfraith Teulu, a’r system gyfreithiol bresennol ar gyfer teuluoedd yn y DU.
Employment Law Streetlaw
Dan arweiniad Sarah Saunders
Mae'r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Ysgol y Gyfraith BPP (Bryste), Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru.
Mae gwirfoddolwyr yn rhoi arweiniad i hawlwyr ar weithdrefn tribiwnlys cyflogaeth. Ar y cynllun hwn, caiff ein myfyrwyr eu hyfforddi i gynnal sesiynau arweiniad i hawlwyr sydd wedi’u tangynrychioli yn Nhribiwnlys Cyflogaeth Caerdydd ar yr hyn i’w ddisgwyl mewn gwrandawiad tribiwnlys cyflogaeth terfynol.
Clinig Menter mewn partneriaeth ag Acuity Law
Dan arweiniad Julie Price
Mae’r cynllun hwn yn bartneriaeth rhwng Acuity Law, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Dyfodol Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd
Os oes gennych ddiddordeb mewn busnes, dyma’r cynllun i chi! Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr y gyfraith wella eu hymwybyddiaeth fasnachol a busnes, ac i ddysgu am y materion cyfreithiol ymarferol y mae pobl sydd eisiau dechrau busnes yng Nghymru a Lloegr yn eu hwynebu. Mae myfyrwyr yn rhoi cyngor cyfreithiol i fyfyrwyr a graddedigion diweddar Prifysgol Caerdydd sy'n dymuno dechrau eu busnesau eu hunain. Gan weithio mewn timau, maent yn cyfweld â chleientiaid ac yn nodi eu materion cyfreithiol, yn cynnal ymchwil gyfreithiol ac ymarferol i ateb eu hymholiadau ac yn drafftio llythyr cynghori.
Mae'r holl waith yn cael ei oruchwylio gan aelod o staff academaidd a chyfreithwyr Acuity Law.
Sefydliad Cyfraith yr Amgylchedd
Dan arweiniad Ben Pontin a chyfreithiwr Cyfraith yr Amgylchedd Guto Linley Adams
Sefydliad Cyfraith yr Amgylchedd (ELF) yw un o'r elusennau cynghori a chynrychiolaeth pro bono ar Gyfraith yr amgylchedd hynaf yn y byd. Ei nod yw helpu i roi llais i bobl a chymunedau cyffredin i gael dweud eu dweud ar faterion sy'n effeithio ar yr amgylchedd y maent yn byw ynddo. Mae’n gweithredu drwy rwydwaith o glinigau’r gyfraith mewn prifysgolion ar hyn o bryd. Mae myfyrwyr yn gweithio gydag ymarferwyr arbenigol cenedlaethol ym maes cyfraith yr amgylchedd.
Rôl Clinig Sefydliad Cyfraith yr Amgylchedd (ELF) Caerdydd yw rhoi cyngor ynghylch ymholiadau a gyfeiriwyd ato drwy’r ganolfan ELF canolog yn Llundain. Mae myfyrwyr wedi gweithio o'r blaen ar achosion sy'n cynnwys ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru Casnewydd ar yr M4, cynnig ar gyfer gorsaf bŵer hydrodrydanol, a methiant honedig Adnoddau Naturiol Cymru 'i reoleiddio paent gwastraff o beilonau trydan.
Prosiect yr Amgylchedd
Dan Arweiniad Guy Linley-Adams
Mae gweithgareddau pro bono ym maes cyfraith yr amgylchedd wedi digwydd mewn sawl ffurf wahanol dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd amgylchiadau nas rhagwelwyd (pandemig Covid) ac mewn ymateb i ddigwyddiadau byd-eang fel COP 26 yn Glasgow.
Mae myfyrwyr ymroddedig wedi edrych ar y gyfraith ar newid hinsawdd a sut mae hynny'n effeithio ar drafnidiaeth, amaethyddiaeth, gwastraff a bioamrywiaeth yng Nghymru ymhlith materion eraill. Fodd bynnag, mae Prosiect yr Amgylchedd bellach yn canolbwyntio ar yr hawl gyfreithiol i wybodaeth ynghylch yr amgylchedd, sy’n arf pwysig ar gyfer dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif o ran gwarchod yr amgylchedd.
Arweinir y prosiect hwn gan y cyfreithiwr ym maes yr amgylchedd Guy Linley-Adams, sy’n gyfreithiwr mewnol yn Wildfish. Dros y blynyddoedd, mae Guy, a ddilynodd ei Gwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) yng Nghaerdydd, wedi gweithredu dros nifer o wahanol sefydliadau ym maes yr amgylchedd a chadwraeth. Mae wedi gweithredu yn erbyn cwmnïau dŵr a llygrwyr eraill gan ddefnyddio’r gyfraith gyffredin a statudol, ac mae hefyd wedi gweithredu adolygiadau barnwrol o gyrff cyhoeddus. Mae gan Guy ddiddordeb arbennig ym maes cyfraith rhyddid gwybodaeth.
FLASH – family law assistance and self-help
Dan arweiniad Jason Tucker
Yn gyffredinol, nid oes cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer achosion cyfraith breifat sy’n ymwneud â phlant. Mae hyn yn golygu pan fydd teulu’n chwalu, mae’n rhaid i rieni un ai dalu am gyngor cyfreithiol preifat, neu gynrychioli eu hunain (fel ymgyfreithwyr drostyn nhw eu hunain).
Gall llywio proses y llys fod yn frawychus iawn, yn enwedig pan nad oes gennych ddim profiad o achosion cyfreithiol. Prosiect addysg gyfreithiol gyhoeddus yw clinig FLASH, lle mae myfyrwyr yn rhoi gwybodaeth i aelodau’r cyhoedd i’w galluogi i ddeall ac ymdrin yn well ag achosion llys yn ymwneud ag anghydfodau am drefniadau gofalu am blentyn.
Mae myfyrwyr yn dysgu am y Ddeddf Plant, y Rhaglen Trefniadau Plant, Gorfodaeth ac Apeliadau ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu ac ymchwil gyfreithiol ymarferol.
Hafal (Appropriate Adults)
Dan arweiniad Bharat Malkani
Mae Oedolion Priodol yn cefnogi oedolion sy’n agored i niwed sydd wedi’u cadw yn y ddalfa. Mae myfyrwyr sy'n gwirfoddoli gyda Hafal, yr elusen iechyd meddwl, yn cael eu hyfforddi i ddod yn oedolion priodol cymwys, ac i gael eu rhoi ar rota i fod 'ar alwad' i fynychu gorsafoedd heddlu lleol os bydd rhywun yn cael ei holi.
Justice Gap Volunteer Reporter Scheme
Dan arweiniad Abdallah Barakat
Mae The Justice Gap yn gylchgrawn ar-lein clodwiw sy’n trafod y gyfraith a chyfiawnder a’r gwahaniaeth rhwng y ddau.
Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Glasgow a Choleg Prifysgol Llundain (UCL), mae’r cylchgrawn yn cynnal cynllun gohebwyr gwirfoddol sydd ar agor i fyfyrwyr y gyfraith sydd â diddordeb mewn newyddiaduraeth ac ymrwymiad i hawliau dynol.
Yn dilyn cais llwyddiannus, mae myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant mewn ysgrifennu newyddion a sgiliau newyddiadurol ac yn cael y cyfle i gyfrannu at y safle fel gohebwyr Justice Gap, gan ysgrifennu newyddion yn ogystal ag erthyglau nodwedd ac ymchwiliadau.
Nod The Justice Gap yw ehangu’r drafodaeth am y gyfraith a chyfiawnder a chynnwys lleisiau a safbwyntiau nad ydynt yn cael eu clywed fel arfer.
Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG
Dan arweiniad Hannah Marchant
Aeth ein Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG i'r afael â phroblem genedlaethol sy'n effeithio ar rannau bregus o'r gymuned: ffioedd cartrefi gofal.
Rhedodd y cynllun tan 2018 gan ganiatáu i'n myfyrwyr helpu teuluoedd preswylwyr cartrefi nyrsio a phobl sy'n dioddef o ddementia i adennill ffioedd cartref gofal y gellid dadlau y dylai'r GIG fod wedi'u talu.
Gwnaethom adennill cyfanswm o fwy na £190,000 o ffioedd cartrefi gofal a dalwyd yn anghywir. Roedd y swm unigol mwyaf a adenillwyd ar gyfer cleient yn fwy na £31,000.
Erbyn hyn mae'r cynllun hwn wedi datblygu'n gyfle profiad gwaith lle mae myfyrwyr yn ymweld â swyddfa'r cwmni cyfreithiol, Hugh James, i gael hyfforddiant ar y maes arbenigol hwn o gyfraith ac ymarfer.
Clinig Cyfraith Cyflogaeth Speakeasy
Dan arweiniad Julie Price
Rydyn ni'n cefnogi Clinig Cyfraith Cyflogaeth Speakeasy, clinig arbenigol yng Nghaerdydd.
Mae ein myfyrwyr yn cysgodi cyfreithwyr cyflogaeth sy'n rhoi cyngor cyfreithiol ar gyflogaeth a gwahaniaethu i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed ar draws y ddinas gan gynnwys:
- y rhai a ddiswyddwyd yn ddiweddar
- y di-waith
- unigolion sy'n wynebu diswyddiadau neu gamau disgyblu/ymchwiliad
- cyflogeion y gwahaniaethir yn eu herbyn yn eu gweithleoedd
- unigolion sy'n delio â pheidio â thalu cyflogau.
Support Through Court (formerly Personal Support Unit)
Dan arweiniad Julie Price
Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn y DU yn wynebu'r llys ar eu pen eu hunain. Heb gymorth, mae'n rhaid iddynt eu cynrychioli eu hunain tra byddant yn mynd drwy achosion llys megis ysgariad, ceisio cadw eu plant, neu'n wynebu cael eu troi allan o'u cartref. Fe'u gorfodir i lywio drwy system gyfreithiol gymhleth yn unig, yn aml yn erbyn cynrychiolaeth gyfreithiol broffesiynol y parti arall.
Gan weithio gyda Cymorth trwy’r Llys, mae ein myfyrwyr ni yn cael eu hyfforddi i gynorthwyo ymgyfreithiwr personol yn y Ganolfan Cyfiawnder Sifil yng Nghaerdydd.
Cymorth i Ddioddefwyr
Dan arweiniad Anna Heenan
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen genedlaethol sy'n cefnogi pobl y mae troseddau a digwyddiadau trawmatig yng Nghymru a Lloegr wedi effeithio arnynt.
Mae ein myfyrwyr yn gwirfoddoli yng nghanolfan alwadau genedlaethol yr elusen sy'n derbyn galwadau i mewn. Ymhlith y gwasanaethau y maent yn eu cynnig y mae eu llinell gymorth genedlaethol sy'n darparu cymorth am ddim a chyfrinachol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.
Drwy'r cynllun hwn, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau pwysig megis empathi, gwrando gweithredol a phwysigrwydd bod yn anfeirniadol.
Welsh Rugby Union Incorporation Project (formerly the Free Legal Advice for Clubs Project)
Arweinir ar y cyd gan Julie Price a Vivien Burfitt
Mae'r prosiect hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru a chwmni cyfreithiol Hugh James. Mae ein myfyrwyr yn cynorthwyo clybiau amatur sydd am fod yn gwmnïau cyfyngedig drwy warant ac yn eu cynorthwyo i sicrhau mwy o ddiogelwch cyfreithiol i wirfoddolwyr y clwb.
Prosiect ymchwil cyfraith bywyd gwyllt
Dan arweiniad Richard Caddell
Mae The Journal of International Wildlife Law and Policy yn gyfnodolyn blaenllaw a adolygir gan gymheiriaid sy’n ymroddedig i’r materion cyfreithiol a godir gan warchod a rheoli bioamrywiaeth. Cyhoeddir y cyfnodolyn yn chwarterol gan Taylor and Francis ac mae wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd ers 2021, gyda Richard Caddell yn Brif Olygydd.
Ar ôl cael ei leoli’n bennaf yn UDA am y rhan fwyaf o’i fodolaeth, mae’r cyfnodolyn wedi darparu cyfleoedd ers tro i fyfyrwyr gymryd rhan yn ei waith ac mae’n awyddus i hynny barhau. Mae tasgau myfyrwyr gwirfoddol yn cynnwys datblygu cronfa ddata o ddiwrnodau nodedig sy’n cael eu dathlu gan y Cenhedloedd Unedig, mapio erthyglau yn ôl rhywogaeth, gwirio cyfeiriadau o erthyglau a dderbynnir, troednodi a fformatio erthyglau cyfnodolion, a llunio a chynnal cronfa ddata o ddarpar adolygwyr o amrywiaeth o wahanol ddisgyblaethau academaidd - y gyfraith, troseddeg, y gwyddorau naturiol, cysylltiadau rhyngwladol, ac ati.