Dwaine George
Ym mis Rhagfyr 2014, ni oedd y Prosiect Dieuogrwydd cyntaf mewn Prifysgol i lwyddo i sicrhau y gwrthdrowyd euogfarn yn y Llys Apêl.
Cafwyd Dwaine George yn euog o lofruddio Daniel Dale a chafodd ei ddedfrydu i garchar am oes yn 2002.
Llwyddiant ar ôl naw mlynedd o waith
Fe wnaeth George barhau i honni ei fod yn ddieuog drwy gydol ei ddedfryd yn y carchar, gan apelio yn aflwyddiannus am y tro cyntaf yn 2004 ond, ar ôl naw mlynedd o weithio gyda myfyrwyr, staff ac arbenigwyr fel rhan Prosiect Dieuogrwydd, cafodd euogfarn George ei wrthdroi yn y pen draw yn 2014.
Yn ei ddyfarniad yn R v. George, dywedodd Sir Brian Leveson: "Rydym yn talu teyrnged i waith y Prosiect Dieuogrwydd a'r Uned Pro Bono yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd, a aeth i'r afael ag achos yr apelydd a mynd ar ei drywydd mor ddiwyd."
"Heddiw, ces i'r canlyniad roeddwn ei eisiau"
Ar ôl i'w euogfarn gael ei wrthdroi dywedodd Dwaine George, "Yn gyntaf oll, mae teulu Daniel Dale yn fy meddyliau. Collodd ei fywyd yn y digwyddiad trasig hwn, ac roeddwn bob amser yn dweud nad oeddwn i'n gyfrifol am hynny.
Heddiw, rwyf wedi cael y canlyniad roeddwn ei eisiau - rwyf wedi colli llawer o'm bywyd na allaf ei gael yn ôl, ond rwyf am fynd ymlaen â'm bywyd yn awr. Rwy'n gobeithio y bydd Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd yn ennill yr holl gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu am hyn. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy helpu - y myfyrwyr a'r staff yng Nghaerdydd, fy nghyfreithiwr David McCorkle, James Wood QC a Tunde Okewale o Siambrau Stryd Doughty."
Storïau yn y cyfryngau cenedlaethol
Roedd y cyfryngau cenedlaethol wedi rhoi sylw i achos Dwaine George gan gynnwys y Guardian, yr Independent a y FT.