Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiadau blaenorol 2020/21

Manylion digwyddiadau blaenorol 2020/21 ar gyfer Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Rhestr PARC

Ail Weithdy Rhyngwladol Darogan er Budd Cymdeithasol

24-25 Mehefin 2021 (rhithwir/ar-lein)

Yn sgîl gweithdy llwyddiannus yng Nghaerdydd a rhifyn arbennig ar Ddarogan er Budd Cymdeithasol yn yr International Journal of Forecasting, hoffen ni gyflwyno’r ail Weithdy ar Ddarogan er Budd Cymdeithasol (cyfres o achlysuron chwemisol). Nod y gweithdy hwn yw gwella’r ymchwil a’r gwaith mewn materion sy’n ymwneud â darogan er budd cymdeithasol trwy hwyluso cysylltiadau rhwng ymarferwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisïau i ddatblygu rhwydwaith cydlynol a chynaliadwy o brosiectau cydweithio rhyngwladol.

Bydd y Gweithdy Rhyngwladol ar Ddarogan er Budd Cymdeithasol ar y we rhwng 24-25 Mehefin 2021. Sefydliad Rhyngwladol y Daroganwyr (IIF) sy’n noddi’r gweithdy. Nod y gweithdy hwn yw gwella’r ymchwil a’r gwaith mewn materion sy’n ymwneud â darogan er budd cymdeithasol.

Prif gadeiryddion

Industry 4.0 Gwir ystyr y term a pham y dylai fod o ddiddordeb i chi (Blue Yonder)

10 Mehefin 2021 (ar-lein)

Cymerodd Mike Wilson, Athro Gwadd PARC, Cydgadeirydd PARC ac Is-lywydd Gweithredol Gwasanaethau Gweithgynhyrchu Logisteg a De America DSV - Global Transport and Logistics ran yng ngweminar Blue Yonder, Industry 4.0 and its impacts in supply chains: what it really means and why should you care?

Trosolwg o’r gweminar

Mynegodd arbenigwyr diwydiannol DSV, Prifysgol Cranfield ac Alcott Global eu barn ar Industry 4.0 a’i effeithiau ar y rhai sy’n rheoli cadwyni cyflenwi. Fe roeson nhw sylwadau ar dechnolegau diweddaraf y byd diwydiannol, eu rôl fwyfwy pwysig ynghylch denu a chadw cwsmeriaid ac ymaddasu yn ôl marchnadoedd cyfnewidiol ac anawsterau adnabod a rheoli’r bobl ddawnus a medrus y bydd eu hangen ar eich gweithlu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Gwylio’r gweminar

Cynhadledd Rhwydwaith Ymchwil Logisteg 2020

9-11 Medi 2020, Ysgol Busnes Caerdydd, Caerdydd

Gan fod yr argyfwng ariannol yn dal i effeithio ar y byd ac yn arwain at oblygiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol ac amgylcheddol, mae angen academyddion i ddylanwadu ar ymarfer a theori logisteg am fodeli busnes gwytnach a mwy cynaliadwy a fydd yn cyflawni ‘gwerth cyhoeddus’. Bydd LRN 2020 yn dadlau ac yn beirniadu’r holl faterion cyfoes sy’n ymwneud â ‘gwerth cyhoeddus’.

Tynged Cadwyni Cyflenwi

Mawrth 2020, Y Deml Heddwch, Caerdydd

Mae Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd yn arwain ymchwil flaenllaw i’r datblygiadau diweddaraf o ran cadwyni cyflenwi. Ymunwch â ni ddydd Mawrth 24 Mawrth pan fyddwn ni’n rhannu ein harbenigedd ac yn trafod ein cynnydd ar y cyd â’r rheolwyr diwydiannol sy’n cydweithio â ni, megis DSV/Panalpina, Ocado, Accolade Wines ac Yeo Valley. Trwy’r cyfarfod hwn, bydd modd profi rheng flaen yr arloesi ym maes cadwyni cyflenwi.