Ewch i’r prif gynnwys

OPT019: Diweddariad ar Ofal Sylfaenol - Ymarferol

Nod y modiwl hwn yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i ymarferwyr ddarparu gofal llygaid o safon uchel yn unol ag optometreg fodern sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r modiwl hwn yn ategu'r theori a ddysgir yn OPT018 ac mae'n arbennig o addas ar gyfer yr optometryddion hynny nad ydynt wedi ymarfer yn y DU a'r rhai sydd wedi cael seibiant gyrfa o ymarfer optometreg cyffredinol.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn sawl agwedd allweddol ar ymarfer gofal llygaid sylfaenol modern. Bydd astudio'r modiwl hwn yn rhoi'r sgiliau ymarferol, cyfathrebu a gwneud penderfyniadau diweddaraf i chi tuag at ymarfer clinigol da.

Mae'r modiwl hwn yn ategu OPT013 ac OPT018.

Dyddiad dechrauMawrth
Credydau10 credyd - pwyntiau CET ar gael
RhagofynionOPT018
Tiwtoriaid y modiwlSasha Macken (Arweinydd)
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT019

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o ofal llygaid modern a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer eich hun
  • mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu optometreg gofal sylfaenol a myfyrio arno
  • cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn asesiadau ymarferol.
  • myfyrio'n effeithiol ar ddysgu a'i werthuso
  • asesu arwyddion a symptomau cyflyrau cyffredin sy’n ymgyflwyno mewn gofal llygaid sylfaenol, gwneud diagnosis gwahaniaethol ac graddio opsiynau i’w rheoli
  • datrys problemau a datblygu atebion/cynlluniau rheoli mewn achosion sy’n ymgyflwyno’n gyffredin ym maes gofal llygaid sylfaenol yn seiliedig ar dystiolaeth a barn broffesiynol a chlinigol gadarn

Addysgir y modiwl hwn trwy sesiynau ymarferol, gweminarau rhyngweithiol, tiwtorialau ar-lein a thrafodaethau achos, gan ddarparu adnoddau a chyfeiriadau ategol.

Mae cyfres o senarios gwneud penderfyniadau ffurfiannol sy'n seiliedig ar achosion, trwy fwrdd trafod ar Dysgu Canolog (Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol) ar gael. Gallwch hefyd ryngweithio â'ch cyd-fyfyrwyr a thiwtoriaid eich modiwl a chyflwyno unrhyw gwestiynau clinigol neu ymholiadau eraill sy'n codi drwy gydol y tymor. Yn ogystal, bydd tair gweminar rithwir i drafod gwahanol agweddau ar gynnwys y cwrs.

Bydd diwrnodau cyswllt tua diwedd y semester. Mae’r rhain yn cynnwys gweithdai ymarferol a thrafodaethau achos, ac yna'r asesiad ymarferol crynodol.

Y modiwl hwn yw'r elfen ymarferol sy'n adeiladu ar fodiwl OPT018: Diweddariad ar Ofal Sylfaenol - Theori Mae OPT018 yn cwmpasu gwybodaeth ddamcaniaethol a rhaid ei basio cyn dechrau OPT019.

  • Math a strwythur y cwestiynau a ddefnyddir mewn hanes a symptomau gan gymryd ac addasu'r asesiadau clinigol yn unol â hynny
  • Diagnosio a rheoli cyflyrau llygaid cyffredin ar sail tystiolaeth
  • Y gwahanol ddulliau o asesu iechyd llygaid claf a manteision ac anfanteision pob dull
  • Asesiad clinigol o olwg deulygad
  • Datblygu'r technegau i asesu golwg plant, gan gynnwys asesu'r statws plygiannol (retinoscopi) a’r gallu i gymhwyso
  • Asesu'r siambr flaen ar gyfer arwyddion o lid ac asesu dyfnder ongl y siambr flaen
  • Asesiad o'r ffwndws gan ddefnyddio trefn ophthalmoscopi anuniongyrchol deulygad â lamp hollt fanwl (lens Volk) a thechnegau delweddu retinol atodol
  • Defnyddio tonometreg wastadu Goldman i bennu pwysedd yn y llygaid

Sgiliau academaidd

  • Dehongli data o asesiad ymarferol
  • Techneg arholiad

Sgiliau pwnc-benodol

  • Gwella technegau archwilio clinigol
  • Rheoli Cleifion
  • Cyfathrebu â chleifion

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Datrys problemau
  • Sgiliau cyfathrebu

Asesiad ffurfiannol

Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad achos ffurfiannol a chael adborth cyn yr adroddiad achos crynodol.

Asesiad crynodol

  • Gwaith cwrs ysgrifenedig (50%): Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymuno â gweminar ar-lein gyda thrafodaeth achos ac yna ysgrifennu adroddiad achos yn seiliedig ar ymchwilio i un o'u cleifion eu hunain a’i reoli, neu ddefnyddio achos a ddisgrifir yn y weminar
  • Asesiad Ymarferol (50%): Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu gan ddefnyddio Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE). Mae hyn yn cynnwys gorsafoedd sy'n ystyried gwahanol agweddau ar asesu cleifion mewn ymarfer gofal llygaid