Ewch i’r prif gynnwys

Croeso, i'r myfyrwyr newydd!

29 Medi 2020

Socially Distanced Chemistry Lab

Unwaith eto, dyma ni wedi cyrraedd yr adeg gyffrous honno o'r flwyddyn pan fyddwn ni'n croesawu ein myfyrwyr newydd sy'n dechrau ar eu taith ryfeddol mewn cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd!

Bu'n haf prysur yma yn yr Ysgol - rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i addasu ein dull dysgu cyfunol newydd, ailasesu ein symudiadau ar y safle ac ailedrych ar ein hamserlennu. Ond rydyn ni'n falch i ddweud iddo fod yn llwyddiant mawr.

Mae darlithoedd difyr wedi'u paratoi ar gyfer eu cyflwyno ar-lein, ac mae ffyrdd newydd wedi'u dyfeisio a'u cynllunio i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf drwy ein haddysgu.

Yn ogystal â chael tîm o fewn y Brifysgol sy'n ymroi i greu dulliau cyffrous newydd o addysgu a dysgu, rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â'n myfyrwyr i wella ein dull gweithredu'n barhaus. Ein nod yw datblygu arloesiadau newydd mewn dulliau addysgu wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, i sicrhau ein bod yn cynnal ein safonau uchel.

Fel y gwyddom, pwnc ymarferol yw Cemeg, ac felly mae sicrhau bod myfyrwyr yn gallu treulio amser ar y campws yn ddiogel wedi bod ar frig ein rhestr o flaenoriaethau. Am y rheswm hwn, rydyn ni wedi llwyddo i addasu ein labordai, gan asesu eu lefel defnydd diogel, er mwyn i fyfyrwyr allu mwynhau datblygu eu sgiliau ymarferol yn hyderus mewn amgylchedd diogel.

Y tu hwnt i'n labordai, credwn ei bod yn hanfodol bwysig fod pob modiwl yn cynnwys elfen o addysgu wyneb yn wyneb. Dyma lle mae myfyrwyr yn cydio yn y cyfle i archwilio'r deunydd pwnc, gan herio, holi cwestiynau a thanio eu chwilfrydedd ymhellach. Drwy ailgynllunio ein dosbarthiadau tiwtorial grŵp bach, gallwn barhau i gynnal y sesiynau hollbwysig hyn, a chânt eu cynnal eleni mewn lleoliadau sy'n gyson ag ymbellhau cymdeithasol.

Yn gyffredinol, bu'n flwyddyn heriol i bawb, ond mae gwaith caled ac arloesedd wedi goroesi ac mae pawb yma yn yr Ysgol Cemeg wedi dod at ei gilydd i sicrhau bod cemeg ymarferol yn gallu parhau.

Y cyfan sydd ar ôl nawr yw'r cyffro wrth groesawu ein myfyrwyr newydd a'r rhai sy'n dychwelyd. Gobeithio eich bod chi'n edrych ymlaen at ailgychwyn eich taith gemeg!

Rhannu’r stori hon