Ewch i’r prif gynnwys

Mynd i’r afael â gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc

30 Medi 2019

Wolfson announcement
Yr Athro Stephan Collishaw a’r Athro Frances Rice, Cyd-gyfarwyddwyr Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

Bydd canolfan ymchwil arloesol sy'n canolbwyntio ar ddeall a datblygu ffyrdd newydd o leihau gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc yn cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd gyda £10m o Sefydliad Wolfson.

Bydd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Centre, a gaiff ei lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, yn ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol lle bydd arbenigwyr o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Byrddau Iechyd Prifysgolion ac ysgolion ledled Cymru.

Bydd Canolfan Wolfson yn canolbwyntio ar bum maes gwyddonol:

  • Bydd yn edrych ar ddata hydredol sy'n olrhain plant dros amser er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae gorbryder ac iselder yn datblygu.  Bydd hefyd yn ystyried gwahanol resymau dros y cynnydd diweddar mewn achosion o orbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.
  • Bydd yn edrych ar rôl ffactorau genetig ac amgylcheddol mewn achosion o orbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.
  • Bydd yn datblygu ac yn profi cynllun ymyrraeth newydd er mwyn cefnogi pobl ifanc a theuluoedd os oes rhiant yn dioddef o orbryder.
  • Bydd yn edrych ar rôl ysgolion wrth hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith pobl ifanc.

https://www.youtube.com/watch?v=Ehb0rth0b48&feature=youtu.be

O dan arweiniad arbenigwyr o Brifysgol Abertawe sy'n gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, bydd yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru yn unig er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ddeilliannau tymor hir y bobl ifanc sy'n cael profiad o orbryder ac iselder.

Meddai Paul Ramsbottom, Prif Weithredwr Sefydliad Wolfson: “Mae llawer rhagor i'w ddeall am achosion problemau iechyd meddwl, yr hyn sy'n eu hatal a sut i'w trin, ac mae'n faes sydd heb gael ei ariannu'n ddigonol yn y DU yn y gorffennol.

“Drwy lansio'r cynllun a chyflwyno'r dyfarniad hwn, rydym am wneud datganiad ynghylch pwysigrwydd iechyd meddwl pobl ifanc - ac er mwyn cefnogi ymchwil o'r radd flaenaf ynglŷn â'r pwnc.

“Roedd ein panel o'r farn bod y cynnig gan Gaerdydd yn arbennig o gryf. Mae'r arbenigedd ymchwil sydd wedi'i gynnull yn un sy'n creu cryn argraff ac yn amrywio o feysydd geneteg i epidemioleg.

“Bydd y Ganolfan yn creu cysylltiadau ardderchog gydag ysgolion a gwasanaethau iechyd ledled Cymru, a phrofiadau pobl ifanc fydd yn llywio'r ymchwil. Bydd y cyfan yn seiliedig ar set ddata sy'n rhoi mantais benodol i Gymru yng nghyd-destun ymchwil yn y maes hwn...”

“I ni yn Sefydliad Wolfson, mae wir yn anrhydedd i ni chwarae ein rhan.”

Paul Ramsbottom, Prif Weithredwr Sefydliad Wolfson

Yr Athro Frances Rice o Brifysgol Caerdydd fydd yn cyfarwyddo'r ganolfan newydd ochr yn ochr â'r Athro Stephan Collishaw. Meddai'r Athro Rice: “Rydym yn gwybod na chaiff 75% o bobl ifanc sydd ag anhwylder gorbryder neu iselder gydnabyddiaeth o'u salwch nac unrhyw ymyrraeth ar ei gyfer. Mae'r effaith ar yr unigolyn ifanc, eu teuluoedd a'u cyfleoedd mewn bywyd yn gallu bod yn drychinebus.

“Dyna pam yr ydym mor falch, yn dilyn proses ddethol drylwyr, bod Sefydliad Wolfson wedi dewis gwneud buddsoddiad mor sylweddol i sefydlu Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc...”

“Am y tro cyntaf, byddwn yn gallu dod ag arbenigwyr ynghyd o feysydd seiciatreg plant a phobl ifanc, geneteg, gwyddorau cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru i daflu goleuni ar iechyd meddwl pobl ifanc a datblygu ymyraethau newydd a mawr eu hangen.”

Yr Athro Frances Rice Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Bydd holl ganfyddiadau gwyddonol Wolfson yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â phobl ifanc, ymarferwyr a llunwyr polisïau a chaiff y wybodaeth a gynhyrchir ei defnyddio i lywio iechyd cyhoeddus a pholisïau ysgolion er mwyn ceisio hyrwyddo iechyd meddwl gwell ymhlith pobl ifanc.

Ychwanegodd Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Stephan Collishaw: “Mae 'lab byw' Cymru yn cynnig lleoliad ymchwil cenedlaethol lle gall ymchwil lywio polisïau ac ymarfer yn ogystal â rhoi'r posibilrwydd o roi buddion cyflym i'r 1.1m o bobl ifanc sy'n byw yma.

“Rydym eisoes ar flaen y gad ym meysydd ymchwil iechyd meddwl a geneteg drwy ein cysylltiadau mewn prifysgolion eraill, Llywodraeth Cymru, y GIG ac ysgolion...”

“Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn gan Sefydliad Wolfson yn ein galluogi i ddeall achosion gorbryder ac iselder yn ogystal â helpu i greu ymyraethau cynnar i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y cymorth a'r cyngor cywir a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.”

Yr Athro Stephan Collishaw Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Bydd Canolfan Wolfson yn gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw yn y maes o bob cwr o'r byd ac yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr ym maes iechyd meddwl pobl ifanc.

Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: “Bydd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn manteisio ar wyddorau rhagorol Cymru a'i chysylltedd.

“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i adeiladau ar ein cryfderau yn y gwyddorau a'n partneriaethau gydag ysgolion Cymru, Prifysgol Abertawe, Llywodraeth Cymru, y GIG ac elusennau perthnasol, gyda'r bwriad o greu ffyrdd newydd o atal a thrin gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.”

Meddai TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu Prifysgol Caerdydd: “Mae Sefydliad Wolfson wedi ariannu ymchwil ac isadeiledd rhagorol mewn ffyrdd arloesol ac ysgogol. Mae eu cefnogaeth drawsnewidiol ar hyn o bryd ym maes hanfodol iechyd meddwl yn amserol ac yn cynnig gweledigaeth.”

Yn ogystal ag arweinwyr academaidd ar gyfer pob maes ymchwil, bydd deg Cymrawd Ôl-ddoethurol Arweinwyr y Dyfodol Wolfson yn cael eu penodi.

Mae trefniadau ar y gweill hefyd i gael nifer o fyfyrwyr PhD Wolfson yn ogystal ag ysgol haf iechyd meddwl pobl ifanc sy'n rhoi hyfforddiant ym maes ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc i gymrodyr, myfyrwyr ac ymarferwyr sydd ar gamau cynnar eu hyfforddiant proffesiynol.

Rhannu’r stori hon

These are some of the University projects that your donations help make happen.