Ewch i’r prif gynnwys

Troi ymchwil flaengar yn feddyginiaethau newydd

2 Tachwedd 2017

Picture of Professor Simon Ward and Professor John Atack

Mae Prifysgol Caerdydd ar fin rhoi hwb i’w gallu i droi ymchwil fiofeddygol arweiniol yn gyffuriau newydd, drwy ddod yn gartref newydd i’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau hynod lwyddiannus.

Dan arweiniad yr Athro Simon Ward a'r Athro John Atack, bydd y sefydliad yn cyfrannu gwybodaeth ddihafal y sector fferyllol a hanes o lwyddiant wrth gyflwyno meddyginiaethau newydd i’r clinig.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Gyda chryfder ymchwil mewn meysydd megis imiwnedd, niwrowyddoniaeth, oncoleg a chlefydau heintus, mae Prifysgol Caerdydd yn gartref delfrydol ar gyfer y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau uchelgeisiol..."

"Bydd yr elfen newydd hon i’n darpariaeth yn cynnig cysylltiadau hanfodol rhwng ein hymchwilwyr a’r diwydiant fferyllol, fel bod mwy o gyfle i ni drosi ein hymchwil flaengar yn gynhyrchion gwirioneddol a all wella bywydau pobl ar draws y byd, a gosod Cymru ar y blaen ym maes arloesi meddygol."

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Bydd y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy gynllun Sêr Cymru Llywodraeth Cymru, yn mynd i'r afael â her allweddol yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd drwy ddatblygu cyffuriau newydd ar gyfer niwrowyddoniaeth, canser a haint ac imiwnedd. Mae'r fenter yn ategu ac yn ehangu'r gwaith hirsefydlog ar ddarganfod cyffuriau yng Nghaerdydd, yn enwedig ym meysydd canser a heintiau. Mae hyn yn cynnwys gwaith a gefnogwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru o dan gynllun hynod lwyddiannus Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol y Gwyddorau Bywyd ym maes darganfod cyffuriau, sydd yng ngofal Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd Mr Vaughan Gething - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: "Rwyf wrth fy modd yn cefnogi'r fenter newydd gyffrous hon. Mae'n adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi ymchwil arloesol ar draws sectorau, mewn ffyrdd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd, llesiant a ffyniant pobl yng Nghymru."

Dywedodd yr Athro Simon Ward, Cyd-gyfarwyddwr ar y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: "Ein nod yw gwneud y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yn ganolbwynt ar gyfer darganfod meddyginiaethau ac arloesi ym Mhrifysgol Caerdydd a'r gymuned academaidd ehangach yn y Deyrnas Unedig. At hynny, bydd hefyd yn gatalydd ar gyfer cwmnïau allgynhyrchu a threfniadau cydweithio rhwng diwydiant ac academia a fydd yn datblygu meddyginiaethau newydd sy’n dwyn dilysnod ‘dyfeisiwyd yng Nghaerdydd’ bob cam o’r ffordd o’r labordy i’r botel tabledi..."

"Mae ysbryd cydweithredol o’r iawn ryw ym Mhrifysgol Caerdydd a gweledigaeth glir iawn ar gyfer darganfod meddyginiaethau a rennir nid yn unig gan ein cydweithwyr gwyddonol newydd ond hefyd gan yr Is-Ganghellor a’i uwch dîm o arweinwyr."

Yr Athro Simon Ward Cyfarwyddwr, Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau

Bydd y Sefydliad newydd, a fydd wedi’i leoli yn Ysgol hynod lwyddiannus y Biowyddorau, hefyd yn gyfle gwych i hyfforddi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr darganfod meddyginiaethau.

Rhannu’r stori hon

Rydym ni'n defnyddio ein harbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd ymchwil i gynhyrchu meddyginiaethau newydd, a fydd yn y pen draw yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cleifion ar draws y byd.