Ewch i’r prif gynnwys

Seremoni yn dathlu dysgu iaith

23 Hydref 2017

Llun o Anni Llŷn, awdur, cyflwynydd teledu a chyn-fyfyrwraig yr Ysgol, yn arwain noson wobrwyo'r Cynllun Sabothol
Anni Llŷn, awdur, cyflwynydd teledu a chyn-fyfyrwraig yr Ysgol, oedd siaradwr gwadd noson wobrwyo'r Cynllun Sabothol

Croesawodd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, gyfranogwyr y Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg i’r noson wobrwyo flynyddol nos Fercher 18 Hydref 2017.

Cynhaliwyd y digwyddiad, a oedd yn anrhydeddu carfan 2016–2017 y Cynllun, yn Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad hanesyddol Prifysgol Caerdydd.

Mae’r Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg yn cynnig cyrsiau hyfforddiant iaith i athrawon cynradd ac uwchradd, cynorthwywyr dosbarth a darlithwyr yn y sector cyfrwng Saesneg a’r sector cyfrwng Cymraeg. Nod y cyrsiau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw cynyddu'r cyflenwad o ymarferwyr sy'n gallu addysgu’r Gymraeg fel ail iaith ynghyd ag addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Mae’r cyrsiau’n cynnig cyfleoedd gwych o ran datblygiad proffesiynol parhaus arbenigol ym maes addysg.

Roedd derbyniad gwin cyn y seremoni wobrwyo swyddogol lle cyflwynwyd tystysgrifau cyrhaeddiad i dros 40 o ymarferwyr.

Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth yr Ysgol, a oedd yn arwain y noson ac fe gyflwynodd ef Anni Llŷn, awdur, cyflwynydd teledu a chyn Fardd Plant Cymru, fel siaradwr gwadd y noson. Cwblhaodd Anni radd israddedig ac MA yn Ysgol y Gymraeg, a hyfryd oedd cael ei chroesawu’n ôl. Siaradodd am bwysigrwydd cynnig cyfleoedd i blant ddysgu ieithoedd, yn enwedig y Gymraeg, a hefyd am bwysigrwydd cyfleoedd i ymwneud yn greadigol ag iaith a chwarae â geiriau.

Llun o 10 o ymarferwyr y Cynllun Sabothol
Rhai o ymarferwyr y Cynllun Sabothol (2016-2017)

Dywedodd Dr Dylan Foster Evans: “Mae ein noson wobrwyo flynyddol yn denu cynulleidfa frwd ac mae'n hyfryd cael y cyfle i gydnabod a dathlu llwyddiannau’r ymarferwyr.

“Mae’r noson hefyd yn gyfle i’r ymarferwyr ddod at ei gilydd i gymdeithasu gyda’u cyfoedion a’u tiwtoriaid trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n falch iawn o’r ymarferwyr am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i ddysgu’r Gymraeg, a hefyd yn falch o’r tiwtoriaid am ragoriaeth y dysgu a’r gefnogaeth heb ei hail maent yn ei rhoi i bawb.

Ychwanegodd: “Hoffwn hefyd ddiolch i Anni am ymuno â ni ac am gynnal sesiwn hwyliog iawn gyda gemau geiriau i’n hatgoffa ni i gyd o bwysigrwydd creadigrwydd a mwynhad wrth ddysgu iaith.”

"Mae ein noson wobrwyo flynyddol yn denu cynulleidfa frwd ac mae'n hyfryd cael y cyfle i gydnabod a dathlu llwyddiannau’r ymarferwyr."

Dr Dylan Foster Evans Pennaeth yr Ysgol

Mae cyrsiau’r Cynllun Sabothol yn cael eu cynnig ar sawl lefel ieithyddol mewn lleoliadau ar draws Cymru. Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau yng Nghanolbarth De Cymru a De Ddwyrain Cymru. Cynigir cyrsiau sabothol ar lefel Mynediad, Sylfaen, ac Uwch. Mae'r cyrsiau yn rhad ac am ddim ac mae Llywodraeth Cymru yn talu costau cyflenwi er mwyn rhyddhau athrawon, cynorthwywyr a darlithwyr i allu datblygu eu sgiliau ieithyddol.

Eleni hefyd croesawyd carfan gyntaf cwrs blwyddyn newydd y Cynllun Sabothol.

Am ragor o fanylion am y Cynllun Sabothol, cysylltwch â Cadi Thomas.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.