Ewch i’r prif gynnwys

Datrys dirgelwch marwolaeth "ddi-waed" bardd

19 Hydref 2017

“Bloodless death” of a landmark British poet

Mewn prosiect newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae arbenigwyr yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau wedi bod yn ymchwilio i "farwolaeth ddi-waed" enwog bardd nodedig o Brydain yn y Rhyfel Mawr ganrif ar ôl iddo farw.

Mae gweithiau bywgraffyddol a beirniadol am Edward Thomas (1878 - 1917) yn aml yn cyfeirio at ei "farwolaeth ddi-waed", stori a ymddangosodd yn dilyn ei farwolaeth yn 39 oed ym Mrwydr Arras ddydd Llun y Pasg 1917.

Mae llythyrau gan weddw Thomas, Helen, yn honni bod ei gorff wedi'i adael heb unrhyw anafiadau amlwg. Ond mae llythyrau sydd yn archif Prifysgol Caerdydd, a anfonwyd at Helen gan gyd-swyddogion Thomas, yn gwrthddweud y farn hon, gan adrodd iddo gael ei ladd gan ergyd uniongyrchol o siel. Er gwaethaf y dystiolaeth i'r gwrthwyneb, mae "Marwolaeth ddi-waed" Thomas wedi parhau i lywio barn am ei fywyd a'i waith.

Gyda mynediad at Gasgliadau ac Archifau Arbennig Prifysgol Caerdydd - cartref y rhan fwyaf o weithiau Thomas - aeth Dr Carrie Smith o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol ati i ddeall mwy am y fytholeg hon, drwy edrych ar archif helaeth y bardd, o ran testunau a gwrthrychau materol. Ymhlith eiddo personol Thomas, canfu Dr Smith lythyr a allai fod yn arwyddocaol, y credir iddo fod ymhlith yr eitemau a ddarganfuwyd ar gorff Thomas pan gafodd ei ladd. Roedd y llythyr hwn yn dangos arwyddion clir o staenio, a allai fod yn waed.

Er mwyn edrych yn fwy manwl ar hyn, casglodd Dr Smith dîm o arbenigwyr o'r Dyniaethau a gwyddoniaeth fforensig. Roedd y tîm yn cynnwys yr Athro Martin Willis o fenter Gwyddoniaeth-Dyniaethiau Caerdydd, Alan Hughes, y Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig, yn ogystal â'r gwyddonwyr fforensig Nigel Hodge a'r cyn-fyfyriwr Abigail Carter, o Forensic Resources Ltd, cwmni a sefydlwyd gan Carter.

Er na chafwyd canlyniad o'r llythyr â staen, efallai oherwydd ei oed a'i gyflwr dirywiol, profodd ffotograff oedd gyda'r llythyr yn gadarnhaol am waed. Doedd dim modd i'r gwyddonwyr fforensig bennu ai gwaed Thomas oedd hwn, neu waed milwr arall ar y ffrynt yn Arras.

Eglurodd Dr Smith bwysigrwydd yr ymchwil a'r darganfyddiad: "Mae ein hymchwil yn dweud mwy am fytholegau diwylliannol marwolaethau milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn achos Thomas, mae'r ffaith fod ei weddw'n dweud bod corff ei gŵr 'heb ei gyffwrdd' i'w weld yn ganlyniad i gyfuno dau adroddiad: y naill ar y diwrnod cyn iddo farw oedd yn sôn am siel ddiwerth yn glanio wrth ei ymyl, gan ei daro i'r llawr ond heb ffrwydro, a'r llall yn adrodd am ei farwolaeth ar ôl cael ei daro'n uniongyrchol gan siel y diwrnod canlynol. Mae marciau ar y llythyr a'r ffotograff oedd ar ei gorff pan fu farw sy'n tystio i gryfder tarawol y ffrwydradau siel..."

To examine this more closely, Dr Smith assembled a team of experts from the Humanities and forensic science. The team included Professor Martin Willis of Cardiff University’s ScienceHumanities initiative, Alan Hughes, Head of Special Collections and Archives, as well as forensic scientists Nigel Hodge and alumna Abigail Carter, from Forensic Resources Ltd, a company founded by Carter.

Although the stained letter gave no result, perhaps due to its age and deteriorating condition, a photograph accompanying the letter did test positive for blood. Whether this was the blood of Edward Thomas, or came from another soldier on the front line at Arras, the forensic scientists could not say.

Dr Smith explains the significance of the research and the discovery: “Our research tells us more about the cultural mythologies of soldier deaths in World War One. In Thomas’s case, his widow’s recounting of her husband’s body as ‘untouched’ in death seems to be the result of her conflating two accounts: one account from the day before he died of a dud shell landing near him, knocking him off his feet but not exploding, and another the report of his death by direct hit from a shell the following day. The letter and the photograph that were on his person when he was killed have marks from the percussive strength of the shell blasts..."

"Mae'n ein sobri i gael ein hatgoffa bod gan ddogfennau eu hanes byw eu hunain ac y gallant ddatgelu tystiolaeth sylweddol o wrthdaro a dioddefaint."

Dr Carrie Smith Lecturer (Teaching and Scholarship)

Ychwanegodd yr Athro Willis, hefyd o'r Ysgol: "Mae'r Rhyfel Byd Cyntaf yn parhau'n rhan enfawr o'n cof diwylliannol cyfunol ac mae'r ymchwil hwn yn atgyfnerthu hynny ac yn ychwanegu ato mewn ffyrdd diddorol. Nid yw'n anghyffredin i ddefnyddio gwyddoniaeth gyfoes i ddysgu pethau am y gorffennol ond mae'n anarferol cysylltu bardd a gwyddoniaeth fforensig â'i gilydd. I ni fel academyddion mae'n gyffrous cael gweithio ar draws disgyblaethau'r Dyniaethau a'r Gwyddorau i ychwanegu at ein gwybodaeth ddiwylliannol a hanesyddol."

Mae'r broses ymchwilio i'w gweld mewn podlediad 30 munud a chyfres o ffotograffau ar y wefan Gwyddorau-Dyniaethau . Mae archif fwya’r byd o waith Edward Thomas ar gael i ysgolheigion yn Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.

Ysgrifennodd Edward Thomas ei holl farddoniaeth ym mlynyddoedd olaf ei fywyd, ac fe'i cydnabyddir heddiw'n ffigur pwysig nad yw'n cael sylw teilwng ym maes barddoniaeth fodern. Tra bu fyw, dim ond un gyfrol o'i farddoniaeth, Six Poems, a gyhoeddwyd. Mae coffâd parhaol i Thomas yn Poets Corner yn Abaty Westminster.

Gwrandewch ar bodlediad Y Bardd a’r Gwyddonydd Fforensig: Marwolaeth Anesboniadwy Edward Thomas

Rhannu’r stori hon

Mae gennym gasgliadau o ddogfennau hanesyddol sy'n dyddio'n ôl i'r 14g.