Ewch i’r prif gynnwys

Creaduriaid y cefnfor yn allyrru nwyon tŷ gwydr

10 Hydref 2017

Ocean clam

Mae gwyddonwyr wedi dangos bod cregyn bylchog a mwydod y môr yn rhyddhau swm sylweddol o nwyon tŷ gwydr a all fod yn niweidiol i’r atmosffer.

Mae’r tîm, o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Stockholm, wedi dangos bod y creaduriaid morol yn rhyddhau symiau mawr o’r nwyon tŷ gwydr cryfaf - methan ac ocsid nitrus - o’r bacteria yn eu perfeddion.

Mae’r nwyon hyn yn gwneud eu ffordd i’r dŵr, ac yna yn y pen draw i’r atmosffer, gan gyfrannu at gynhesu byd-eang. Mae i fathan ac ocsid nitrus potensial cynhesu sydd 28 a 265 gwaith yn fwy, yn y drefn honno, na charbon deuocsid.

Dangosodd dadansoddiad manwl o'r Môr Baltig fod cregyn bylchog a mwydod yn rhyddhau cymaint o fethan ag 20,000 o wartheg godro. Dyna gymaint â 10 y cant o boblogaeth gyfan gwartheg godro Cymru, ac 1 y cant o boblogaeth gyfan gwartheg godro’r DU.

Dangosodd y dadansoddiad hefyd y gallai oddeutu 10 y cant o holl allyriadau methan y Môr Baltig fod o ganlyniad i gregyn bylchog a mwydod.

Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Scientific Reports, yn cyfeirio at ffynhonnell nwyon tŷ gwydr morol sydd wedi cael ei hanwybyddu hyd yma. Gallai cael effaith ddofn ar wneuthurwyr penderfyniadau.

Awgrymwyd y gallai ffermio wystrys, cregyn gleision, a chregyn bylchog fod yn ateb effeithiol i bwysau dynol ar yr amgylchedd, megis ewtroffigedd a achosir gan wrteithiau yn rhedeg gyda dŵr ffo i’n dyfroedd.

Mae’r awduron yn rhybuddio y dylai rhanddeiliaid ystyried yr effeithiau posib hyn cyn penderfynu a ddylent hyrwyddo ffermio cregynbysgod mewn rhannau helaeth o’r cefnfor.

Yn ôl cyd-awdur yr astudiaeth, Dr Ernest Chi Fru, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Yr hyn sy’n rhyfedd yw fod y Môr Baltig yn cyfrif am ddim ond 0.1% o gefnforoedd y byd, sy’n awgrymu y gallai’r creaduriaid dwygragennog diniwed hyn, yn fyd-eang, gyfrannu symiau gwirion o nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer heb ei gyfrif.”

Dywedodd prif awdur yr astudiaeth Dr Stefano Bonaglia, o Brifysgol Stockholm: "Mae'n swnio'n ddoniol ond gall anifeiliaid bychain ar lawr y môr weithredu fel gwartheg mewn glowty: mae’r ddau grŵp yn gyfranwyr methan pwysig oherwydd y bacteria yn eu perfeddion.

"Gall yr anifeiliaid bychain ond niferus iawn hyn chwarae rôl bwysig (sydd wedi ei hesgeuluso hyd yma) wrth reoleiddio allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y môr.”

I ymgyrraedd at eu canlyniadau, dadansoddodd y tîm nwyon hybrin, isotopau, a moleciwlau o’r mwydod a’r cregyn bylchog, a adwaenir fel mwydod gwrychog a dwygragenion yn y drefn honno, a gymerwyd o waddodion morol o’r Môr Baltig.

Dadansoddodd y tîm gyfraniad uniongyrchol ac anuniongyrchol y grwpiau hyn i gynhyrchiant methan ac ocsid nitrus yn y môr. Dangosodd y canlyniadau fod gwaddodion sy'n cynnwys cregyn bylchog a mwydod yn cynyddu cynhyrchiant methan gan ffactor o wyth o gymharu â gwaddodion hebddynt.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.