Ewch i’r prif gynnwys

Cynghrair prifysgolion yn cael £2m at ddibenion hyfforddi cenhedlaeth newydd o arweinwyr dŵr croyw

3 Hydref 2017

Centre for Doctoral Training Freshwater Bioscience

Bydd rhaglen hyfforddi ddoethurol gyntaf y DU mewn biowyddoniaeth dŵr croyw yn hyfforddi arbenigwyr y dyfodol i fynd i'r afael â’r heriau cymhleth sydd eu angen i gynnal ecosystemau’r byd

Bydd Cynghrair GW4 yn cael £2m gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC) i sefydlu canolfan hyfforddi ddoethurol gyntaf y DU, yn benodol ar gyfer “biowyddoniaeth dŵr croyw a chynaliadwyedd". Bydd y prosiect yn mynd i'r afael â heriau ar gyfer afonydd, llynnoedd a gwlypdiroedd fel adnoddau naturiol pwysicaf y byd, ond y rhai sydd hefyd o dan y bygythiad mwyaf.

Mae cynnal ecosystemau dŵr croyw’r byd, tra'n bodloni gofynion dŵr poblogaeth sy'n tyfu, yn gofyn am ffordd newydd o feddwl. Bydd y rhaglen hon yn ymdrin â pheryglon sy'n dod i'r amlwg, datblygu dulliau monitro newydd, mynd i'r afael â difodiant cyflym anifeiliaid a phlanhigion dŵr croyw, ac yn cynnig atebion integredig at ddibenion rheoli cynaliadwyedd.

Dan arweiniad Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, mae tîm y rhaglen yn cynnwys chwe sefydliad ymchwil o'r radd flaenaf: Prifysgolion GW4, sef Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg, y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg ac Arolwg Daearegol Prydain. Gyda'i gilydd, maent yn un o'r grwpiau mwyaf o wyddonwyr dŵr croyw yn Ewrop, ac yn fàs critigol o wyddonwyr rhyngwladol cydnabyddedig, sy’n gynnwys empiryddion, arbrofolwyr, modelwyr, a damcanyddion ym maes biowyddoniaeth dŵr croyw a chynaliadwyedd.

Bydd myfyrwyr PhD sy’n cymryd rhan yn y rhaglen amlddisgyblaethol hon yn gweithio ar brosiectau ymchwil go iawn gyda goruchwylwyr o ystod o sefydliadau, fel Dŵr Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Ymddiriedolaeth yr Afonydd, gan eu galluogi i weithio ochr yn ochr â’r cadwraethwyr a busnesau masnachol sy'n mynd i’r afael â heriau dŵr yr 21ain ganrif.

Yn ôl Dr Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Canolfan Dŵr Croyw GW4 ar gyfer Hyfforddiant Doethurol, a Cyhyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: “Mae natur heriau dwr croyw yn golygu bod angen i gymuned ymchwil dŵr croyw’r DU gymryd cam i gyfeiriad newydd: ein gweledigaeth yw hyfforddi arweinwyr y dyfodol gyda’r sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer mynd i'r afael â heriau sy'n wynebu cynaliadwyedd.”

Yn ôl yr Athro Steve Ormerod, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Hyfforddiand Doethurol Prifysgol Caerdydd: “Mae ecosystemau dŵr croyw ymhlith y rhai sydd fwyaf dan fygythiad ar y Ddaear – ac mae ein methiant i’w rheoli'n gynaliadwy yn berygl i filiynau o bobl erbyn hyn, yn ogystal â rhai o’n hamgylcheddau mwyaf gwethfawr.  Mae angen inni fuddsoddi mewn hyfforddiant ar y raddfa hon er mwyn dod o hyd i atebion newydd i broblemau a fydd fel arall yn rhai anhydrin.”

Yn ôl yr Athro Nick Talbot, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil), Prifysgol Caerwysg a Chadeirydd Bwrdd GW4: “Rydym wrth ein boddau bod Cyngrair Diogelwch Dŵr GW4, sef y grŵp mwyaf o arbenigwyr dŵr yn y DU, wedi derbyn cydnabyddiaeth yn sgil y dyfarniad hwn. Mae'r fenter hon yn adeiladu ar waddol gwerthfawr o gydweithredu ar ran GW4, yn ogystal â rhagoriaeth mewn hyfforddiant doethurol, yn dilyn Canolfan Hyfforddiant Gweithredol Gwyddoniaeth a Pheirianneg Gwybodeg Dŵr (GPGD), a bydd yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau pwysicaf sy'n wynebu ein hamgylchedd heddiw.

Mae go debyg y bydd gan Ganolfan Hyfforddiant Doethurol Dŵr Croyw GW4 effaith fyd-eang, ac mae’n dystiolaeth bellach mae cydweithio a rhannu arbenigedd ar draws sefydliadau, yn ogystal â chenedlaethau, fydd hanfod darganfyddiadau gwyddonol yn y dyfodol.”

Chwe blynedd fydd hyd y rhaglen, a bydd yn croesawu ei charfan gyntaf yn 2018.

Rhannu’r stori hon

Visit the Alliance website for more information.