Ewch i’r prif gynnwys

Dŵr daear yn Affrica

30 Mai 2017

african groundwater

Ymchwil newydd yn dangos pwysigrwydd dŵr daear yn Affrica wrth ddechrau edrych ar esblygiad hynafol pobl

Mae tîm rhyngwladol o dan arweiniad ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, o’r farn mai lleoliad pyllau o ddŵr daear a lywiodd symudiad ein hynafiaid ar draws Ddwyrain Affrica.

Mewn astudiaeth newydd, mae’r tîm yn dadlau bod y bobl gynnar ar y ddaear wedi goroesi oherwydd eu bod wedi aros ger y ffynhonnau dŵr hyn wrth iddynt deithio dros diroedd Affrica.

Mae’r tîm o’r farn bod poblogaethau wedi gallu cymysgu â’i gilydd ger y pyllau dŵr hyn, gan ddylanwadu ar amrywiaeth geneteg, ac yn y pendraw, esblygiad y boblogaeth ddynol.

Cyhoeddwyd canlyniadau’r astudiaeth hon heddiw, 30 Mai, yn nghyfnodolyn Nature Communications.

Credir bod bodau dynol wedi esblygu gyntaf yn Affrica, ac mae tystiolaeth yn awgrymu bod y bobl gynnar ar y ddaear wedi mudo o’r cyfandir rhwng 2 miliwn ac 1.8 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Yn ystod y cyfnod hwn, effeithiwyd ar y glawiad oherwydd y Monsŵn Affricanaidd oedd yn cryfhau ac yn gwanhau yn ôl cylch 23,000 o flynyddoedd oherwydd blaenoriad y cyhydnosau. Yn ystod cyfnodau dwys o sychder, byddai glaw’r monsŵn wedi bod yn ysgafn, a byddai dŵr yfed wedi bod yn brin.

Wrth fapio ffynhonnau parhaus o ddŵr ar draws tiroedd Affrica, mae’r ymchwilwyr wedi gallu modelu sut y byddai ein hynafiaid wedi symud rhwng y ffynhonnau dŵr o bosibl ar wahanol gyfnodau, ac effaith hyn ar eu gallu i deithio’r dirwedd wrth i’r hinsawdd newid.

Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, Dr Mark Cuthbert, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd: “Gwelsom fod daeareg yn hynod bwysig wrth reoli faint o law sy’n cael ei gadw yn y ddaear yn ystod cyfnodau gwlyb.  Dangosodd y model o’r ffynhonnau dŵr bod llawer ohonynt yn dal i lifo yn ystod cyfnodau sych oherwydd bod y storfa dŵr daear yn gweithredu fel clustog yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

“Gallwn ddechrau gweld felly bod daeareg, ac nid yr hinsawdd yn unig, yn rheoli argaeledd y dŵr ac roedd y dirwedd yn gatalydd ar gyfer newid yn Affrica.”

Dywedodd cyd-awdur yr astudiaeth, yr Athro Matthew Bennett o Brifysgol Bournemouth: “Rydym yn gweld sut mae pobl wedi symud ar draws rhannau helaeth o dir. Gallwch felly feddwl am y ffynhonnau dŵr fel gorsafoedd gwasanaeth neu seibiau ar hyd y ffordd, lle cafodd pobl eu tynnu iddynt ar gyfer cael eu ffynonellau dŵr hanfodol.

“Drwy fapio hyn, fe wnaethom ddarganfod y llwybrau posibl a gerddwyd gan ein hynafiaid. Maent fel priffyrdd, yn mynd â phobl o un ffynhonnell dŵr i'r nesaf. "Dyma arwydd hanfodol arall i ddeall sut roedd y bobl hyn yn mudo ar draws cyfandir Affrica, o ffynhonnell ddŵr i ffynhonnell ddŵr a sut y gallai hyn fod wedi effeithio ar lif a chymysgu genynnau."

Dywedodd Dr Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: “Mae dŵr daear yn darparu dŵr yfed i bron draean o boblogaeth y byd ar hyn o bryd. Defnyddir dŵr hefyd i gynhyrchu’r gyfran fwyaf o gyflenwad bwyd y byd ac mae’n elfen hanfodol o’n cyfalaf naturiol. Ond yn ôl yr ymchwil hon, gallai hefyd fod wedi dylanwadu ar ein hesblygiad”.

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil gan dîm cydweithredol o academyddion o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham, Coleg Prifysgol Llundain, UNSW Awstralia, Prifysgol Bournemouth, Prifysgol Rutgers (UDA) a Phrifysgol Victoria (Canada).