Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn sicrhau buddsoddiad hir dymor yng Nghasnewydd

14 Gorffennaf 2017

Julie James visiting NSA

Bydd Academi Meddalwedd Genedlaethol Prifysgol Caerdydd yn ehangu gan ymsefydlu mewn swyddfeydd newydd yng Nghasnewydd yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018/19.

Bydd symud yn fodd i ddarparu ar gyfer y garfan gynyddol o fyfyrwyr sy’n dewis astudio am radd yn yr Academi, sy’n cynnig rhaglen arloesol ac unigryw wedi ei chanolbwyntio ar ymgysylltu â diwydiant.

Bydd yr academi, sydd ar hyn o bryd â’i leoliad yn adeilad The Platform yng Nghasnewydd, yn ymsefydlu yng Ngorsaf Wybodaeth Cyngor Dinas Casnewydd yn hen orsaf reilffordd y ddinas.

Bydd y cyfleusterau newydd yn galluogi’r Academi i ehangu ei chyfleusterau dysgu a chyflawni un o’i phrif amcanion, sef darparu gofod astudio sy’n dynwared amgylchedd y gweithle ar gyfer myfyrwyr, ac sydd hefyd yn cymathu arferion gweithio’r diwydiant.

Prosiectau ‘bywyd go iawn’

Sefydlwyd yr Academi mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac arweinwyr diwydiant, gan gynnwys yr Alactrity Foundation yng Nghasnewydd. Mae ei hethos yn canolbwyntio ar roi prosiectau ‘bywyd go iawn’ i fyfyrwyr weithio arnynt trwy gydol eu hastudiaethau, a rhoi cyfleoedd iddynt ymgysylltu â pheirianwyr meddalwedd profiadol o’r diwydiant.

Meddai’r Athro Rudolf Allemann, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Mae ehangu’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn arwydd eglur o lwyddiant. Rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol wedi gallu cynnal ei phresenoldeb yng Nghasnewydd gan barhau i feithrin perthynas gref rhwng ein dwy ddinas wych yn sgil hynny...”

“Bydd y symud hwn yn galluogi’r Academi i adeiladu ar y sylfeini sydd eisoes wedi eu gosod a pharhau i ddenu’r busnesau gorau o ledled Cymru, y DU a gweddill y byd.”

Yr Athro Rudolf Allemann Pro Vice-Chancellor, International and Student Recruitment and Head of the College of Physical Sciences and Engineering

Trailblazer of the Year

Mae’r Academi wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf gan gynyddu nifer ei myfyrwyr, cynnal ymweliadau gweinidogol a diwrnodau agored ar gyfer teuluoedd, ac ennill nifer o wobrau technoleg. Ym mis Mehefin 2017, enillodd yr Academi wobr ‘Trailblazer of the Year’, yng ngwobrau Technoleg ESTnet Cymru.

Cynhelir y rhaglen radd dair blynedd (BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol) gan Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, ac mae’n helpu i fynd i’r afael â’r galw cyfredol nas diwellir am beirianwyr meddalwedd medrus yng Nghymru. Mae'r Academi hefyd yn bwriadu cyflwyno rhaglen Meistr newydd a fydd yn dechrau ym mis Medi 2018.

Mae ymchwil farchnad a wnaed ar ran Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd angen 3,000 o weithwyr TG proffesiynol ar y diwydiannau yng Nghymru bob blwyddyn. Mae’r cyflenwad o raddedigion medrus o’r prifysgolion yn isel, sy’n golygu nad yw’r galw’n cael ei ddiwallu ar hyn o bryd.

Ymhellach, mae canfyddiad yn y diwydiant bod graddedigion peirianneg meddalwedd yn brin o nifer o sgiliau hanfodol i’w paratoi ar gyfer y gweithle wedi iddyn nhw adael y brifysgol.

Dywedodd Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Cymru yw economi ddigidol sy'n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain eisoes, gyda sector dechnoleg sydd yn cyflogi tua 40,000 o bobl ac sy’n werth dros £8 biliwn mewn trosiant i economi Cymru...”

“Mae’n hollbwysig ein bod yn sicrhau bod Cymru’n parhau i feithrin a datblygu sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg os ydym am fod yn gystadleuol a pharhau i dyfu yn y sector cyflym hwn.”

Julie James AC Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

“Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu cefnogi ehangu’r academi hon, sydd yn gwbl gyson â’n gweledigaeth o ddenu a meithrin gallu yn maes hwn.”

Rhannu’r stori hon

Our Applied Software Engineering degree is based at the freshly-established National Software Academy, developing industry-ready software engineers.