Ewch i’r prif gynnwys

Darllen yn Gymraeg ‘wedi'i gysylltu â'r ysgol’

11 Awst 2017

Young woman reading in library

Bydd ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd, a gomisiynwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru, yn tynnu sylw at yr her o ennyn diddordeb darllenwyr ifanc yn y Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae astudiaeth gan Dr Siwan Rosser, o Ysgol y Gymraeg, yn awgrymu bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr ifanc yn cysylltu darllen yn Gymraeg â gwaith ysgol, ac yn dewis darllen yn Saesneg am bleser.

Bydd ffigurau blaenllaw o’r cyfryngau a’r byd cyhoeddi yng Nghymru yn ymuno âDr Siwan Rosser i drafod sut y gellir ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ifainc drwy straeon ar lwyfannau print, digidol a’r cyfryngau.

Bydd ei sesiwn, ym mhabell Prifysgol Caerdydd am 13.00 ddydd Gwener 11 Awst, yn rhagflas o ganfyddiadau ei Hadolygiad o Lyfrau Cymraeg ar gyfer Plant ac Oedolion Ifanc a gomisiynwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Profiadau o ddarllen Gymraeg

Casglodd Dr Rosser farn darllenwyr ifanc ledled Cymru drwy holiadur ar-lein a grwpiau ffocws.

“Cefais fod y rhan fwyaf yn dewis darllen am bleser yn Saesneg, ac yn cysylltu darllen yn Gymraeg â'r ysgol,” meddai.

“Wrth ymchwilio ymhellach i'r mater, cefais fod eu profiadau o ddarllen llyfrau Cymraeg yn rhan o'u gwaith ysgol/gwaith cartref yn bennaf, ac nad oedd llyfrau Cymraeg yn rhan weladwy o'u cymuned leol na'u diwylliant ar-lein.”

Dr Siwan Rosser Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu

“Mae hyn yn wahanol i lyfrau Saesneg y mae eu teitlau ac awduron yn ymddangos yn rheolaidd mewn siopau ar y stryd fawr, ar y teledu/ffilmiau/radio, ac ar-lein.

“Mae'r drafodaeth hon yn dod ag ymarferwyr a chynhyrchwyr ym maes cyhoeddi a'r cyfryngau a darllenwyr ifanc o Ynys Môn ynghyd i ystyried sut y gellir ennyn diddordeb pobl ifanc mewn darllen a chreadigrwydd ar draws platfformau print, y cyfryngau a phlatfformau digidol.”

Cysylltu Caerdydd yw thema Prifysgol Caerdydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2017 - sut mae Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, ei staff a’i chyn-fyfyrwyr wedi eu cysylltu â Chymru a’r tu hwnt.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.