Ewch i’r prif gynnwys

‘Ailhyfforddi’ y system imiwnedd

10 Awst 2017

Insulin inside a cell

Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a Choleg y Brenin Llundain, efallai bod modd ‘ailhyfforddi’ y system imiwnedd i arafu datblygiad diabetes math 1.

Fe sylwodd yr ymchwilwyr sy’n arwain arbrawf MonoPepT1De ar newidiadau amlwg yn ymddygiad systemau imiwnedd cleifion diabetes math 1 oedd wedi cael peptidau. Peptidau yw’r darnau bychain o'r moleciwlau protein sydd i’w canfod yng nghelloedd beta y pancreas.

Mae diabetes math 1 yn datblygu pan mae system imiwnedd y claf yn ymosod ar y celloedd beta sy’n cynhyrchu yn y pancreas. Heb ei drin, bydd nifer y celloedd beta yn gostwng yn raddol ac ni fydd y corff yn gallu cynnal y lefelau arferol o siwgr(glwcos yn y gwaed).

Ar y trywydd cywir

Mae’r Athro Mark Peakman yn ymgymryd â gwaith sy’n cael ei gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Fiofeddygol (BRC) y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR) yn Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Guy and St Thomas a Choleg y Brenin, a dywedodd: “Pan mae rhywun yn cael diagnosis o ddiabetes math 1, bydd ganddyn nhw rhwng 15% a 20% o’u celloedd beta o hyd fel arfer. Roedden ni am weld a fyddai modd i ni amddiffyn y celloedd sy’n weddill drwy ailhyfforddi’r system imiwnedd i beidio ag ymosod arnyn nhw.

“Mae llawer i’w wneud o hyd, ond mae’r canlyniadau cynnar yma yn awgrymu ein bod ar y trywydd cywir. Mae’r dechnoleg peptid a ddefnyddir yn ein treial yn ddiogel i gleifion ac mae’n cael effaith amlwg ar y system imiwnedd hefyd.”

Nid oes iachâd ar gyfer diabetes math 1 ar hyn o bryd. Gall y clefyd effeithio ar brif organau’r corff, gan gynnwys y galon, pibellau gwaed, y nerfau, y llygaid a'r arennau. Mae’r DU yn un o’r gwledydd sydd â’r cyfraddau uchaf o ddiabetes math 1 yn y byd, ac mae 400,000 o bobl yn byw gyda’r cyflwr ar hyn o bryd.

“Roedd yn galonogol gweld bod angen llai o inswlin ar y bobl a gafodd y driniaeth i reoli lefelau eu glwcos, gan awgrymu bod eu pancreas yn gweithio’n well” meddai’r Athro Colin Dayan o Brifysgol Caerdydd, Prif Archwiliwr clinigol yr astudiaeth.

Cefnogwyd yr astudiaeth gan Diabetes UK a JDRF, elusen diabetes math 1.

Wella ein dealltwriaeth

Dywedodd Dr Elizabeth Robertson, Cyfarwyddwr Ymchwil Diabetes UK, elusen sy'n cefnogi prif awdur yr astudiaeth: “Mae Diabetes UK wedi ymrwymo i wella ein dealltwriaeth o’r ymosodiad ar y system imiwnedd a dod o hyd i ffyrdd o’i hatal. Mae’r canfyddiadau newydd hyn yn gam cyffrous ymlaen tuag at greu imiwnotherapi i atal y clefyd difrifol hwn rhag datblygu ymhlith cleifion risg uchel, neu ei atal rhag gwaethygu ymhlith y rhai sydd eisoes wedi cael diagnosis o’r cyflwr.”

Karen Addington yw Prif Weithredwr elusen diabetes math 1 JDRF yn y DU a wnaeth ariannu’r ymchwil, a dywedodd: “Mae ymchwil imiwnotherapi cyffrous fel yma yn cynyddu’r posibilrwydd y bydd modd amddiffyn a gwarchod celloedd sy’n cynhyrchu inswlin ryw ddydd. Gallai hynny olygu y bydd angen i bobl sydd mewn perygl o gael diabetes Math 1 gymryd llai o inswlin yn y dyfodol, a hyd yn oed sefyllfa yn y dyfodol pan na fydd angen i unrhyw un orfod cael pigiadau dyddiol i aros yn fyw.”

Yn dilyn llwyddiant arbrawf MonoPepT1De, a gefnogwyd gan BRC NIHR yn Guy’s and St Thomas a Choleg y Brenin Llundain, mae Coleg y Brenin ac UCB Biopharma yn cydweithio ar gynnyrch ar gyfer y genhedlaeth nesaf – MultipepT1De - mewn astudiaeth ddiogelwch Cam 1b.

Mae UCB wedi cael trwyddedau penodol gan Goleg y Brenin Llundain i ddatblygu MonopepT1De a MultipepT1De ar draws y byd ac maent yn bwriadu datblygu Multipept1de ymhellach.

Cyhoeddir yr astudiaeth – ‘Metabolic and immune effects of immunotherapy with proinsulin peptide in new-onset type 1 diabetes’ yng nghyfnodolyn Science Translational Medicine.

Rhannu’r stori hon

Hysbysebir mwy o swyddi PhD o fewn maes imiwnoleg yn flynyddol gan y Sefydliad Haint ac Imiwnedd.