Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant myfyrwyr Meddygol ar daith feicio elusennol

2 Awst 2017

Caitlin and Liam with bikes

Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi beicio ledled Cymru i godi arian ar gyfer LATCH, elusen canser plant Cymru.

Fe dreuliodd Caitlin Peers a Liam Evans bum niwrnod yn beicio ar hyd llwybr Lôn Las Cymru, sy’n 257 milltir o hyd. Mae Caitlin newydd orffen ei thrydedd flwyddyn, ac mae Liam newydd gwblhau ei flwyddyn gyntaf.

Gan gychwyn yng Nghaergybi ar arfordir gogledd Ynys Môn fore Sadwrn, teithiodd y ddau drwy Barc Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog ar eu ffordd i’r llinell derfyn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd Caitlin, a gwblhaodd dreiathlon GO TRI ar ran y Brifysgol ym mis Mawrth: “Rydyn ni wedi codi dros £700 hyd yma i dalu am gadeiriau arbenigol er mwyn i’r plant allu gadael yr ysbyty a mynd adref o bryd i’w gilydd...”

“Rydw i wedi gweld rhai o’r plant y mae LATCH yn eu helpu ar leoliad yn yr adran achosion brys yng Nghaerdydd, a faint o wahaniaeth maen nhw’n ei wneud i deuluoedd. Felly, mae’n beth da ein bod wedi codi rhywfaint o arian ar eu cyfer.”

Caitlin Peers

Ychwanegodd Liam: “Yr ail ddiwrnod oedd yr un anoddaf yn ôl pob tebyg. Roedd rhaid dringo tri bryn mawr wrth fynd drwy Eryri, ac roedd yn dipyn o her. Fodd bynnag, rydyn ni’n teimlo’n eithaf balch o’n hunain nawr y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru.”

Mae LATCH yn gweithio ledled Cymru i gefnogi teuluoedd plant sy’n cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru drwy drefnu gweithgareddau a gwibdeithiau i blant â chanser.

I gefnogi taith Caitlin a Liam, a rhoi arian i LATCH, ewch i’w i'w gwefan codi arian JustGiving.

Rhannu’r stori hon

Edrychwch beth sydd gan ein myfyrwyr meddygaeth i’w ddweud am astudio yma.