Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn cael profiad o fywyd newyddiadurwr

3 Awst 2017

Llais y Maes interviewing Alun Cairns

Wrth i wasanaeth newyddion cyffrous ddathlu pum mlynedd o fod yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd myfyrwyr y cyfryngau o Brifysgol Caerdydd yn gweithio gyda newyddiadurwyr proffesiynol.

Mae Llais y Maes, a arweinir gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol (JOMEC) Prifysgol Caerdydd, yn cydweithio ag ITV Cymru Wales, S4C a'r Eisteddfod Genedlaethol yn y digwyddiad yn Ynys Môn eleni.

Bydd myfyrwyr o'r Ysgol yn defnyddio gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant i greu cynnwys aml-lwyfan unigryw o'r Maes.

Mae Llais y Maes yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddysgu sgiliau newydd a'u hymarfer, creu cysylltiadau a chael cipolwg ar fywyd newyddiadurwr yn y gwaith.

Partneriaid pwysig newydd

Bydd darlithwyr Cymraeg yr Ysgol yn arwain y gwasanaeth, sef Sian Morgan Lloyd a Manon Edwards Ahir, ac Iwan Roberts, Cynhyrchydd ITV.

Dywedodd Sian: “Mae hwn yn gyfle eithriadol i fyfyrwyr brofi bywyd fel newyddiadurwyr mewn amgylchedd newyddion cyffrous a bywiog.

“Rydym ni'n falch iawn eleni o gael cefnogaeth gan bartneriaid pwysig newydd yn y diwydiant, S4C ac ITV Cymru Wales, yn ogystal â chefnogaeth barhaus a gwerthfawr yr Eisteddfod Genedlaethol...”

“Gyda thirwedd y dechnoleg yn newid mor gyflym, bydd yn ddiddorol gweld sut y mae'r myfyrwyr yn creu ein cynnwys gan ddefnyddio'r teclynnau a'r llwyfannau cyfathrebu diweddaraf.”

Sian Lloyd Darlithydd

Cenedlaethau'r dyfodol o newyddiadurwyr Cymru

Dywedodd Iwan: “Mae Llais y Maes yn brosiect gwych a chyffrous, ac rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â'r Ysgol, gan ddefnyddio profiad ITV Cymru Wales i roi budd i genedlaethau'r dyfodol o newyddiadurwyr Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at gynhyrchu cynnwys gwych yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a fydd yn cynnig persbectif gwahanol gobeithio.”

Mae cynfyfyriwr o'r Ysgol, Glesni Euros, ymysg tîm y newyddiadurwyr o ITV Cymru Wales a fydd yn cefnogi Llais y Maes yn yr Eisteddfod.

Dywedodd Glesni: “Rwy'n edrych ymlaen yn arw at ymuno â chriw Llais y Maes yn yr Eisteddfod eleni.

“Bydd yn hynod o gyffrous gweithio gyda darlithwyr a myfyrwyr brwdfrydig o'r Ysgol i greu gwasanaeth digidol o ansawdd uchel o'r Maes.”

Mae Hannah Pearce, a gymerodd ran yn Llais y Maes yn Eisteddfod 2015, bellach wedi cael ei swydd ddelfrydol ar raglen Newyddion 9 S4C, a gynhyrchir gan BBC Cymru Wales.

Alex Jones gydag un o fyfyrwyr Llais y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol 2015
Alex Jones gydag un o fyfyrwyr Llais y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol 2015.

Dywedodd Hannah: “Roedd Llais y Maes yn brofiad gwych o'r dechrau i'r diwedd. Rhoddodd y profiad gyfle i ni wneud cyfweliadau, dod o hyd i straeon yn ogystal â dysgu sut mae rheoli ac arwain tîm gan fod pawb wedi cael y cyfle yn ystod yr wythnos i fod yn olygydd y dydd. Cefais y cyfle i wneud pethau nad oeddwn i’n meddwl bydden i byth wedi cael gwneud yn ystod fy nghyfnod gyda Llais y Maes...

“Fe wnes i gyfweld â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ogystal â chyfweld â chyflwynwraig The One Show, Alex Jones, yn fyw. Roedd bod yn rhan o dîm Llais y Maes wedi cadarnhau mai gweithio yn y cyfryngau Cymraeg fel newyddiadurwraig roeddwn i eisiau ei wneud.”

Hannah Pearce

Thema Prifysgol Caerdydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2017 yw Cysylltu Caerdydd - sut mae Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, ei staff a’i chynfyfyrwyr wedi eu cysylltu â Chymru a’r tu hwnt.

Mae rhaglen lawn Prifysgol Caerdydd i’w gweld yma.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.