Ewch i’r prif gynnwys

Ydy Cymru’n cael ei phortreadu’n deg ar y teledu?

3 Awst 2017

Welsh flag mosaic

Bydd tri o wneuthurwyr penderfyniadau mwyaf dylanwadol teledu Cymru yn ystyried a yw Cymru’n cael ei phortreadu’n deg ar y teledu, mewn dadl a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru, Sian Gwynedd, Angharad Mair, Cyfarwyddwr Gweithredol Tinopolis Cymru a chadeirydd BAFTA Cymru, a Chyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees yn trafod a yw’r cyfryngau yng Nghymru yn adlewyrchiad priodol o’r genedl.

Cynhelir y drafodaeth gan yr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol (JOMEC), a bydd yng ngofal y darlithydd a’r darlledwr Sian Morgan Lloyd, ym mhabell Prifysgol Caerdydd ddydd Mercher 9 Awst am 14:00.

Bydd y drafodaeth flynyddol hon ar y cyfryngau, sydd bellach yn elfen boblogaeth o raglen yr Eisteddfod Genedlaethol, yn cynnwys dadlau bywiog a chyfle i’r gynulleidfa holi ffigurau amlwg yn y diwydiant.

Newidiadau cyflym y mae’r diwydiant

Dywedodd Lloyd: “Rydym ni yn JOMEC, fel rhan o Brifysgol Caerdydd, yn mwynhau'r cyfle blynyddol hwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol i ddod ag elfennau creadigol ac aelodau o’r cyfryngau Cymraeg at ei gilydd i drafod.

“Yn ddiamau mae’r cyfryngau yn ganolog i’n bywyd gwleidyddol a diwylliannol yn y ddwy iaith yng Nghymru ond yma, fel mewn gwledydd ar draws y byd, yr ydym yn gorfod addasu’n feunyddiol i’r newidiadau cyflym y mae’r diwydiant yn eu hwynebu...”

“Rydym ni’n gweld ein rôl yn JOMEC fel gwaith hwyluso a sbarduno trafodaeth gyhoeddus, ac mae’r ddadl hon yn gyfle delfrydol i fyfyrio ar sefyllfa’r cyfryngau ar hyn o bryd a gofyn a ydynt yn adlewyrchiad teg ohonom fel gwlad.”

Sian Lloyd Darlithydd

Mae’r drafodaeth hon yn digwydd ar adeg pan fo darlledwyr yng Nghymru’n addasu i amgylchedd cyfryngau sy’n newid yn barhaus.

Fuddsoddiad unigol mwyaf

Yn ddiweddar cyhoeddodd BBC Cymru gynlluniau eang i wella’i wasanaethau ledled Cymru, gan ddisgrifio hynny fel ei “fuddsoddiad unigol mwyaf o ran cynnwys ers dros 20 mlynedd”.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu 40 o swyddi newydd yn BBC Cymru, gan gynnwys 25 o swyddi ychwanegol i newyddiadurwyr, a gohebwyr newydd arbenigol a fydd yn arwain hanesion manwl yn y newyddion.  Bydd y newidiadau hefyd yn cynnwys lansio gorsaf radio newydd Gymraeg, Radio Cymru 2, gyda gwasanaeth bore newydd ar DAB a digidol, a mwy o oriau darlledu FM ar gyfer Radio Wales.

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth cynhyrchu cynnwys ar gyfer BBC Cymru: “Yr her i'r darlledwyr yw ymateb i'r chwyldro yn arferion gwylio ein cynulleidfaoedd a’r galw am raglenni a gwasanaethau ar amrywiol lwyfannau...”

“Mae’r buddsoddiad newydd yn BBC Cymru, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn golygu mai dyna y byddwn ni’n ei wneud, ac rwy’n edrych ymlaen at drafod ein cynlluniau uchelgeisiol at y dyfodol.”

Sian Gwynedd Pennaeth cynhyrchu cynnwys ar gyfer BBC Cymru

Dilys a pherthnasol

Yn yr un modd mae S4C yn addasu i anghenion bythol newidiol cynulleidfaoedd modern er mwyn sicrhau portread “dilys a pherthnasol” o Gymru yn y cynnwys i’r dyfodol.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees: “Mewn adborth rheolaidd gan wylwyr, yn ystod cyfarfodydd cyhoeddus ac arolygon, dywedir wrthym ni’n gyson fod gan S4C gryfderau dros ben sianeli eraill o ran adlewyrchu Cymru a’r Cymry. Mae hyn yn rhywbeth rydym ni’n ymfalchïo’n fawr ynddo, ac mae ym mlaen ein meddyliau wrth gomisiynu a ffurfio ein gwasanaeth.”

Dywedodd Rees fod S4C yn ymdrechu i sicrhau bod ei holl benderfyniadau comisiynu’n cael eu llywio gan y cwestiynau “Pam nawr? Pam Cymru?”

“Mae bod yn ddrych i fywyd y Gymru fodern yn un o egwyddorion sylfaenol ein strategaeth greadigol newydd, ac rydym ni’n credu’n angerddol mewn gwthio’r ffiniau i sicrhau bod ein holl gynnwys i’r dyfodol yn teimlo’n bwysig, yn ddilys ac yn berthnasol.”

Amanda Rees Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C

“Ond, fel y gwyddoch, rhan yn unig o dirlun y cyfryngau yng Nghymru yw rôl S4C, ac rwy’n edrych ymlaen at drafodaeth gadarnhaol i weld beth arall gallwn nl ei wneud ar y cyd i roi mwy o lais i Gymru y tu hwnt i’n ffiniau.”

Y dyfydol

Dywedodd Angharad Mair ei bod yn “siom” gorfod trafod eto a oedd Cymru’n cael ei phortreadu’n deg ar y teledu.

“Mae hyn yn oed yn dristach bod y sefyllfa fel petai’n gwaethygu,” meddai.

“Yn y Gymraeg, ar S4C, nid y portread ei hun sy’n gymaint o broblem ond y diffyg cyllid sy’n peryglu dyfodol y sianel, tra’n bod ni’n diflannu i’r fath raddau ar yr ochr Saesneg nes bod bron yn anweledig.”

Angharad Mair Cyfarwyddwr Gweithredol Tinopolis Cymru a chadeirydd BAFTA Cymru

“Diolch i Brifysgol Caerdydd am sicrhau trafodaeth ar fater difrifol sy’n tanseilio democratiaeth yng Nghymru.”

Thema Prifysgol Caerdydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2017 yw Cysylltu Caerdydd - sut mae Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, ei staff a’i chyn-fyfyrwyr wedi eu cysylltu â Chymru a’r tu hwnt.

Gweler rhaglen lawn Prifysgol Caerdydd yma.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.