Ewch i’r prif gynnwys

Helpu babanod i deimlo’n hapusach

1 Awst 2017

Mother and father with baby girl

Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ceisio tyrchu’n ddyfnach i awgrymiadau bod babanod yn deall nid yn unig geiriau, ond hefyd goslef llais.

Dan arweiniad Dr Netta Weinstein o’r Ysgol Seicoleg, bydd yr astudiaeth yn edrych ar y gwahanol fathau o negeseuon cadarnhaol y mae babanod rhwng 10-12 mis oed yn eu deall

Bydd babanod yn gweld cyfres o luniau ar sgrîn ac yn clywed brawddegau byr i weld sut gall goslef llais eu hysgogi.

Dywedodd Dr Weinstein: “Mewn llawer o sefyllfaoedd, mae babanod yn deall ystyr yr hyn a ddywedwyd wrthynt cyn eu bod yn deall y geiriau. Mae ymchwil wedi dangos bod babanod yn gallu gwahaniaethu rhwng negeseuon cadarnhaol a negyddol megis rhybuddion a geiriau sy’n eu cysuro erbyn eu bod nhw’n 5 mis oed.

“Yn ein hastudiaeth, mae gennym ddiddordeb arbennig yn y modd y gall lleisiau helpu babanod i deimlo'n hapusach ac yn fwy hyderus. Mewn geiriau eraill, mae gennym ddiddordeb yn y modd y mae lleisiau’n ysgogi babanod...”

“Gwyddom fod negeseuon cymhellol erbyn y pryd y mae’r plentyn yn dechrau ysgol yn bwysig i ba mor dda y gwnânt yn yr ysgol. Ond ychydig iawn rydyn ni’n ei wybod ynghylch p’un a yw babanod yn poeni ynghylch y negeseuon cymhellol y mae lleisiau yn eu mynegi, neu a ydyn nhw’n cael eu haffeithio ganddynt.”

Dr Netta Weinstein

Mae ymchwilwyr yn chwilio am deuluoedd sydd â babanod 10 i 12 mis oed sy'n barod i gymryd rhan yn yr astudiaeth fer fydd yn para chwarter awr.

Cynhelir yr astudiaeth yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol newydd Prifysgol Caerdydd, a bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael £7 am eu hamser. Bydd babanod yn cael tegan i’w diolch am eu help.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan anfonwch ebost at Tiny to Tots am fanylion pellach.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, a arweinir gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.