Ewch i’r prif gynnwys

Diffyg cefnogaeth gan gymheiriaid i famau sy’n bwydo ar y fron

7 Gorffennaf 2017

Mother breastfeeding child

Astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd yn dangos nad oes cefnogaeth ar gael gan gymheiriaid i famau sy’n bwydo ar y fron mewn llawer o ardaloedd y DU.

Cafodd yr ymchwilwyr afael ar ddata gan bron pob sefydliad GIG yn y DU sy'n rhoi gwasanaethau mamolaeth, a daeth i’r amlwg mai dim ond mewn 56% o ardaloedd Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth y GIG y mae cefnogaeth gan gymheiriaid ar gael. Gwelwyd hefyd amrywiaeth rhwng ardaloedd o ran beth sy’n cael ei ddarparu.

Meddai Dr Aimee Grant, o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd: “Yn groes i'r canllawiau cenedlaethol, sy'n nodi y dylai cefnogaeth gan gymheiriaid fod ar gael yn y DU i helpu mamau i ddechrau bwydo ar y fron a dal ati i wneud hynny, daeth i’r amlwg i ni fod y gefnogaeth ledled y wlad ac o fewn rhanbarthau yn amrywio...”

“Ar ben hynny, roedd tua un o bob tri gweithiwr iechyd proffesiynol a holwyd gennym o’r farn nad oedd y gwasanaethau cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer bwydo ar y fron wedi’u hintegreiddio’n dda â gwasanaethau eraill y GIG sy’n cefnogi mamau newydd.”

Dr Aimee Grant Research Fellow

Dangosodd yr astudiaeth hefyd bod:

  • amrywiaeth yn y cynnwys a bod diffyg arian mewn sefydliadau yn aml yn dylanwadu ar ddull darparu gwasanaethau cefnogaeth gan gymheiriaid
  • hyd yn oed Roedd llawer o wasanaethau yn anelu at ddiwallu anghenion y mamau o gefndiroedd cymdeithasol tlotach, oedd nad ydynt yn denu iddynt fel defnyddwyr gwasanaeth
  • nid oedd y grwpiau cefnogi bwydo ar y fron na’r gwasanaethau cefnogaeth gan gymheiriaid yn cadw cofnod rheolaidd o faint o ddefnydd oedd yn cael ei wneud o’r gwasanaeth

Meddai’r Athro Shantini Paranjothy o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n arwain rhaglen waith ehangach yn y maes hwn: “Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell mai dim ond ar y fron y dylai babanod gael eu bwydo yn ystod chwe mis cyntaf eu bywydau. Fodd bynnag, dim ond 1% o fenywod yn y DU sy’n gwneud hyn ac mae dros dri chwarter y menywod yn rhoi’r gorau i fwydo ar y fron cyn y byddent wedi hoffi gwneud hynny...”

“Rydym wedi gweld bod cefnogaeth gan gymheiriaid yn helpu menywod i fwydo ar y fron am gyfnod hwy mewn rhai gwledydd.”

Yr Athro Shantini Paranjothy Clinical Senior Lecturer

“Dangosodd ein harolwg fod amrywiaeth eang o ran yr hyn sydd ar gael i fenywod yn y DU. Mae angen rhagor o ymchwil i ddod o hyd i'r ffyrdd mwyaf effeithiol o roi cefnogaeth gan gymheiriaid i helpu mamau sydd am fwydo ar y fron yn y DU.”

Mae’r ymchwil newydd 'Availability of breastfeeding peer-support in the UK: a cross-sectional survey' wedi’i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Maternal and Child Nutrition.

Ariannwyd yr astudiaeth hon gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR) (rhif neu gyfeirnod y prosiect 13/08/05).

Rhannu’r stori hon

Mae ein portffolio o waith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau carfan a hysbysu polisi ac ymarfer.