Ewch i’r prif gynnwys

Diodlen coctels wedi'i hysbrydoli gan y Mabinogi

20 Gorffennaf 2017

Mae ysgolhaig sy'n adnabyddus am ei gwaith ar y Mabinogi, yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi defnyddio ei harbenigedd i ddatblygu diodlen coctels sydd wedi'i hysbrydoli gan y chwedlau canoloesol ar gyfer bar lleol.

Bar ffasiynol sydd wedi'i ysbrydoli gan gyfnod y Gwahardd yn y 1920au yw The Dead Canary. Fe’i lleolir ar Lôn y Barics yng nghanol y brifddinas ac mae’n gwerthu amrywiaeth o goctels unigryw a baratoir yn y fan a'r lle. Wrth sôn am sut aeth y tîm ati i baratoi'r ddiodlen newydd, esboniodd Rheolwr y bar, Todd Crawford, eu bod "am archwilio treftadaeth gyfoethog Cymru gan ddefnyddio chwedlau hynafol mewn o lên gwerin, a hynny drwy ddefnyddio cynhwysion naturiol, llysieuol oedd yn boblogaidd yn y gorffennol".

Aeth ymlaen: "Roedden ni'n canolbwyntio ar y Mabinogi, ac yn defnyddio cyfieithiad Sioned o'r llyfr yn bennaf. Ar ôl creu'r rhan fwyaf o'r ddiodlen, penderfynon ni gysylltu â hi i weld a fyddai hi'n fodlon darllen drosti. Fe wnaeth Sioned lawer mwy na hynny – aeth hi'r ail filltir i wneud yn siŵr bod yr holl gyfieithiadau'n gywir, gan gynnig manylion ychwanegol ac enwau na ddaeth i'n meddwl."

Cafodd y ddiodlen ei lansio'n swyddogol ddydd Iau 22 Mehefin 2017. Roedd yr Athro Davies a staff o Ysgol y Gymraeg yn bresennol, ac yn mwynhau blasu'r gwahanol ddiodydd a enwyd ar ôl cymeriadau, themâu a gwrthrychau yn y Mabinogi.

Roedd yr Athro Davies yn synnu ac yn chwilfrydig pan ofynnwyd iddi gymryd rhan. Meddai: "Pan gysylltodd Todd am y tro cyntaf, rwy'n cofio meddwl pa mor wych a chyffrous oedd y syniad. Roeddwn i'n hapus i gynnig cyngor ychwanegol ynglŷn â byd y Mabinogi, a'u helpu i gyfieithu. Nid helpu i ysbrydoli diodlen coctels yw'r peth cyntaf sy'n dod i'r meddwl wrth ystyried 'effaith ymchwil', ond mae'n gyfle gwych i gynulleidfa eang, gyhoeddus gael gwybod mwy am y chwedlau.

"Pan aethon ni i'r lansiad, roedd gweld copïau o fy nghyfieithiad o'r Mabinogi i'r Saesneg ar gael ac yn cael eu defnyddio i ddal y ddiodlen yn llawer o hwyl. Llongyfarchiadau i Todd a'r tîm yn The Dead Canary am feddwl yn greadigol ac am eu hawydd i gynrychioli treftadaeth a diwylliant llenyddol Cymru fel hyn."

Ychwanegodd Todd: "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Sioned am roi o'i hamser i'n helpu, ac mae'r ymateb gan ein cwsmeriaid i'r ddiodlen newydd wedi bod yn wych hyd yma!"

Cyfieithiad yr Athro Davies o'r Mabinogi i'r Saesneg oedd y cyfieithiad cyntaf o'i fath ers 30 blynedd, ac mae'n cael ei ystyried yn adnodd hynod werthfawr mewn cylchoedd academaidd, llenyddol a diwylliannol erbyn hyn. Mae'n ail-greu byd chwedlonol Cymru yn y canol oesoedd, ac yn dod â bywyd newydd i'r chwedlau. Mae'r llyfr wedi gwerthu'n dda iawn ledled y byd, gan gyflwyno testunau canoloesol Cymru i gynulleidfa newydd, ryngwladol o ddarllenwyr brwdfrydig.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.