Ewch i’r prif gynnwys

Gorsedd Beirdd Môn yn urddo academydd o’r Ysgol

10 Mai 2017

Mae’r bardd, darlithydd a Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Ysgol y Gymraeg, Dr Llion Pryderi Roberts wedi ei urddo yn aelod er anrhydedd o Orsedd Beirdd Môn mewn seremoni yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, yn ddiweddar.

Enillodd Dr Roberts, sydd yn wreiddiol o Frynsiencyn, Gadair Eisteddfod Môn yn 2016 am yr ail dro, ar ôl ei chipio yn Aberffraw yn 2003. Fe’i urddwyd eleni i’r Orsedd gan Dderwydd Gweinyddol newydd Môn, John Richard Williams, ynghyd â dau arall – y cerddor, Elen Wyn Keen, a’r awdur Gareth Evans Jones.

Meddai Dr Roberts am y seremoni urddo: “Mae hi'n fraint arbennig imi gael ymuno â Gorsedd Beirdd Môn, ac rwy’n ddiolchgar i gymuned Môn a’m teulu am eu cefnogaeth a’u dymuniadau da.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Ynys Môn ym mis Awst ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Heb os, bydd yn ŵyl i’w chofio, a dymunaf bob hwyl i’r trefnwyr a’r cystadleuwyr gyda’u paratoadau.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.