Ewch i’r prif gynnwys

Rhoi terfyn ar ddiwylliant o berthnasoedd camdriniol

24 Chwefror 2015

Myfyrwyr yn dal y cardiau San Ffolant a gyflwynwyd i aelodau'r cynulliad.

Bu academydd clodfawr o Brifysgol Caerdydd, sy'n arbenigwr rhyngwladol ar brofiadau plant a phobl ifanc o drais rhyngbersonol ar sail rhywedd a thrais rhywiol, yn ymweld â'r Senedd gyda 40 o bobl ifanc i gyflwyno cardiau Sant Ffolant i Aelodau'r Cynulliad.

Mae'r Athro Emma Renold o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol wedi bod yn gweithio gyda Citizens Cymru i arwain ymgyrch 'Rhoi Pwyslais ar Berthnasoedd Iach' fel rhan o brosiect ehangach sy'n canolbwyntio ar ymgysylltiad cymunedol a newid polisi. Mae hyn yn un agwedd yn unig ar gorff ehangach o waith ymchwil gan yr Athro Renold i hysbysu ac ail-lunio Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru.

Mae hi wedi cyflwyno tystiolaeth aruthrol i ddadlau bod angen i'r llywodraeth wneud ymagwedd ysgol gyfan tuag at addysg perthnasoedd iach yn orfodol a bod angen i unrhyw ymyrraeth lwyddiannus adlewyrchu a chefnogi realiti profiadau plant a phobl ifanc eu hunain o aflonyddu a thrais ar sail rhywedd ac aflonyddu a thrais rhywiol, yn yr ysgol, ar-lein ac yn eu cymunedau.

Yn ystod y gweithgarwch diweddaraf hwn, cyflwynodd yr Athro Renold a myfyrwyr ysgol rodd o gerdyn Sant Ffolant unigol i Aelodau'r Cynulliad, ac roedd un ohonynt yn cynnwys neges arbennig ar gyfer Leighton Andrews, sy'n arwain ar y bil a nodir uchod.

"Roedd pob cerdyn yn cynnwys sylw mewn llawysgrifen gan fyfyriwr a gasglwyd fel rhan o weithgarwch gwrando fel rhan o'r ymgyrch ar faterion perthnasoedd ac roedd y cardiau'n cynnwys y neges: 'Efallai bod y cerdyn Sant Ffolant hwn y tu hwnt i'w ddyddiad gwerthu, ond nid yw'n rhy hwyr i wneud addysg perthnasoedd iach yn orfodol i bob plentyn yng Nghymru, ' gan ailadrodd yr angen am newid i'r bil. Hefyd llofnodwyd y cardiau â chusan i gysylltu ag ymgyrch 'Red My Lips' – sef ymgyrch fyd-eang i godi ymwybyddiaeth ynghylch ymosodiadau rhywiol," esboniodd yr Athro Renold.

Mae gweithgarwch ychwanegol yn cynnwys sôn am rywiaeth feunyddiol ac aflonyddu rhywiol mewn gwasanaethau ysgol a llythyr agored a ysgrifennwyd gyda'r bobl ifanc. Mae'r llythyr yn rhoi enghreifftiau o'u hymgyrch wrando lle gwahoddir nifer o bobl ifanc i gwblhau'r frawddeg "Mae angen addysg perthnasoedd iach arnaf oherwydd..." gan dynnu sylw at y rhesymau pam eu bod yn teimlo bod newid y bil yn bwysig.

Mae'r Athro Renold a'r grwpiau y mae hi wedi gweithio â nhw yn gobeithio y bydd y gweithgareddau diweddar, yn ogystal â chanfyddiadau ymchwil o ddau brosiect blaenorol a fu'n dogfennu profiadau plant a phobl ifanc eu hunain o aflonyddu rhywiol ar-lein ac all-lein, yn annog Aelodau'r Cynulliad i bleidleisio o blaid y diwygiadau addysg  a fydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y bil ar ddydd Mawrth 24 Chwefror.

Aeth ymlaen i ddweud, "Mae'r myfyrwyr rwyf wedi gweithio â nhw wedi bod yn arbennig o lafar yn eu cefnogaeth o 'ddisgyblion hyrwyddo' i godi ymwybyddiaeth o drais rhywiol mewn diwylliannau cyfoedion, yn ogystal â hyfforddiant gorfodol i athrawon ar y materion hyn. Mae eu dulliau arloesol a chreadigol o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd addysg perthnasoedd iach gorfodol wedi bod yn ysbrydoledig. Maent yn dangos sut mae disgyblion hyrwyddo ar y materion hyn yn gallu gweithio'n llwyddiannus.

"Heb newid deddfwriaethol, bydd profiadau'r plant o orfodaeth, rheolaeth ac aflonyddu yn eu diwylliannau perthnasoedd cyn-arddegau ac arddegau yn parhau i fod yn gudd ac mae'n anochel y bydd hyn yn parhau. Mae angen ymagwedd ysgol gyfan orfodol wedi'i hysbysu gan gydraddoldeb rhywiol a fframwaith hawliau dynol lle mae pobl ifanc yn cymryd rhan uniongyrchol, o ddylunio i gyflawni."

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn cael y cyfle i ddeddfu ar gyfer ymagwedd ysgol gyfan tuag at addysg perthnasoedd (3-16), hyfforddiant gorfodol i athrawon ar gydraddoldeb rhywiol a thrais yn erbyn menywod a merched, a disgyblion hyrwyddo cysylltiedig, pan fydd y bil yn mynd i bleidlais ar ddydd Mawrth 3 Mawrth 2015.