Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodoriaethau er Anrhydedd 2017

14 Gorffennaf 2017

Chris Coleman

Mae rheolwr pêl droed, ymgyrchydd dros gydraddoldeb, rheolwr gyfarwyddwr cwmni peiriannau jet byd-eang blaenllaw, a sylfaenydd MoneySavingExpert.com ymhlith y rhai fydd yn cael eu hanrhydeddu gan Brifysgol Caerdydd yn ei seremonïau graddio blynyddol yr wythnos nesaf (17–21 Gorffennaf 2017).

Bydd y pêl-droediwr proffesiynol a Rheolwr Cymru, Chris Coleman, yn ymuno â’r menyw fusnes anabl a’r ymgyrchydd dros gydraddoldeb, Rosaleen Moriarty-Simmonds OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Wales, La-Chun Lindsay, a sylfaenydd/Cadeirydd MoneySavingExpert.com, Martin Lewis OBE, i gael yr anrhydedd, a roddir i unigolion sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ragorol yn eu maes.

Bydd un ar ddeg o ffigurau blaenllaw eraill o feysydd sy'n cynnwys allgymorth addysgol, ffisiotherapi, gwrthderfysgaeth a newyddiaduraeth yn cael Cymrodoriaethau er Anrhydedd. Mae'r rhain yn cynnwys Dr Martin Faulkes; Cerys Furlong; Dr Phil George; y Parchedig Roy Jenkins; Philip J. Jennings; Sir Derek Jones KCB; Dr Alan J Lewis; Gary Younge; Dr Drew Nelson OBE; Dr Bhanu Ramaswamy OBE; a Rob Wainwright.

Cafodd Chris Coleman OBE yrfa fel peldroediwr proffesiynol cyn dod yn Rheolwr Tîm Cymru ym mis Ionawr 2012. Arweiniodd Cymru i rownd gynderfynol cystadleuaeth EURO 2016 UEFA, y twrnamaint pêl-droed mawr cyntaf i'r genedl ei gyrraedd ers 1958, gan gyflawni safle uchaf Cymru erioed yn Rhestr Detholion y Byd FIFA.

Dr Martin Faulkes

Sefydlodd Dr Martin Faulkes ei Ymddiriedolaeth addysgol yn 1998, â'r nod o ysbrydoli pobl ifanc mewn gwyddoniaeth a mathemateg. Sefydlodd Brosiect Telesgop Faulkes ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n rhaglen wyddonol ryngwladol o bwys. Ef yw Cadeirydd VolitionRx Limited, sy'n datblygu profion gwaed syml i sicrhau diagnosis o amrywiaeth o ganserau.

Cerys Furlong

Cerys Furlong BSc MSc yw Prif Weithredwr Chwarae Teg, yr elusen cydraddoldeb rhywedd. Mae Cerys yn ymgyrchydd brwd dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ac mae wedi galw am well cynrychiolaeth i fenywod mewn bywyd cyhoeddus, mewn busnes ac ar draws pob rhan o gymdeithas Cymru.

Dr Phil George

Dr Phil George yw Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Creadigol ac yn gyd-sylfaenydd Green Bay Media, ac yn Bennaeth Celfyddydau, Cerddoriaeth a Nodwedd BBC Cymru. Phil oedd Cadeirydd Sefydlu National Theatr Wales, a gwasanaethodd ar Adolygiad Dowling Llywodraeth y DU.

The Rev Roy Jenkins

Mae'r Parchedig Roy Jenkins yn newyddiadurwr ac yn weinidog gyda’r Bedyddwyr, ac wedi bod yn darlledu ar y BBC ers dros ddeugain mlynedd. Mae'n cyflwyno rhaglen All Things Considered ar BBC Radio Wales, ac mae wedi ymgyrchu yn erbyn arteithio ac enghreifftiau eraill o gam-drin hawliau dynol ers ei ddyddiau'n fyfyriwr yng Nghaerdydd.

Philip Jennings

Philip J. Jennings yw Ysgrifennydd Cyffredinol UNI Global Union.  Ag yntau'n arloeswr uniad byd-eang, mae ei waith wedi arwain at drawsnewid gwaith ar uniad byd-eang, o gyfiawnder cadwyn gyflenwi, yn benodol Cytundeb Bangladesh ar Dân a Diogelwch Adeiladau, i gytundebau byd-eang gyda chwmnïau amlwladol, i gyd-gefnogaeth uniadol.

Sir Derek Jones KCB

Roedd Syr Derek Jones KCB yn ffigur canolog yng ngweithrediad llywodraeth ddatganoledig Cymru. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru, ac mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ac aelod o Fwrdd a Phwyllgor Uwch Arweinwyr Gwasanaeth Sifil y DU.

Dr Alan J Lewis

Bu Dr Alan J Lewis, BSc, PhD yn ymwneud â datblygiad Venlafaxine, cyffur gwrth iselder sy'n gweithredu'n gyflym, a Rapamycin, atalydd imiwnedd newydd. Ar hyn o bryd ef yw Prif Swyddog DiaVacs, sy'n canolbwyntio ar geisio gwella Diabetes Math 1.

Martin Lewis OBE

Martin Lewis OBE, yw Sylfaenydd a Chadeirydd MoneySavingExpert.com a'r Sefydliad Arian a Pholisi Iechyd Meddwl. Mae wedi arwain ymgyrchoedd cyfiawnder ariannol mawr gan gynnwys adennill ffioedd banc a PPI ac ymgyrch lwyddiannus i osod addysg ariannol ar y cwricwlwm cenedlaethol.

La-Chun Lindsay

La-Chun Lindsay yw Rheolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Cymru. Yn flaenorol hi oedd yn arwain y ffatri cydosod, profi ac ailwampio ar safle GE Aviation yn Lynn yn Massachusetts. Cyn ymuno a GE Aviation, roedd yn Is-lywydd Grŵp Gwasanaethau Maes yn GE Capital a bu mewn amrywiol swyddi byd-eang o fewn Staff Archwilio Corfforaethol GE. Graddiodd o Brifysgol Clemson gyda gradd Baglor yn y Gwyddorau mewn Peirianneg Cerameg.

Rosie Moriarty-Simmonds

Mae Rosaleen (Rosie) Moriarty-Simmonds OBE BSc. (Anrh) yn wraig fusnes anabl ac yn ymgyrchydd cydraddoldeb. Mae Rosie'n areithwraig uniongyrchol ac angerddol, ac wedi gweithio ar y lefel uchaf yn y sector cyhoeddus a phreifat i sicrhau newidiadau sylweddol mewn agweddau at anabledd.

Drew Nelson - Square

Dr Drew Nelson, OBE, DSc, FREng, FLSW yw Prif Swyddog Gweithredol IQE Plc, prif gyflenwr uwch-wafferi lled-ddargludyddion y byd. Mae wedi chwarae rhan weithredol mewn grwpiau sy'n cynghori'r llywodraeth a byd diwydiant, ac yn 2001 cafodd OBE am ei wasanaethau i'r Diwydiant Electroneg.

Bhanu Ramaswamy

Mae Dr Bhanu Ramaswamy OBE yn Ymgynghorydd Ffisiotherapi Annibynnol sy'n arbenigo mewn adsefydlu a niwroleg pobl hŷn. Hi oedd un o'r ffisiotherapyddion cyntaf i sicrhau cymhwyster rhagnodi anfeddygol a derbyniodd Gymrodoriaeth Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi.

Rob Wainwright

Rob Wainwright yw Cyfarwyddwr Europol. Ar ôl goruchwylio trawsnewidiad Europol o gorff rhynglywodraethol i statws asiantaeth yr UE yn 2010, sicrhaodd Rob sefydlu Canolfan Troseddau Seiber Ewrop, Canolfan Gwrthderfysgaeth Ewrop a Chanolfan Smyglo Mudwyr Ewrop yn Europol.

Gary Younge

Mae Gary Younge yn olygydd cyfrannol i The Guardian. Mae wedi ennill gwobrau am ei newyddiadura, mae'n awdur ac yn ddarlledwr, a bu'n gohebu o America am 12 mlynedd cyn dychwelyd i Brydain yn 2015. Mae'n ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol a gwrth-hiliaeth ac wedi gohebu o Ewrop, Affrica, UDA a'r Caribî. Mae'n ysgrifennu colofn fisol i gylchgrawn Nation yn Efrog Newydd.

Bydd dros 6,000 o fyfyrwyr yn graddio yn y seremonïau eleni. Yn sgîl hynny, byddant yn ymuno â'r 145,000 o gynfyfyrwyr mewn dros 180 o wledydd, a chael manteisio ar lu o fuddiannau a gynigir i gynfyfyrwyr.

Bydd tua 30,000 o bobl yn cael eu croesawu i Gaerdydd ar gyfer y dathliadau, ac yn cefnogi llwyddiannau rhagorol a chyflawniadau pwysig graddedigion drwy gydol eu hastudiaethau.

Mae seremonïau'r Cymrodorion Anrhydeddus wedi eu rhestru isod:

  • Chris Coleman: Dydd Mercher 19 Gorffennaf, 10:00
  • Dr Martin Faulkes:  Dydd Gwener 21 Gorffennaf, 13:15
  • Cerys Furlong: Dydd Iau 20 Gorffennaf, 14:45
  • Dr Phil George: Dydd Mawrth 18 Gorffennaf, 12:00
  • Y Parchedig Roy Jenkins: Dydd Mawrth 18 Gorffennaf, 17:30
  • Philip J. Jennings: Dydd Iau 20 Gorffennaf, 9:15
  • Syr Derek Jones: Dydd Mawrth 17 Gorffennaf, 13:15
  • Dr Alan J Lewis: Dydd Mawrth 18 Gorffennaf, 14:45
  • Martin Lewis OBE: Dydd Llun 17 Gorffennaf, 16:30
  • La-Chun Lindsay: Dydd Llun 17 Gorffennaf, 10:00
  • Rosaleen (Rosie) Moriarty-Simmonds: Dydd Gwener 21 Gorffennaf: 10:00
  • Dr Drew Nelson: Dydd Llun 17 Gorffennaf, 10:00
  • Dr Bhanu Ramaswamy: Dydd Gwener 21 Gorffennaf, 16:30
  • Rob Wainwright: Dydd Llun 17 Gorffennaf, 16:30
  • Gary Younge: Dydd Mercher 19 Gorffennaf, 13:15

Rhannu’r stori hon

Rydym yn dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd i'r rhai sydd wedi cyflawni rhagoriaeth ryngwladol yn eu maes.