Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod graddio i interniaid y Brifysgol

29 Mehefin 2017

Project SEARCH interns at graduation

Mae un ar ddeg o fyfyrwyr o Goleg Caerdydd a'r Fro wedi graddio ar ôl bod ar interniaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynhelir y digwyddiad i ddathlu gorffen Prosiect SEARCH cyntaf Cymru - rhaglen ryngwladol o bwys sy'n cynnig swyddi a chyfleoedd i ddysgu i bobl ifanc ag anableddau a/neu awtistiaeth.

Mae’r myfyrwyr wedi gorffen tri interniaeth 10 wythnos o hyd ar draws y Brifysgol gyda chymorth Coleg Caerdydd a’r Fro a staff Asiantaeth Gyflogaeth ELITE.

Drwy gymryd rhan yn y cynllun, mae pedwar o’r interniaid wedi llwyddo i gael gafael ar swyddi gan roi’r cyfle iddynt roi’r sgiliau a’r profiad gwaith y maent wedi’u hennill ar waith.

Prosiect SEARCH cyntaf Cymru

Meddai Andrew Horley, un o’r myfyrwyr sydd wedi cael swydd yn yr archfarchnad sydd ar gampws Coleg Caerdydd a’r Fro yng nghanol y ddinas,: “Roeddwn i'n hoffi gweithio yn y Brifysgol – roeddwn i'n gweithio yn y siopau coffi a mwynheais weithio gyda'r cyhoedd.

Project Search Intern working in shop

“Fe wnaeth y prosiect fy helpu i gael swydd yn Simply Fresh.”

Dywedodd Rhag Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford: “Rwyf wrth fy modd bod wedi ein interniaid nawr wedi graddio...”

“Mae wedi bod yn bleser clywed am eu cynnydd ac rwy’n hyderus ein bod wedi eu helpu i ehangu eu sgiliau a’u gwybodaeth wrth symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau. Pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol.”

Yr Athro Karen Holford Professor

“Mae Prosiect SEARCH yn cynnig profiad gwerth chweil i Brifysgol Caerdydd, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gymryd rhan ynddo.”

Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith

Meddai Tom Snelgrove, Pennaeth Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith yn Ngholeg Caerdydd a'r Fro: “Mae'n hyfryd gweld y myfyrwyr yn llwyddo, ac rwyf mor falch o’u gweld yn graddio, a sawl un ohonynt yn dod o hyd i swydd...”

“Fel gyda phob un o'n dysgwyr, eu helpu i ddatblygu yw’r nod yn y pen draw ac mae’r prosiect yn enghraifft wych o hynny. Dim ond drwy fod mewn gweithle go iawn ac mewn sefydliadau blaenllaw fel Prifysgol Caerdydd y gellir rhoi’r profiad a’r wybodaeth a gynigir.”

Tom Snelgrove Pennaeth Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith yn Ngholeg Caerdydd a'r Fro
Shane Halton receives Intern's Intern Award

Mae disgwyl i’r Brifysgol barhau i gynnal interniaethau Prosiect SEARCH ym mis Medi 2017. Dyma’r cyngor oedd gan Shane Halton, enillydd Gwobr Intern yr Interniaid, i’r rhai fydd yn cymryd rhan yn y dyfodol: “Ceisiwch elwa’n llawn ar y cwrs.

“Erbyn hyn, mae gen i swydd ran-amser yn yr Ysgol Cemeg yn helpu’r Swyddog Iechyd a Diogelwch. Byddwch yn bositif a, gyda lwc, fe gewch chithau swydd ar y diwedd hefyd.”

Mae cynllun Prosiect SEARCH, a ddechreuwyd yng Nghanolfan Feddygaeth Ysbyty Plant Cincinnati gan Erin Riehle y cyfarwyddwr, wedi’i ariannu yng Nghymru gan brosiect Ymgysylltu Er Mwyn Newid ehangach. Mae’n gweithio gyda chyflogwyr i helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i ddatblygu sgiliau cyflogaeth drwy leoliadau gwaith ac i gael cefnogaeth i gael gwaith cyflogedig.

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni'n ymroddedig yn ein nod i hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y Brifysgol. Mae'r gymuned oll yn elwa o gael poblogaeth amrywiol a thalentog o fyfyrwyr.