Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwraig Prifysgol Caerdydd yn casglu gwobr ar ran Malala

7 Gorffennaf 2017

Student accepting award

Mae myfyrwraig PhD o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn gwobr ar ran Enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Malala Yousafzai, mewn cyfarfod rhyngwladol mawreddog o brifysgolion o wledydd y G7.

Roedd Sophie Nuber, sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer PhD yng ngwyddorau’r hinsawdd yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd, wrth law yng Nghynhadledd Eidalaidd Rheithoriaid Prifysgol (CRUI) i dderbyn Gwobr Gwybodaeth CRUI.

Rhoddwyd y wobr i Malala “am ei gwaith yn hyrwyddo hawliau merched i fynychu'r ysgol. Dyma enghraifft o ddewrder, penderfynoldeb ac ymwybyddiaeth bod yr hawl i gydraddoldeb a chreu dyfodol gwell a chynaliadwy yn seiliedig ar wybodaeth yn unig.”

Ymchwil wyddonol gadarn

Fel cynrychiolydd menywod ifanc mewn addysg uwch a’r gwyddorau, gofynnwyd i Sophie gasglu’r wobr ar ran Malala.

Aeth Sophie i’r digwyddiad ym Mhrifysgol Udine yn yr Eidal gydag Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin Riordan, ac aeth ati i draddodi neges ynghylch y newid yn y ddadl wleidyddol am newid hinsawdd, a’i seilio ar ymchwil wyddonol gadarn di-wad.

Ar ôl iddi gasglu’r wobr, dywedodd Sophie: “I mi, mae Malala yn ymgorffori popeth y dylem ni fenywod ifainc ymdrechu tuag ato: meddwl yn feirniadol, sefyll dros yr hyn rydych yn credu ynddo, hyd yn oed dan bwysau, dewrder, a brwydro dros gydraddoldeb yn lleol ac yn fyd-eang...”

“Mae’n anrhydedd mawr i mi, yn enwedig fel myfyriwr o Brydain, gael fy newis i dderbyn y wobr hon ar ei rhan.”

Daeth dros 150 o reithoriaid, athrawon a myfyrwyr i'r digwyddiad o 13 prifysgol o wledydd y G7, gan ymuno â 77 o brifysgolion Eidalaidd, 6 chorff ymchwil, 31 sefydliad a 30 o arbenigwyr. Nod y digwyddiad oedd llunio maniffesto wedi ei gyfeirio at holl brifysgolion a gweinyddiaethau’r byd i ddweud beth y mae’n rhaid i brifysgolion ei wneud i greu dyfodol cynaliadwy.

Enillydd Gwobr Nobel ieuengaf erioed

Bydd Sophie yn cyflwyno’r wobr i Sefydliad Malala mewn seremoni arbennig yn Llundain yn hwyrach eleni.

Mae Malala Yousafzai yn ymgyrchydd Pacistanaidd dros addysg i ferched ac yr Enillydd Gwobr Nobel ieuengaf erioed. Mae hi'n adnabyddus am hyrwyddo hawliau dynol, yn enwedig addysg i ferched ym Mhacistan, lle roedd y Taliban lleol ar brydiau wedi gwahardd merched rhag mynychu'r ysgol. Yn 2012, ceisiodd y Taliban lofruddio Malala, gan sbarduno llifeiriant o gefnogaeth genedlaethol a rhyngwladol iddi.

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Yn yr un ysbryd â Malala ei hun, mae Sophie yn fenyw ifanc ysbrydoledig gyda neges hynod bwysig - ni ddylid amddifadu neb o’r cyfle i gael addysg.

“Roedd yn braf iawn felly gweld Sophie’n derbyn y wobr ar ran Malala ger bron grŵp o arweinwyr prifysgolion ar y llwyfan ryngwladol.”

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni'n ymroddedig yn ein nod i hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y Brifysgol. Mae'r gymuned oll yn elwa o gael poblogaeth amrywiol a thalentog o fyfyrwyr.