Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr daeareg nodedig i academydd o Brifysgol Caerdydd

9 Mehefin 2017

Professor Carrie Lear receiving award

Mae'r Gymdeithas Ddaearegol wedi rhoi'r Fedal Bigsby nodedig i'r Athro Carrie Lear eleni, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd.

Mae'r wobr, a gafodd ei sefydlu gan John Jeremiah Bigsby (1972 – 1881) yn 1887, yn cydnabod gwasanaethau amlwg yr Athro Lear i faes daeareg.

Mae ymchwil yr Athro Lear yn defnyddio geocemeg ffosilau carbonad i ddangos newid hinsawdd yn y gorffennol. Mae llawer o'i hymchwil wedi'i seilio ar ffosilau a gymerwyd o waddodion dyfnforol yn ystod rhaglenni i ddrilio yn y môr, gyda'r nod o ddarganfod sut mae haenau iâ'r Ddaear wedi ymateb i lefelau newidiol o CO2 yn yr atmosffer.

Menywod Caerdydd ym Maes Gwyddoniaeth

Mae'r Athro Lear yn aelod gweithgar o grŵp Menywod Caerdydd ym Maes Gwyddoniaeth – rhwydwaith i gefnogi gwyddonwyr benywaidd ac i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym mhob disgyblaeth STEM ac yn y byd academaidd yn fwy cyffredinol.

Wrth gasglu'r wobr, dywedodd yr Athro Lear: “Braint enfawr yw cael y fedal hon gan y Gymdeithas Ddaearegol, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli'r cenedlaethau iau i ystyried gyrfa yn y maes hwn...”

“Mae daeareg yn bwnc hynod ddiddorol sy'n eich galluogi i deithio i bedwar ban y byd a darganfod mwy am yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo.”

Yr Athro Carrie Lear Reader in Earth Sciences

Casglodd yr Athro Lear ei gwobr yn seremoni wobrwyo flynyddol y Gymdeithas Ddaearegol ar 7 Mehefin 2017.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.