Y rhaglen Astudiaethau Cyfieithu yn sgorio’n uchel iawn yn arolwg ôl-raddedig 2017
23 Mehefin 2017
Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern wedi llwyddo i sgorio 92% o ran lefelau bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr yn Arolwg o Brofiadau Ôl-raddedigion a Addysgir (PTES) 2017.
Mae sgoriau’r arolwg eleni yn ymwneud ag MA yr Ysgol mewn Astudiaethau Cyfieithu sy'n cynnig hyfforddiant craidd mewn theori ac ymarfer cyfieithu ac yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr weithio â staff academaidd, cyfieithwyr proffesiynol, dehonglwyr a chyflogwyr.
Mae’r PTES yn arolwg ar-lein cenedlaethol sy'n gwerthuso saith maes thematig: ansawdd yr addysgu a'r dysgu, ymgysylltu, asesu ac adborth, traethawd hir, trefnu a rheoli, adnoddau dysgu, a datblygu sgiliau.
Mae Uchafbwyntiau'r Ysgol yn yr arolwg eleni yn cynnwys lefel bodlonrwydd o 100% mewn amrywiaeth o feysydd allweddol, gan gynnwys ansawdd yr oruchwyliaeth, yr addysgu, brwdfrydedd y staff a’r awyrgylch cefnogol sy'n galluogi ein myfyrwyr i ymgysylltu a holi cwestiynau.
Meddai Dr Liz Wren-Owens, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu y Brifysgol, wrth drafod y canlyniadau, "Rydym ni wrth ein bodd gyda chanlyniadau PTES eleni, yn arbennig gan ein bod wedi cael y gyfradd ymateb uchaf ar draws holl ddisgyblaethau’r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn y Brifysgol. Mae hyn wir yn dangos faint o gysylltiad sydd gan ein myfyrwyr â'u rhaglen a'u tiwtoriaid.
"Rydym ni hefyd yn falch iawn gyda'r gwelliannau rydym ni wedi’u rhoi ar waith o ganlyniad i arolwg y llynedd. Un maes a godwyd gan garfan y llynedd oedd faint o amser a neilltuwyd i oruchwylio’r traethodau hir, ac o ganlyniad, rydym ni wedi dyblu’r amser sy’n cael ei neilltuo iddo. Roedd yn braf iawn gweld na chafodd hyn ei godi fel pryder eleni, gan awgrymu bod y camau a gymerwyd wedi bod yn effeithiol.
"Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n myfyrwyr a gymerodd o’u hamser i roi gwybod i ni beth sy'n gweithio a beth y gallwn ni wella arno. Rydym ni’n gwerthfawrogi eich adborth yn fawr, a byddwn yn gweithio ar y meysydd a amlygwyd gennych chi."