Ewch i’r prif gynnwys

Pontio'r bwlch rhwng y cenedlaethau yn dilyn Brexit

22 Mai 2017

Hay Festival signage
© Sam Hardwick

Yng Ngŵyl y Gelli, bydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn ystyried sut i bontio'r bwlch rhwng y cenedlaethau yn dilyn refferendwm y DU. Mae'r ŵyl yn dathlu ei phenblwydd yn 30 eleni.

Bydd Dr Dan Evans, Dr Esther Muddiman, Dr Stuart Fox a Dr Sioned Pearce yn ystyried y rhaniadau trawiadol rhwng y cenedlaethau yng nghanlyniad refferendwm yr UE yn 2016.

Pleidleisiodd y mwyafrif o bobl rhwng 18 a 24 oed i aros, a'r mwyafrif ymhlith pobl dros 65 oed o blaid gadael, felly bydd y panel yn ystyried sut i gysylltu'r cenedlaethau mewn trafodaeth ddydd Iau 1 Mehefin am 16.00.

Mae holl aelodau'r panel yn gymdeithion ymchwil yn Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru yng Nghaerdydd.

Lord Martin Rees at Hay 2016
Lord Martin Rees at Hay Festival 2016 © Joel Keith-Hill

Bydd ymchwilwyr yn trafod eu gwaith ymchwil arloesol yn nigwyddiadau Cyfres Caerdydd Prifysgol Caerdydd eleni yng Ngŵyl y Gelli. Maent yn gwneud gwaith ymchwil i feysydd amrywiol fel firysau, labeli bwyd, cyfiawnder data mawr a theorïau mapio a rhwydweithiau.

Cynhelir Gŵyl y Gelli yn nhref y canolbarth rhwng dydd Iau, 25 Mai a dydd Sul, 4 Mehefin.

Bydd Dr Simone Cuff, o'r Ysgol Meddygaeth, yn agor digwyddiadau Cyfres Caerdydd wrth iddi drafod a yw firysau yn dda i ni. Cynhelir ei sgwrs ddydd Iau 26 Mai am 16:00.

Dywedodd Dr Cuff: “Pan mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am firysau, maent yn meddwl am firysau sy'n ein gwneud yn sâl fel ffliw neu Ebola. Fodd bynnag, dim ond un ochr o'r geiniog yw hynny.

“Mae defnyddio technegau eraill ym maes firoleg yn newid ein dealltwriaeth o waith firysau yn ein corff, gan ddangos fod ecoleg firysau llawer yn fwy cymhleth nad yr oeddem yn ei gredu...”

“Heb firysau, yn llythrennol ni fyddwn fel yr ydym.”

Dr Simone Cuff Research Associate

Ddydd Mawrth 30 Mai am 10:00, bydd Dr Rhyd Lewis o'r Ysgol Mathemateg yn edrych ar y ffyrdd gwahanol y mae rhwydweithiau a graffiau yn cymysgu â'n bywydau bob dydd.

Bydd yn ystyried cwestiynau megis: Sut mae systemau llywio â lloeren yn canfod y llwybr cyflymaf o A i B? Beth yw'r ffordd fwyaf effeithlon o ymweld â thafarndai gorau'r DU? Ai gwir yw dweud bod pob peth byw yn y byd chwe cham neu lai oddi wrth ei gilydd?

“Bydd y sgwrs yn rhoi taith ddarluniadol o'r problemau ym mywyd bob dydd y gellir eu modelu fel rhwydweithiau. Mae'r problemau'n cynnwys lliwio mapio, amserlennu cynghreiriau chwaraeon; llunio teithiau cerdded o gwmpas dinasoedd hynafol Prwsia, i'r ffordd y mae Facebook yn awgrymu ffrindiau.”

Dr Rhyd Lewis Lecturer
Hay Festival 2016 audience
Hay Festival 2016 audience © Elisabeth Broekaert

Ar y dydd Mawrth hefyd, am 17:30, bydd Dr Lina Dencik o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn ystyried byd sydd â'r gallu technolegol i newid ein gweithgareddau a'n hymddygiad yn bwyntiau data y gellir eu tracio a'u cofnodi.

Dywedodd Dr Dencik: “Yn aml, dywedir bod hyn yn cyflymu'n hymateb i amrywiaeth o broblemau cymdeithasol. Fodd bynnag, gall y prosesau data hyn hefyd gael effaith ar unigolion neu gymunedau cyfan a allai gael eu gwrthod rhag defnyddio gwasanaethau neu gael mynediad at gyfleoedd. Gallant hefyd gael eu targedu'n anghywir neu gall pobl fanteisio arnynt...”

“Beth yw effaith hyn ar degwch a chydraddoldeb, ac ymdrechion i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol yn fwy cyffredinol?”

Yr Athro Lina Dencik Lecturer (Teaching and Research)

Dewiswyd Dr Dencik ymhlith 30 y Gelli - gwyddonwyr, nofelwyr, athronwyr, perfformwyr ac ymgyrchwyr a fydd yn “helpu i ddychmygu'r byd a'i lywio am y 30 mlynedd nesaf”.

Mae Dr Angelina Sanderson Bellamy, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio/Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, yn dadansoddi a oes gwerth i'r hyn a ysgrifennir ar dystysgrifau bwyd.

Pwrpas cynlluniau o'r fath yw tawelu meddyliau defnyddwyr bod y bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd fwy ecolegol, neu sy'n gwella lles y cynhyrchwyr a'r gweithwyr, ond a ydynt yn gwneud hyn? Mae canlyniadau ymchwil diweddar Dr Sanderson Bellamy yn awgrymu fel arall.

Mae'n gofyn: “Ond beth yw effaith hyn a beth yw'r dyfodol ar gyfer cynlluniau labelu bwyd?”

“Sut ydym yn gwneud yn siŵr bod defnyddwyr yn hyderus ynghylch effaith cadarnhaol y bwyd a brynir ganddynt?”

Bydd sgwrs Dr Sanderson Bellamy ddydd Mercher 31 Mai am 16:00.

Bunting at Hay Festival
© Joel Keith-Hill

Y tu hwnt i Gyfres Caerdydd, bydd pigion barddoniaeth gyfoes o America Ladin a dau o awduron gorau America Ladin yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a gyflwynir gan Gyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Caerdydd.

Yn dilyn ei antholeg fawr o America Ladin Gyfoes, bydd y bardd ac awdur yr Athro Richard Gwyn yn ymuno â'r awdur o'r Ariannin, Andrés Neuman, a'r bardd o Gymru, Clare Potter, ar gyfer The Other Tiger ddydd Gwener 2 Mehefin am 19.00.

Yn Gabo a Bolaño bydd yr Athro Gwyn, sy'n Athro Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, yn cadeirio trafodaeth gan dri awdur cyfoes blaenllaw o America Ladin ynglŷn â gwaith uchel ei glod Gabriel García Márquez a Roberto Bolaño. Cynhelir y drafodaeth ddydd Sadwrn 3 Mehefin am 10.00am.

Rhannu’r stori hon

Dewch i gwrdd â'r arloeswyr sy'n defnyddio ymchwil arloesol i greu manteision ar gyfer yr economi, cymdeithas a'r amgylchedd.