Ewch i’r prif gynnwys

Y Cyflog Byw - Profiad Cyflogwyr

11 Ebrill 2017

We are a Living Wage employer - Logo

Mae ymrwymiad cyflogwyr i’r Cyflog Byw gwirfoddol yn gryf, ac mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr Cyflog Byw wedi cael profiad cadarnhaol ohono, yn ôl astudiaeth newydd gan Ysgol Fusnes Caerdydd.

Yn eu hadroddiad Y Cyflog Byw - Profiad Cyflogwyr, bu tîm o Ysgol Fusnes Caerdydd, ym Mhrifysgol Caerdydd, yn edrych ar pam a sut roedd cyflogwyr yn cefnogi’r Cyflog Byw, gan gynnwys y rhesymau dros ei dalu, y manteision busnes, a’r effeithiau cadarnhaol o safbwynt gweithwyr cyflog isel.

Edrychwyd hefyd ar farn cyflogwyr ynghylch Cyflog Byw Cenedlaethol y Llywodraeth - isafswm cyflog statudol uwch ar gyfer gweithwyr 25 oed a throsodd - ac a yw cyflwyno hynny’n lleihau’r angen am y Cyflog Byw 'go iawn'.

Dengys canfyddiadau'r astudiaeth mai awydd i ymddwyn yn gyfrifol yw un o'r sbardunau ar gyfer dod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig.

Ymddengys nad yw'r achrediad Cyflog Byw wedi bod yn ddigwyddiad aflonyddgar na heriol i'r mwyafrif o sefydliadau a fu’n cymryd rhan a nododd y cyflogwyr nifer o enillion, gan gynnwys brandiau gwell, creu gwahaniaeth rhyngddynt a’u cystadleuwyr, a gwell enw da corfforaethol.

Ni chafodd y tîm ymchwil hyd i ddim tystiolaeth bod cyflogwyr yn adennill cost y Cyflog Byw trwy dorri nôl ar ddarpariaethau cyflogaeth eraill, ac nid oedd fawr ddim i awgrymu bod y Cyflog Byw yn cael effaith negyddol ar fuddsoddiad, cyflogaeth na phrisiau.

Er bod cyfran sylweddol o gyflogwyr yn cyfaddef bod y Cyflog Byw wedi codi costau llafur yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, ac wedi amharu ar strwythurau cyflog, roedd heriau o'r math hwn yn gyfyngedig o ran graddfa ac yn ymddangos yn ganlyniadau llai arwyddocaol na’r manteision cadarnhaol.

Nododd yr ymchwilwyr hefyd gefnogaeth barhaus gan gyflogwyr i’r Cyflog Byw gwirfoddol, er gwaethaf cyflwyno Cyflog Byw Cenedlaethol statudol y Llywodraeth yn 2016.

Dywedodd yr Athro Edmund Heery, Ysgol Fusnes Caerdydd, a arweiniodd yr astudiaeth: "Mae'r dystiolaeth a gasglwyd yn yr astudiaeth hon yn cefnogi'r gred bod yr ymgyrch Cyflog Byw yn gynaliadwy ac yn gallu parhau i ddenu cyflogwyr at y dasg o leihau tlodi mewn gwaith."

Ers iddo gael ei greu yn 2011 mae dros 3,000 o cyflogwyr wedi ymrwymo i’r Cyflog Byw, ac ar y cyd mae’r rhain yn cyflogi dros 1.35M o bobl, tua 4.3 y cant o gyfanswm cyflogaeth y Deyrnas Unedig. Amcangyfrifir bod tua 150,000 o weithwyr wedi cael codiad cyflog sylweddol o ganlyniad.

Safon cyflog wirfoddol yw’r Cyflog Byw, ac ar hyn o bryd pennwyd lefel o £8.45 yr awr ar ei gyfer yn y Deyrnas Unedig a £9.75 yr awr yn Llundain. Mae Cyflogwyr Cyflog Byw Achrededig yn cytuno i dalu’r Cyflog Byw i'w gweithwyr uniongyrchol ac i sicrhau hefyd y caiff ei dalu i weithwyr contractwyr sy'n gweithio ar eu safleoedd. I gael rhagor o wybodaeth am y Cyflog Byw ewch i: www.livingwage.org.uk/.

Cynhaliwyd yr ymchwil mewn partneriaeth â’r Sefydliad Cyflog Byw (Living Wage Foundation), yr elusen sy'n hyrwyddo’r Cyflog Byw ac yn achredu cyflogwyr sy'n cytuno i’w dalu. Anfonwyd yr arolwg at yr holl gyflogwyr achrededig ac ymatebodd dros 840 ohonynt (30 y cant).

Cyflwynir Y Cyflog Byw - Profiad Cyflogwyr mewn digwyddiad ar 11eg Ebrill 2017 am 5.30 pm yn Ysgol Fusnes Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un o ysgolion busnes a rheoli blaengar y byd, sy’n canolbwyntio’n ddwys ar ymchwil a rheoli, gydag enw da am ragoriaeth i greu gwelliannau economaidd a chymdeithasol.