Partneriaid niferus yn arafu esblygiad rhywogaethau newydd
11 Ebrill 2017
Mae partneriaid niferus yn drysu'r gronfa genynnau ac yn gwanhau'r gwahaniaethau genetig rhwng poblogaethau, gan arafu esblygiad rhywogaethau newydd, yn ôl ymchwil newydd gan dîm rhyngwladol dan arweiniad Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Esblygiad Milner Prifysgol Caerfaddon.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn y cyfnodolyn academaidd blaenllaw Evolution, ac mae'n groes i'r gred gyffredinol bod dethol rhywiol yn hybu amrywiaeth gan awgrymu bod partneriaid niferus mewn gwirionedd yn arafu esblygiad rhywogaethau newydd.
Aeth y tîm ymchwil dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon a Sefydliad Adareg Max Planck ati i ddadansoddi strwythur genetig poblogaethau o adar y glannau i gofnodi sut roedden nhw wedi esblygu dros amser.
Canfu'r tîm fod rhywogaethau adar aml-gymar, sy'n bridio gyda sawl cymar yn ystod y tymor, yn llai amrywiolyn enetig o fewn y rhywogaeth o'u cymharu â rhywogaethau sy'n paru ag un cymar yn unig ym mhob tymor. Mae hyn yn groes i ddamcaniaethau cyfoes sy'n rhagweld amrywiaeth cyflym ac felly mwy o wahaniaethau genetig rhwng poblogaethau o adar aml-gymar y glannau.
Dadansoddodd Josie D’Urban Jackson, prif awdur y papur, sy'n cael ei chyd-oruchwylio ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerfaddon, y data. Dywedodd: “Oherwydd y pwysau i ganfod mwy nag un cymar, mae ein canfyddiadau'n awgrymu y gallai adar y glannau aml-gymar fod yn chwilio dros ardal eang ac felly’n lledaenu eu genynnau wrth fynd...”
“Ar y llaw arall, dim ond un cymar sydd angen i rywogaethau un-cymar ei ganfod bob tymor, ac maen nhw'n tueddu i ddychwelyd i'r un safleoedd bridio dros amser. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu addasu'n raddol i'w hamgylchedd lleol sy'n cynyddu'r tebygolrwydd y byddant yn ymwahanu ac yn ffurfio rhywogaeth newydd.”
Ychwanegodd yr Athro Tamás Székely o Ganolfan Esblygiad Milner Prifysgol Caerfaddon: “Rydym ni'n teimlo'n gyffrous iawn am y canfyddiadau hyn gan fod y ddamcaniaeth hon yn gwyrdroi'r farn gyffredin yn llwyr...”
“Mae ein hastudiaeth yn gyson â chanfyddiadau blaenorol fod adar aml-gymar ambell waith yn teithio cannoedd o gilometrau i ddod o hyd i gymar addas.
“Er enghraifft, ym Madagascar, gwelsom ni fod cornicyllod aml-gymar yn debyg ar draws yr ynys gyfan, tra bo gan gornicyllod un-cymar gyfansoddiad genetig penodol rhwng lleoliadau cyfagos - sy'n dangos yr un patrwm ag y mae ein hastudiaeth ar raddfa fwy newydd ei gadarnhau.”
Cyllidwyd yr ymchwil gan y Cyngor Ymchwil i'r Amgylchedd Naturiol ac Ymddiriedolaeth Leverhulme.
Cyhoeddir “Polygamy slows down population divergence in shorebirds” D’Urban Jackson et al (2017) yn Evolution.