Angen cydweithio i leihau trais yn UDA, yn ôl arbenigwr yn y DU
30 Mawrth 2017
Byddai modd lleihau trais yn y DU pe bai'r heddlu ac asiantaethau iechyd yn cydweithio, yn ôl arbenigwr blaenllaw yn y DU.
Mae gwaith gwerthuso wedi dangos y gall plismona a mesurau i atal trais fod yn fwy effeithiol o lawer pe bai asiantaethau'n cydweithio i nodi a rhoi sylw i ardaloedd â lefelau uchel o drais. Gallai hyn leihau trais ar strydoedd America, a'r anafiadau sy'n gysylltiedig â hynny.
Wrth ysgrifennu yn JAMA, mae'r Athro Shepherd, Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd, a Dr Steve Sumner, o'r Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Heintiau (CDC) yn UDA, yn dadlau y gall asiantaethau iechyd weithio gyda heddlu i leihau trais drwy ddefnyddio data dienw a gesglir gan adrannau brys ysbytai.
Y 'Model Caerdydd'
Creodd yr Athro Shepherd y 'Model Caerdydd' ar gyfer lleihau trais yn y DU, ar ôl iddo ddarganfod nad yw'r heddlu'n gwybod am dri chwarter o'r digwyddiadau sy'n arwain at driniaeth mewn adran frys ysbytai.
“Mae gwybodaeth benodol ddienw gan ysbytai ynglŷn â lleoliad, amser a diwrnod y digwyddiad treisgar, ynghyd ag unrhyw arfau a ddefnyddiwyd, yn cael ei rhannu â'r heddlu, sy'n eu galluogi i lunio 'map digwyddiadau' misol sy'n dangos amser a natur digwyddiadau treisgar. Gall hyn eu helpu i wybod y lleoliadau mwyaf effeithiol i anfon heddlu er mwyn atal trais ac ymyrryd yn gynnar mewn digwyddiadau,” meddai'r Athro Shepherd.
‘Patrymau trais’
Mae ‘Model Caerdydd’ yn cael ei fabwysiadu yn sir Milwaukee, Wisconsin ar hyn o bryd. Yno, mae’r Athro Stephen Hargarten a’r Gwyddonydd Ymchwil Jennifer Hernandez-Meirer o Goleg Meddygol Wisconsin wedi gweithio gyda Sefydliad Cyfiawnder Cenedlaethol UDA a’r Swyddfa Cymorth Cyfiawnder. “Gyda’r data hwn, gall patrymau trais ddod i'r amlwg. Y cam nesaf fydd annog sefydliadau cymunedol, iechyd cyhoeddus a’r heddlu i lunio a gweithredu cynlluniau er mwyn atal y digwyddiadau hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf,” meddai Jennifer Hernandez-Meier, Gwyddonydd Ymchwil ac un o brif Gyd-Ymchwilwyr y prosiect yng Ngholeg Meddygol Wisconsin.
Mae'r dadansoddiadau cost a budd a gyhoeddwyd yn dangos y gallai mabwysiadu'r model ledled y DU leihau nifer y bobl sy'n cael eu harestio ac anafiadau, ac arbed biliynau o ddoleri mewn costau i wasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd yr Athro Shepherd: “Mae partneriaethau ffurfiol rhwng heddlu a'r gwasanaethau iechyd, ynghyd â safonau llywodraethu gwybodaeth a byrddau atal trais cymunedol, yn un ffordd o wneud i'r cyhoedd ymddiried yn fwy yn yr heddlu ac o leihau trais...”
Mae Model Caerdydd yn cael ei ail-greu mewn sawl gwlad, gan gynnwys Awstralia a'r Iseldiroedd.
Mae'r papur 'Policing and Public Health – Strategies for Collaboration' wedi'i gyhoeddi yn JAMA.