Ewch i’r prif gynnwys

Troseddau casineb Brexit

9 Chwefror 2017

tab on computer showing Twitter URL

Mae grant o £250,000 wedi’i ddyfarnu i’r Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol er mwyn sefydlu canolfan a fydd yn monitro troseddau atgasedd cysylltiedig â Brexit ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn chwarter miliwn o bunnau i helpu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fonitro troseddau atgasedd cysylltiedig â Brexit ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y ganolfan newydd ar gyfer Ymchwil a Pholisi Seiberatgasedd, a ariannir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn canolbwyntio ar ddatblygu offeryn monitro sy’n arddangos ffrwd fyw o ledaeniad iaith atgasedd wrth i hynny ddigwydd ar Twitter.

Y gobaith yw y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu defnyddio'r offeryn i ganfod meysydd sydd angen sylw polisi a gwella ymyriadau er mwyn atal troseddau atgasedd rhag ymledu yn y lle cyntaf.

Dywedodd yr Athro Matthew Williams, prif ymchwilydd y prosiect a Chyd-gyfarwyddwr y Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol: "Dangoswyd bod troseddau atgasedd yn clystyru gydag amser ac yn tueddu i gynyddu, weithiau’n sylweddol, yn sgîl digwyddiadau "sbarduno”.  Mae’r refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd wedi arwain at fynegi rhai safbwyntiau rhagfarnllyd sy’n eiddo i leiafrif o bobl, ac yn sgîl hynny at doreth o droseddau casineb. Mae llawer o'r troseddau hyn yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Over the coming period of uncertainty relating to the form of the UK’s exit, decision makers, particularly those responsible for minimising the risk of social disorder through community reassurance, local policing and online governance, will require near-real-time information on the likelihood of escalation of hateful content spread on social media. This new funding will provide the system and evidence needed to achieve this.”

Yr Athro Matthew Williams Senior Lecturer

Bydd y tîm ymchwil yn defnyddio Brexit i ddangos sut gall digwyddiad “sbarduno” penodol arwain yn fuan at ledaenu atgasedd sy’n gysylltiedig â chrefydd, mewnfudo a senoffobia ar-lein.

Mae’r tîm yn casglu data dros gyfnod o 12 mis, gan ddechrau o 23 Mehefin 2016 pan bleidleisiodd y Deyrnas Unedig o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddant yn defnyddio’r technolegau dysgu peiriant diweddaraf i ddosbarthu, dadansoddi a gwerthuso negeseuon trydar mewn amser go iawn.

Yr arloesedd allweddol sy'n deillio o'r prosiect yw offeryn monitro ar-lein a all ganfod iaith atgasedd ar y cyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y bydd yn ymddangos wedi digwyddiad “sbarduno” penodol.

Bydd yr offeryn hwn yn cynnwys dangosfwrdd ar gyfer llunwyr polisi a dadansoddwyr a fydd yn darparu manylion ynghylch rhagflaenwyr iaith atgasedd, megis y math o ddefnyddiwr cyfryngau cymdeithasol, nodweddion eu rhwydwaith, y math o atgasedd sy’n cael ei fynegi, y cynnwys sy’n cael ei bostio (megis URLs a hashnodau) a ffactorau allanol megis adroddiadau yn y cyfryngau torfol.

Mae'r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda Phennaeth Rhaglen Troseddau Atgasedd Trawslywodraethol y Deyrnas Unedig yng Nghyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC), y Canolbwynt Troseddau Atgasedd Ar-lein yn Swyddfa Maer Llundain ar gyfer Plismona a Throseddau (MOPAC) a Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitan, yn ogystal â sawl elusen amlwg ym maes troseddau atgasedd, gan gynnwys Tell MAMA, Faith Matters a’r Community Security Trust.

Dywedodd Dr Pete Burnap, arweinydd cyfrifiadol y prosiect a Chyd-gyfarwyddwr ar y Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol:  "Hyd yma mae’r wybodaeth a fu ar gael i'r Llywodraeth ar bynciau megis iaith atgasedd yng nghyswllt Brexit wedi bod ar ffurf deunydd post hoc, disgrifiadol.

"Yr hyn sydd ei angen yw dulliau agored a thryloyw y mae modd eu hefelychu, eu dehongli a’u cymhwyso mewn amser go iawn wrth i ddigwyddiadau ddatblygu. Byddwn yn ychwanegu at ein modelau iaith presennol gan ddefnyddio’r dulliau cyfrifiadurol diweddaraf i bori trwy niferoedd aruthrol o ymatebion y cyhoedd a darparu cipolwg ystyrlon ar sylwadau atgas ac ymfflamychol o fewn munudau i rywbeth ddigwydd”

Yr Athro Pete Burnap Lecturer

Mae adroddiadau am droseddau atgasedd ar-lein ac fel arall wedi cynyddu’n ddramatig ers y refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd. Mewn ymateb, ac fel rhan o Gynllun Gweithredu Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Droseddau Atgasedd, mae adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu i amddiffyn addoldai, a chynhelir adolygiad o blismona troseddau atgasedd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi.

Mae gan Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd arbenigedd sy’n arwain y byd ym maes defnyddio cyfryngau cymdeithasol i fonitro troseddau, ac mae wedi creu partneriaeth lwyddiannus gyda Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitan, y Swyddfa Gartref ac Adran yr Heddlu yn Los Angeles.

Mae’r tîm eisoes wedi cynnal nifer o astudiaethau rhagarweiniol ynghylch lledaenu iaith atgasedd ar y cyfryngau cymdeithasol, yn fwyaf arbennig yng nghyswllt llofruddiaeth Lee Rigby yn Woolwich yn 2013.  Yn ystod y misoedd diwethaf mae’r Labordy wedi derbyn cyfanswm cyllid o £700,000 gan ESRC i astudio’r defnydd o Gyfathrebu Ffynhonnell Agored mewn lleoliadau ymchwil academaidd, llywodraethol a thrydydd sector.